LLUNIAU CAPEL Y NANT 2008 - 2016

Pedwarawd yn mwynhau clonc

Geraint yn rheoli'r te

Helen yn herio'r glaw wrth greu byrgers perffaith i'r BBQ Haf

Yr ifainc yn croesawu hwyl BBQ Capel y Nant

Bu Te Mefus y Chwaeroliaeth yn llwyddiant ysgubol eto eleni wrth gasglu arian at elusennau

O ydyn - mae'r dynion wrth eu bodd gyda'r mefus hefyd!

Pawb yn gytun - atgofion melys iawn o'r Te Mefus eto.

Gyda baner newydd Capel y Nant - yr artist Rhodri Nicholls gyda rhai o dim y Chwaeroliaeth luniodd y cyfanwaith.

Ein Pererinion o flaen Y Gangell, bwthyn teulu Elfed ym mis Awst.

Rhai o bererinion Capel y Nant yn ymweld a Chanolfan Hywel Dda yn Hendy-Gwyn ar Daf - gan ddathlu bod pwerau deddfu wedi dod yn ol i Gymru eleni wedi sawl canrif coll.

Sheila Powell, cadeirydd ein Grwp Eglwys a Chymdeithas, yn cyflwyno siec am £1,500 i Mrs Kay Parry, ysgrifennydd elusen leol Positive Thinking.

Freda Rees yn dathlu ei phenblwydd yn 90 oed yn y Chwaeroliaeth. Gyda hi yn y llun — Brenda Evans, cadeirydd.

Cymdeithasu wedi oedfa cynta'r mis - ac mae ein stondin nwyddau Masnach Deg yn brysur.

Oes, mae angen tipyn o de a choffi a bisgedi i blesio pawb wrth i bobl Capel y Nant gymdeithasu.

Sgwrs fer wedi'r oedfa cyn symud ymlaen i'r Nant am y cymdeithasu.

Oes, mae digon i son amdano wrth holi am hon a hwn, a hyn a'r llall.

Bu Ceiswyr Lloches ac aelodau Capel y Nant yn rhannu pryd o fwyd a llawer o hwyl ar noson arbennig iawn yn Neuadd y Nant ym mis Tachwedd. Y bwriad wedi llwyddiant y noson yw i rai o'r llocheswyr gael eu croesawu i gartrefi aelodau am bryd o fwyd.

Roedd ein gwesteion o wledydd fel Libanus, Morrocco, Sudan, Kurdistan, Uganda a Libera yn hael eu canmoliaeth wrth flasu bwyd Capel y Nant.

Paratowyd cryn nifer o fagiau'n llawn anrhegion Nadolig i blant ein hardal sy'n byw mewn amgylchiadau anodd gan aelodau Capel y Nant. Yn trefnu cyfraniad Capel y Nant i Apel Mr X oedd Mary Davies.

Dathlu geni'r Iesu yn ystod Oedfaon Nadolig Capel y Nant, Rhagfyr 18, 2011

Canu'r carolau gydag arddeliad ...

Wedi oedfa'r bore cyn y Nadolig - cymdeithasu yn Neuadd y Nant

... Yn gyfle i ddal i fyny gyda'r newyddion ...

... Neu, yn syml, edrych yn bert o flaen y camera!

Noson Mins Peis, Gluhwein a Cwis ... a llawer o hwyl.

Rhai o'n Chwaeroliaeth yn eiddgar am eu pryd Nadolig!

Rhai o grwp Capel y Nant yn dathlu Gwyl Ddewi gyda ffrindiau o blith Ceiswyr Lloches Abertawe.

Cinio Gwyl Ddewi Capel y Nant 2012 yn nhy bwyta'r Manor Park. Un o uchafbwyntiau ein blwyddyn gymdeithasol.

Teuluoedd a chyfeillion ynghyd, o bob oedran. Dyna'r ffordd i ddathlu.

Anrhydeddwyd Dewi eto. Edrychwn ymlaen at 2013 ...

Ein Chwaeroliaeth yn cyflwyno siec am £500 i swyddogion elusen Llyfrau Llafar, Mawrth 2012.

Cystadleuaeth Hetiau'r Pasg wedi denu cystadlu brwd ymysg aelodau'n Chwaeroliaeth. Pasg 2012.

Doreen Hopkins, enillydd Cystadleuaeth Hetiau'r Pasg, Capel y Nant, 2012, yn derbyn ei gwobr. Nawr, beth yw'r holl ffws 'ma am yr Olympics!

