Croeso i Gapel y Nant, Clydach, Abertawe

AELODAU PWYLLGOR GWAITH CAPEL Y NANT 2008 - 2011. TREFNWN LUN O'N PWYLLGOR GWAITH NEWYDD MOR FUAN AG Y BO MODD - OND RHAI SWIL YDYN NHW, NEU, WRTH GWRS, MOR BRYSUR GYDA GWAITH YR EGLWYS!

CAPEL Y NANT - YN UNOL ERS 2008

‘Eglwys Gymraeg yw Capel y Nant sy’n ceisio cynnal a hyrwyddo'r ffydd Gristnogol yng Nghlydach, Abertawe.  Derbyniwn ein bod ar daith ysbrydol gan gredu bod y daith honno wedi'i seilio ar gariad Duw, gras Iesu Grist, a chymdeithas yr Ysbryd. Gwnawn ein gorau fel eglwys i werthfawrogi a rhyddhau doniau pawb yn ein plith. Gyda chymorth neges Iesu, ceisiwn herio anghyfiawnder yn y cylch, y genedl a'r byd.’

Mae’r Datganiad uchod yn ffrwyth trafodaeth agored gan aelodau Capel y Nant yn ystod nifer o gyfarfodydd. Cafodd y drafft olaf ei drafod gan Gwrdd Eglwys gan ennill cefnogaeth unfrydol. Eglwys ar ein ffurfiant ydym ... proses heriol ond buddiol i bawb ohonom.


DAETH Capel y Nant i fodolaeth yn 2008 wrth i ddwy eglwys Annibynnol ddod ynghyd yng Nghlydach, Abertawe.
       Hebron oedd y capel a gaewyd, er yn fwy hen ac yn fwy niferus fel eglwys, ond adeilad Carmel a ddewiswyd fel canolfan hardd i'r eglwys newydd oherwydd ei leoliad ynghanol y pentref gyda thir helaeth a lawnt hyfryd ar un ochr iddo.
      O'r cychwyn, bu ysbryd eciwmenaidd i'r fenter wrth i aelodau Eglwys Bresbyteraidd Gymraeg Salem Faerdref gau eu capel hwy a dod i gyd-fyw ac addoli a'r Annibynwyr.
      Ers blwyddyn bellach mae criw o enwad arall, sef y Methodistiaid Saesneg, sydd wedi bod yn cwrdd yn Festri Carmel ers cryn amser, hefyd wedi dod yn bartneriaid yn y fenter.
      Rydym wedi derbyn yr her fel Cristnogion i fentro gyda'n gilydd i'r dyfodol, yn lle parhau i wanychu ar wahan.
     Ond nid niferoedd yw ein cryfder, ond ein cred y cawn arweiniad ar sut i greu eglwys fyrlymus, gyfoes, fydd yn ymdaflu i'r gwaith o adlewyrchu cariad a neges Iesu Grist a Theyrnas Duw yn ein cymdogaeth leol a'n gwlad a'n byd ehangach.
     Gweddiwn am hynny wrth i ni deithio ymlaen yn unol ac yn weithgar.

AR Y DDE UCHOD, LLUN O FANER NEWYDD CAPEL Y NANT A LUNIWYD GAN YR ARTIST IFANC RHODRI NICHOLLS A CHWAEROLIAETH YR EGLWYS. CYFLWYNWYD AR DDYDD SUL, GORFFENNAF 17, 2011

MENTRO AR DREFN NEWYDD

MAE Capel y Nant wedi mentro o’r cychwyn. Wrth i’r eglwysi ddod ynghyd, penderfynodd yr aelodau y dylid arbrofi gyda ffordd newydd o weinyddu yn lle parhau gyda threfn draddodiadol y Diaconiaid a’r Blaenoriaid.

Cytunwyd i sefydlu Pwyllgor Gwaith fel prif gorff rheoli’r eglwys dan awdurdod y Cwrdd Eglwys.

Mae’r Pwyllgor Gwaith yn cynnwys swyddogion etholedig yr eglwys ynghyd â chynrychiolwyr penodol o grwpiau gwaith sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth o weithgareddau perthnasol i weinyddiaeth a thwf yr eglwys.

Crëwyd wyth o grwpiau gwaith, gyda’r aelodaeth yn agored i bob aelod o’r eglwys. Y nod oedd sicrhau cyfle i bawb gyfrannu at fywyd yr eglwys trwy ymuno ag un neu fwy o’r grwpiau. Cewch weld beth yw cyfrifoldebau’r grwpiau wrth bori ymhellach i’r wefan hon.

Yn y llun ar ben y tudalen gwelir aelodau ein Pwyllgor Gwaith o sefydlu'r eglwys yn 2008 i Dachwedd 2011. O’r dde i’r chwith, rhes gefn: Hywel Davies (Cyfathrebu a Chyhoeddusrwydd) a David Waghorn (Adeiladau); ail res o’r cefn, Janice Walters (Addysg), Annette Hughes (Bugeilio), Helen James (Trysorydd), John Morgan Jones (Cyllid); trydedd res o’r cefn, John Evans (cyn-Ysgrifennydd) a’r Parch Dewi Myrddin Hughes (Arweinydd); rhes flaen, Robat Powell (Ysgrifennydd), Gwyneth Watkins (Chwaeroliaeth), Myra James (Addoli) a Geraint Walters (Cadeirydd). Doedd Kathryn Walters (Eglwys a Chymdeithas) ddim ar gael ar gyfer y llun.

AM WYBOD MWY? EWCH YMLAEN ...

EWCH AT EIN TUDALENNAU ERAILL I GAEL BLAS O ADDOLIAD, GWEITHGARWCH A CHYMDEITHAS GYNNES CAPEL Y NANT.

OS HOFFECH WELD MWY O'R WYNEBAU SYDD Y TU OL I'R BWRLWM, COFIWCH YMWELD AG ORIEL CAPEL Y NANT.

Write a new comment: (Click here)

SimpleSite.com
Characters left: 160
DONE Sending...

Dylan Owen | Reply 22.02.2012 17.43

Y wefan yn esiampl ardderchog o sut i gysylltu gyda'r gymuned . Pob bendith.

Hywel Davies 24.02.2012 16.25

Diolch, Dylan. Peth braf yw ceisio dangos y bwrlwm sydd yma. Ymlaen!

ken Williams | Reply 30.10.2011 08.21

Diolch -Duw a'ch bendithio.

Hywel Davies 30.10.2011 17.57

Diolch yn fawr am eich neges garedig, Ken. Pob dymuniad da. Hywel Davies, ar ran Capel y Nant.

Alun Lenny | Reply 06.09.2011 16.01

Llongyfarchiadau mawr ar lunio gwefan drawiadol a defnyddiol. Dyma arf effeithiol i ehangu gwaith yr eglwys. Dymuniadau gorau.

Geraint Tudur | Reply 14.08.2011 15.59

Gwefan ddiddorol a lliwgar. Da iawn chi yng Nghapel y Nant! Daliwch ai!

See all comments

| Reply

Latest comments

24.02 | 16:25

Diolch, Dylan. Peth braf yw ceisio dangos y bwrlwm sydd yma. Ymlaen!

...
22.02 | 17:43

Y wefan yn esiampl ardderchog o sut i gysylltu gyda'r gymuned . Pob bendith.

...
30.10 | 17:57

Diolch yn fawr am eich neges garedig, Ken. Pob dymuniad da. Hywel Davies, ar ran Capel y Nant.

...
30.10 | 08:21

Diolch -Duw a'ch bendithio.

...
You liked this page