TACHWEDD 2022

Diolchgarwch

Daeth criw bach i gwrdd diolchgarwch y Grŵp Bugeilio. Er na allodd rhai ddod mae wastad yn fendith i’r grŵp eu hunain i gael cyfle i ddiolch. Yn ystod y Covid mae wedi bod yn anodd ymweld ond drwy ffôn ac e-bost mae’r cysylltu wedi digwydd gyda help y Pwyllgor Gwaith. Yn ystod diwedd mis Hydref fe ranwyd Cylch lythyr y Grŵp Bugeilio, sy’n cael ei baratoi ddwy waith y flwyddyn, Grŵp yw hwn sy’n gweithio’n dawel ond yn gwneud gwaith pwysig iawn. Gobeithio eich bod fel aelodau yn gwerthfawrogi’r gwaith.Cofiwch gysylltu os ydych am sgwrs neu help. Gwnawn ein gorau. 

Mae’r cysylltiad zoom wedi galluogi rhai sy’n methu dod i’r capel i ymuno mewn oedfa a gweddi- mae rhai o eglwysi eraill yn ddiolchgar iawn am y cyfle. 

Cafwyd oedfa fendithiol iawn dan ofal ein harweinydd ar Sul Diolchgarwch ar y thema Diolch. 

Darllenwyd gan Hannah Thomas a Llywelyn Gannon. Janice Walters oedd yn cyfeilio. Diolch i bawb a ddaeth i addurno’r capel ac am y rhoddion hael i’r Banc Bwyd. Trueni bod rhaid cael y fath le ond gyda’r wasgfa sydd ar hyn o bryd mae mwy a mwy yn gorfod dibynnu ar fanciau bwyd. 

Neilltuwyd Dr Fiona Gannon yn arweindd Capel y Nant nos Sul Ebrill 24.Roedd yr oedfa yng ngofal y Parchg Dewi M. Hughes.Y cyn arweinydd Robat Powell bu’n darllen a gweddio a chyflwynwyd gweddi’r Neilltuo gan Eurig Davies,Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.Canodd Olwen,chwaer Fiona  Gweddi’r Pechadur o waith Morfydd Llwyn Owen.Breuddwydiaf am Eglwys oedd testun unawd Bill a chyflwynodd Llywelyn Gannon i gyfeiliant Jonah Eccott unawd Ave Maria- Bach/Gounod.Yr organydd oedd Janice Walters.Cyflwynwyd cyfarchion ar ran Cyfundeb Gorllewin Morgannwg gan Dr Christian Williams a ‘r Parchg Dyfrig Rees ar ran Undeb yr Annibynwyr.Pregethwyd gan y Parchg Dewi M. Hughes ar y testun “Gadawsant eu rhwydau ac ar unwaith ei ddilyn ef.”

ARWEINWYR BLAENOROL CAPEL Y NANT - ROBAT A DEWI

CAFODD Robat Powell ei 'neilltuo'  fel Arweinydd presennol Capel y Nant mewn oedfa arbennig a gynhaliwyd yn y capel ar nos Iau, Ionawr 17 , 2013.

Roedd y Prifardd Robat yn camu i esgidiau'r Parch Dewi Myrddin Hughes a ymddeolodd ar ddiwedd Rhagfyr ar ol bod yn Arweinydd arnom ers sefydlu Capel y Nant yn 2008. Mawr yw ein dyled i Dewi wrth i ni elwa o'i brofiad a'i ddoethineb yn ystod cyfnod sefydlu einheglwys newydd.

Arweiniwyd Oedfa Neilltuo Robat gan y Parch Ddr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

Ymhlith y rhai a gymerodd ran yn yr oedfa neilltuo oedd dau  o gyn-weinidogion yr eglwysi a ffurfiodd Capel y Nant, sef y Parch Guto Prys ap Gw ynfor a'r Parch Ddr Noel Davies. Cynrychiolwyd Cyfundeb Gorllewin Morgannwg gan y Dr John Davies. 