Rhai o griw ein Cwrdd Cyfoes yn ffarwelio a Myra James sy'n symud i ardal Wrecsam. Myra sydd yn y crys gwyrdd. Byddwn yn gweld ei heisiau yn fawr. Dymuniada gorau, Myra!

Cawsom oedfa wych ym Mehefin i ddechrau paratoi pawb ar gyfer ein Hymgyrch Croeso fis Medi nesaf (2012). Trefnwyd yr oedfa gan ein Chwaeroliaeth i nodi cyhoeddi Taflen Genhadu newydd Capel y Nant

Cerddorfa 'Tawe Strings' yn perfformio ym Mehefin 2012 ar lwyfan Neuadd y Nant i godi arian at elusennau'r eglwys.

Te Mefus Mehefin - un o uchafbwyntiau'r flwyddyn. Codwyd tua £400 at Gymorth Cristnogol.

Trefnwyd y Te Mefus gan ein Chwaeroliaeth, ond roedd y dynion yn heidio yno!

Ac roedd ein Chwiorydd wrth eu bodd gyda'r mefus hefyd. Pnawn pleserus i bawb.

Pentref ac eglwys hynafol Llanddewi Bref oedd man cychwyn Pererindod blynyddol Capel y Nant 2012. Cawsom ein croesawu i Oedfa Gymun yn yr eglwys ar fore Sul, Awst 19, gan y Ficer, y Parch Dafydd Jones. Yna, aethom ymlaen i ymweld ag Abaty Ystrad Fflur gan fwynhau picnic ger Cors Caron. Ond pentref Llangeitho oedd y nod. Yno cawsom ymweld ag Eglwys Sant Ceitho ble mae bedd Daniel Rowland a Chapel Gwynfil lle bu'n pregethu yn yr hen gapel. Llangeitho. Diwrnod bendigedig. Diolch i Ficer y Plwyf, y Parch Dafydd Jones, am ein croesawu a'n goleuo am hanes Daniel Rowland.

Dyma rai o'n Pererinion ar ol yr Oedfa Gymun yn eglwys Llanddewi Brefi. Yno y newidiodd yr 'heclwr' Daniel Rowlands i fod yn Griston dan ddylanwad Griffith Jones, Llanddowror.

Saib fechan o'r glaw man wrth fwynhau brechdannau yng Nghanolfan Cors Caron. Yna, ymlaen i'r heulwen yn Llangeithio, lle cawsom luniaeth ysgafn trwy garedigrwydd Eglwys Sant Ceitho.

Bu aelodau Capel y Nant ymysg yr actorion ym mhasiant ardderchog Teg Oleuni am fywyd y cenhadwr Griffith John a lwyfannwyd gan Gyfundeb Gorllewin Morgannwg ym mis Medi. Ein harweinydd, y Parch Dewi Myrddin Hughes, gymerodd ran yr arwr-genhadwr Griffith John dreuliodd dros 50 mlynedd yn Tsieina. Roedd hi'n noson i'w chofio.

Y Tabernacl, Treforys - ysblennydd ar noson pasiant Teg Oleuni - nos Fercher, Medi 12.

Criw Capel y Nant a chyfeillion yng ngwyl Diwrnod i'r Brenin ar Faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd, Hydref 2012

Nadolig 2012, a chyfle i aelodau Capel y Nant gynnal oedfa gyda'n ffrindiau yng Nghartref Park View. Dyma Annette gyda Linda, Nan a Beti

Robat Powell yn cael ei longyfarch wrth ddod yn Arweinydd newydd Capel y Nant yn Ionawr 2013 gan ei ragflaenydd y Parch Dewi Myrddin Hughes.

Chwefror 2013 - cwblhau prosiect addasu Capel y Nant ar gyfer pobl anable ac oedolion ... Ac yn y broses, gwneud y capel hardd yn fwy hwylus i bawb ohonom.

Cymaint mwy o le i gymdeithasu'n hapus cyn ac wedi ein hoedfaon ar ol symud rhai o'r seddau yn y cefn ...

... Ac yn blaen hefyd - mwy o le ar gyfer yr anabl, sydd hefyd yn cynnig y cyfle i greu patrymau newydd i'n hoedfaon, ac, eto, yn rhoi mwy o le i'n haelodau sgwrsio'n ymlaciol.

Cafwyd noson hyfryd iawn ar Fawrth 27, 2013, i ddangos ein diolch i'r Parch Dewi Myrddin Hughes am fod yn Arweinydd arnom ers sefydlu'r eglwys yn 2008. Yn y canol mae Dewi, Annette ar y dde gan gofio am ei chyfraniad amrhisiadwy hi, a Geraint Walters, Cadeirydd ein Pwyllgor Gwaith, ar y chwith.

... Ac roedd ein neuadd yn llawn dop o aelodau oedd yn frwd i ddangos ein gwerthfawrogiad o gyfraniad Dewi ac Annette i dwf ein heglwys newydd. Ac roeddem mor falch i groesawu aelodau o'r teulu i ymuno yn ein dathliad.

Un o ferched Clydach, y Parch Beti Wyn James, yn lansio'i llyfr, 'A Wnaiff y Gwragedd?' ynghanol ei ffrindiau yng Nghapel y Nant, gyda'i rhieni Mary a Walford Davies ar y chwith. Ebrill 2013

Darpar swyddogion technegol Capel y Nant yn gwerthfawrogi sesiwn hyfforddiant gyda'n myfyriwr, Dylan Rhys Parry. Diolch i Dylan am ei gyfraniad yn ein plith. Ebrill 2013.

Wedi oedfa'r Sulgwyn, 2013, a'r gynulleidfa niferus wedi mwynhau gweld hen faneri'r Gorymdeithiau sydd bellach yn rhan o hanes Clydach. Cynhaliwyd Arddangosfa wych am yr hanes yng Nghapel y Nant ar y cyd gyda Chytun ar Ddydd Gwener, Mai 17.

Rhai o'r ymwelwyr i Arddangosfa Gorymdeithiau Sulgwyn Clydach yn mwynhau edrych ar y lluniau a gasglwyd a darllen darnau o atgofion a recordiwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur.

Pawb yn mwynhau Te Mefus ein Chwaeroliaeth eto eleni - gan wneud £300 i Uned y Galon, Ysbyty Treforys (Meh 18 2013)

Llawer o hwyl ar bnawn braf gyda'r mefus - a mwy!

Mefus - a sgwrs, wrth gwrs.

Pedwarawd wrth eu bodd yn ystod Pererindod 2013 Capel y Nant - i ardal Y Fenni, gan gynnwys Cwm Du a Chwm Clydach.

Y criw'n ymweld a Chastell ac Amgueddfa'r Fenni.

Ein pererinion - yn mwynhau picnic ar lawnt Eglwys hyfryd y Priordy ynghanol tref y Fenni.

Frank Olding, swyddog treftadaeth Cyngor Blaenau Gwent, a bardd Cymraeg o fri, yn son am hanes ardal y Fenni.

Sheila Powell, Cynullydd Grwp Eglwys a Chymdeithas Capel y Nant, yn cyflwyno siec am £1,200 i gynrychiolwyr ShareTawe. Medi 2013.

Yr Athro Daniel Williams (sax) a Dave Jones (piano) yn cyflwyno Noson Jazz arloesol Capel y Nant ar Nos Iau, Hydref 3, 2013. Profodd yn noson bleserus a llwyddiannus iawn gan godi £320 at Apel Haiti.

Y gynulleidfa wrth eu bodd gyda'r darnau jazz a'r cyflwyniadau diddorol gan Daniel rhwng yr eitemau. Mae Daniel a Dave yn aelodau o grwp jazz Cymreig enwog 'Burum.'

Daniel Williams (Sax) a Dave Jones (piano) yn ein hudo a rhythmau amrywiaeth o jazz gan gynnwys rhai darnau'n seiliedig ar alawon gwerin Cymru. Diolchwyd yn frwd iddynt am y noson wahanol a hyfryd hon yn Neuadd y Nant. Mwy i ddod?

Brecwast Nadolig! - Achlysur arloesol a phleserus iawn iwrth inni ddechrau dathliadau Gwyl y Geni am 9.30 ar fore Sul, Rhagfyr 8. Lluniaeth amrywiol cyn defosiwn hyfryd wedi'i harwain gan Annette Hughes. Pawb yn gytun - dyma ddechrau traddodiad newydd yng Nghapel y Nant.

Noson Carolau a Mins Peis hwyliog iawn ar nos Wener, Rhagfyr 20. Un o uchafbwyntiau cymdeithasol ein blwyddyn!

Oedfa Nadolig yr Ifainc - Rhagfyr 20, 2014, a'r capel wedi'i addurno'n hyfryd eto eleni.

Y gynulleidfa niferus yn gwerthfawrogi cyflwyniad dramatig - a doniol - ein pobl ifainc, wedi'i sgriptio'n gelfydd gan ein Harweinydd, Robat Powell.