CAPEL Y NANT - YN UNOL ERS 2008

‘Eglwys Gymraeg yw Capel y Nant sy’n ceisio cynnal a hyrwyddo'r ffydd Gristnogol yng Nghlydach, Abertawe.  Derbyniwn ein bod ar daith ysbrydol gan gredu bod y daith honno wedi'i seilio ar gariad Duw, gras Iesu Grist, a chymdeithas yr Ysbryd. Gwnawn ein gorau fel eglwys i werthfawrogi a rhyddhau doniau pawb yn ein plith. Gyda chymorth neges Iesu, ceisiwn herio anghyfiawnder yn y cylch, y genedl a'r byd.’

Mae’r Datganiad uchod yn ffrwyth trafodaeth agored gan aelodau Capel y Nant yn ystod nifer o gyfarfodydd. Cafodd y drafft olaf ei drafod gan Gwrdd Eglwys gan ennill cefnogaeth unfrydol. Eglwys ar ein ffurfiant ydym ... proses heriol ond buddiol i bawb ohonom.

DAETH Capel y Nant i fodolaeth yn 2008 wrth i ddwy eglwys Annibynnol ddod ynghyd yng Nghlydach, Abertawe. 

       Hebron oedd y capel a gaewyd, er yn fwy hen ac yn fwy niferus fel eglwys, ond adeilad Carmel a ddewiswyd fel canolfan hardd i'r eglwys newydd oherwydd ei leoliad ynghanol y pentref gyda thir helaeth a lawnt hyfryd ar un ochr iddo.
      O'r cychwyn, bu ysbryd eciwmenaidd i'r fenter wrth i aelodau Eglwys Bresbyteraidd Gymraeg Salem Faerdref gau eu capel hwy a dod i gyd-fyw ac addoli a'r Annibynwyr.
      Ers blwyddyn bellach mae criw o enwad arall, sef y Methodistiaid Saesneg, sydd wedi bod yn cwrdd yn Festri Carmel ers cryn amser, hefyd wedi dod yn bartneriaid yn y fenter.
      Rydym wedi derbyn yr her fel Cristnogion i fentro gyda'n gilydd i'r dyfodol, yn lle parhau i wanychu ar wahan.
     Ond nid niferoedd yw ein cryfder, ond ein cred y cawn arweiniad ar sut i greu eglwys fyrlymus, gyfoes, fydd yn ymdaflu i'r gwaith o adlewyrchu cariad a neges Iesu Grist a Theyrnas Duw yn ein cymdogaeth leol a'n gwlad a'n byd ehangach.
     Gweddiwn am hynny wrth i ni deithio ymlaen yn unol ac yn weithgar.

AR Y DDE UCHOD, LLUN O FANER NEWYDD CAPEL Y NANT A LUNIWYD GAN YR ARTIST IFANC RHODRI NICHOLLS A CHWAEROLIAETH YR EGLWYS. CYFLWYNWYD AR DDYDD SUL, GORFFENNAF 17, 2011

FFORDD NEWYDD O WEITHREDU

LLUN: AELODAU EIN PWYLLGOR GWAITH ARLOESOL GYDA LANSIAD CAPEL Y NANT YN 2008

MAE Capel y Nant wedi mentro o’r cychwyn. Wrth i’r eglwysi ddod ynghyd, penderfynodd yr aelodau y dylid arbrofi gyda ffordd newydd o weinyddu yn lle parhau gyda threfn draddodiadol y Diaconiaid a’r Blaenoriaid.

Cytunwyd i sefydlu Pwyllgor Gwaith fel prif gorff rheoli’r eglwys dan awdurdod y Cwrdd Eglwys.

Mae’r Pwyllgor Gwaith yn cynnwys swyddogion etholedig yr eglwys ynghyd â chynrychiolwyr penodol o grwpiau gwaith sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth o weithgareddau perthnasol i weinyddiaeth a thwf yr eglwys.

Crëwyd wyth o grwpiau gwaith, gyda’r aelodaeth yn agored i bob aelod o’r eglwys. Y nod oedd sicrhau cyfle i bawb gyfrannu at fywyd yr eglwys trwy ymuno ag un neu fwy o’r grwpiau. Cewch weld beth yw cyfrifoldebau’r grwpiau wrth bori ymhellach i’r wefan hon.

Yn y llun  uwchben, gwelir aelodau ein Pwyllgor Gwaith o sefydlu'r eglwys yn 2008 i Dachwedd 2011. O’r dde i’r chwith, rhes gefn: Hywel Davies (Cyfathrebu a Chyhoeddusrwydd) a David Waghorn (Adeiladau); ail res o’r cefn, Janice Walters (Addysg), Annette Hughes (Bugeilio), Helen James (Trysorydd), John Morgan Jones (Cyllid); trydedd res o’r cefn, John Evans (cyn-Ysgrifennydd) a’r Parch Dewi Myrddin Hughes (Arweinydd); rhes flaen, Robat Powell (Ysgrifennydd), Gwyneth Watkins (Chwaeroliaeth), Myra James (Addoli) a Geraint Walters (Cadeirydd). Doedd Kathryn Walters (Eglwys a Chymdeithas) ddim ar gael ar gyfer y llun.


Dylan Owen 22.02.2012 17:43

Y wefan yn esiampl ardderchog o sut i gysylltu gyda'r gymuned . Pob bendith.

Hywel 22.10.2012 17:21

Helo, Dylan -
Gair bach i ddweud bod gennym ddatblygiad newydd ar Wefan Capel y Nant, sef Adran Fideo - gyda ffilm o'n Pererindod Flynyddol. Pob dymuniad da.

Hywel Davies 24.02.2012 16:25

Diolch, Dylan. Peth braf yw ceisio dangos y bwrlwm sydd yma. Ymlaen!

ken Williams 30.10.2011 08:21

Diolch -Duw a'ch bendithio.

Hywel 22.10.2012 17:22

Helo, Ken - Gair bach i ddweud bod gennym ddatblygiad newydd ar Wefan Capel y Nant, sef Adran Fideo - gyda ffilm o'n Pererindod Flynyddol. Pob dymuniad da.

Hywel Davies 30.10.2011 17:57

Diolch yn fawr am eich neges garedig, Ken. Pob dymuniad da. Hywel Davies, ar ran Capel y Nant.

Alun Lenny 06.09.2011 16:01

Llongyfarchiadau mawr ar lunio gwefan drawiadol a defnyddiol. Dyma arf effeithiol i ehangu gwaith yr eglwys. Dymuniadau gorau.

Hywel 22.10.2012 17:23

Helo, Alun - Gair bach i ddweud bod gennym ddatblygiad newydd ar Wefan Capel y Nant, sef Adran Fideo - gyda ffilm o'n Pererindod Flynyddol. Pob dymuniad da.

Geraint Tudur 14.08.2011 15:59

Gwefan ddiddorol a lliwgar. Da iawn chi yng Nghapel y Nant! Daliwch ai!

Hywel 22.10.2012 17:24

Helo, Geraint - Gair bach i ddweud bod gennym ddatblygiad newydd ar Wefan Capel y Nant, sef Adran Fideo - gyda ffilm o'n Pererindod Flynyddol. Pob dymuniad da.

| Reply

Latest comments

28.09 | 11:17

Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob dyminiadau gorau oddiwrth aelodi Elim CraigCefn Parc.

19.09 | 09:07

Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gyswllt Zoom wedi newid? Gobeithio yr aeth y gwasanaeth yn iawn.

13.01 | 16:51

Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfawrogi'n fawr eich sgwrs ar hanes Undodwyr yr ardal, gyda'u cyfraniad i ennill hawliau pleidleisio.

08.01 | 15:43

Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!