Tim buddugol Cwis Blynyddol Capel y Nant yn dathlu ar ddiwedd ein Noson Carolau a Mins Peis hynod bleserus ar nos Wener, Rhagfyr 20, 2013.

Rhai o Gapel y Nant yn dathlu Dydd Gweddi Gwragedd y Byd gyda chwiorydd o eglwysi eraill yn Eglwys y Santes Fair, Clydach, ym Mawrth, 2014.

Offerynwyr gwerin lleol Y Bardd Bach yn cynnal noson afieithus yn neuadd Capel y Nant ar nos Wener, Chwefror 28, 2014. Diolchwyd yn fawr i'r criw am helpu ein cyfraniad at Apel Haiti.

Cynulleidfa werthfawrogol iawn o fwrlwm yr alawon gwerin Cymreig. Mae criw'r Bardd Bach yn croesawu pawb i'w sesiynau anffurfiol yn Nhy Tawe ar ail nos Wener bob mis.

Rhai o'r criw brwd fu'n paratoi Cinio Grawys yn Neuadd Capel y Nant yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol mis Mai 2014

Rhai o'n grwp Amnest Rhyngwladol yn ysgrifennu llythyrau yn ystod Cwrdd Cyfoes ar Fai 25, 2014, i geisio helpu Cymuned Heddwch San Jose de Apartado sydd dan bwysau enbyd gan grwpiau treisgar yn Colombia De America.

Dathliad blynyddol Partneriaeth Capel y Nant gyda'r eglwys Fethodistaidd Saesneg sy'n cwrdd yn ein Neuadd a gynhaliwyd ar Fai 18, 2014 - yn y canol y pregethwr gwadd y Parch Llewelyn Picton Jones, Pontarddulais, ynghyd a rhai o aelodau Capel y Nant a'r Parch Pam Cram, gweinidog y Methodistiaid.

Rhai o'r tim fu'n paratoi Te Mefus blynyddol ein Chwaeroliaeth eleni - un o uchafbwyntiau'r flwyddyn eto yn 2014

Wrth eu bodd yn y Te Mefus ...

... wedi cael amser ardderchog yn y Te Mefus.

Huw Bowen yn arwain y gemau gyda'r Ieuenctid yn ystod Picnic Pentecost y Parc a gynhaliwyd gan eglwysi ar y cyd ym Mharc Gwilym, Clydach, ar bnawn Sul, Mehefin 8, 2014.

Ymweld a bro'r Diwygiwr Howell Harris wnaethom am ein Pererindod Flynyddol ar ddydd Sul, Awst 31, 2014. Braf iawn oedd dechrau'r dydd wrth gael ein croesawu i ymuno ag aelodau Capel y Plough, Aberhondda, yn eu hoedfa foreol.

Cawsom esboniad diddorol iawn o hanes Capel y Plough gan y gweinidog, y Parch Michael Hodgson. Diolch iddo am ei groeso cynnes.

Eglwys hyfryd y Santes Gwendloline y mhentref Talgarth oedd y llecyn nesaf ar ein pererindod. Yma y clywodd yr Howell Harris ifanc bregeth a'i ysbrydolodd i ystyried ei ffydd yn ddwys.

Cawsom sgyrsiau yn yr eglwys ac yn y fynwent am hanes Howell Harris gan arweinydd Capel y Nant, y Prifardd Robat Powell.

A dyma bererinion Capel y Nant wedi ymgynnulll wrth borth Eglwys Talgarth.

Dyma Robat yn areithio oddi ar un o'r beddau ym mynwent Eglwys Talgarth.

Cawsom orig fechan i fwynhau hyfrydwch Llyn Safaddan ger Llangors wrth deithio rhwng Talgareth a man geni Howell Harris yn Nhrefecca.

Trefecca - man geni Howell Harris a chartref 'Teulu'r' Diwygiwr yn y 18fed Ganrif wrth iddo arwain cynnwrf crefyddol ledled Cymru. Mae'r safle'n dal yn Ganolfan Gynadledda Gristnogol. Yma fe gawsom sgwrs ddiddorol gan aelod o'r staff a chyfle i ymweld a'r amgueddfa am fywyd Howell Harris. Wedi hynny, daeth ein dydd pleserus i ben gyda phryd yng Ngwesty'r Castell yn Aberhonddu. Diolchwyd yn fawr i'n Harweinydd, Robat, am drefnu Pererindod mor ddiddorol.

Y criw brwd fu'n arwain Oedfa Diolchgarwch Capel y Nant ar ddydd Sul, Hydref 12. Diolch yn fawr i'r ieuenctid - ac i'r cyfeillion ychydig yn fwy hen oedd yn eu cynorthwyo.

Rhai o aelodau Chwaeroliaeth Capel y Nant gyda'r casgliad diddorol o'u hoff drysorau y daethant gyda nhw i'w hesbonio mewn cyfarfod diweddar.

Fel cyfraniad at ymgyrch Newynu am Gyfiawnder Hinsawdd Cymorth Cristnogol, lluniodd Grwp Eglwys a Chymdeithas Capel y Nant Lwybr Gweddi Newid Hinsawdd o gwmpas pentref Clydach. A dyma ni yn griw o nifer o eglwysi'r ardal ger rhaeadr hyfryd Afon Clydach Isaf wrth gerdded ar hyd y llwybr ar fore Sadwrn, Hydref 18. Dyma oedd un o 9 o lefydd lle buon ni'n gweddio ein bod yn dewis byw mewn ffordd ysgafn ar y Ddaear - er cyfiawnder i'n cymdogion yn y gwledydd tlawd.

Rhai o aelodau Grwp Bugelio Capel y Nant - yn gweithio'n galed ac yn llawen wrth gynnal aelodau anghenus yr eglwys yn eu cartrefi ac mewn ysbytai'r ardal. Gwerthfawrogi eu gwaith yn fawr.

Arweinydd Capel y Nant, y Prifardd Robat Powell, yn cael ei gyfarch gan y Parch Jill Hailey-Harris wrth iddo ddod yn Lywydd ar Gyfundeb Gorllewin Morgannwg ar Hydref 12, 2014.

Yn dathlu Sul y Beibl yng Nghapel y Nant ar Hydref 26 - cynrychiolwyr nifer o eglwysi Clydach a'r fro gyda Llinos Owen, Llywydd yr Oedfa, yn dal baner Mari Jones.

Glenys Kim Prothero o Frynaman (ar y chwith) wedi cyflwyno sgwrs hynod ddiddorol i Chwaeroliaeth Capel y Nant (Tachwedd 4, 2014) - yng nghwmni Llywydd y Chwaeroliaeth, Brenda Evans.

Aelodau ein Chwaeroliaeth yn mwynhau eu Cinio Nadolig yn y George, Cwmtwrch, yn Rhagfyr 2015

Rhagfyr 2014: Yr hen Gapel / Festri bellach ar ei newydd wedd fel Neuadd y Nant - neuadd aml-bwrpas ardderchog Capel y Nant ... Dyma flas o'r hyn sydd gennym ar gyfer defnydd yr eglwys a'r gymuned. Diolch am bob cymorth gawson o ran y costau a'r cynllunio.

Neuadd eang, aml bwrpas.

Cegin fodern, hyfryd.

Mawrth 2015: Llond y lle ar gyfer Agoriad Swyddogol ein Neuadd ar ei newydd wedd gan y Parch Ddr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Annibynwyr, ar bnawn Iau, Fawrth 5, 2015.

Lluniaeth blasus a chymdeithasu brwd yn y Neuadd newydd.

Wedi'r Agoriad Swyddogol, y llun swyddogol, o'r chwith i'r dde: y Parch Ddr Geraint Tudur, y Parch Pam Cram (gweinidog Eglwys Fethodistaidd Clydach) ac Arweinydd Capel y Nant, y Prifardd Robat Powell.

Ac yna, allan a ni ar gyfer llun gan ffotograffydd yr Evening Post - gyda chyhoeddusrwydd gwerthfawr iawn yn dilyn yn rhifyn y diwrnod canlynol (sef Gwener, Mawrth 6, 2015). Dydd i'w gofio.

Brenda Evans yn cyflwyno siec am £500 oddi wrth Chwaeroliaeth Capel y Nant i Catrin Hall i hybu gwaith gwych Ambiwlans Awyr Cymru. Ebrill 2015.

Criw byrlymus ein Chwaeroliaeth yn croesawu Catrin Hall ar ran Ambiwlans Awyr Cymru.

Hapus i fod yn rhan o ddathliad Cwrdd Gweddi Gwragedd y Byd 2015 - oedfa arbennig yng Nghalfaria, Clydach.

Aelodau bywiog ein Chwaeroliaeth yn dod ag ysbryd y Caribi i oedfaon Capel y Nant - sef wrth gyflwyno oedfa baratowyd gan Fenywod Cristnogol ynysoedd y Bahamas ar fore Sul, Mehefin 21. Mae oedfaon rhyngwladol fel hon wedi dod yn gyfraniad pwysig at addoliad yr eglwys.

2015 oedd yr ail flwyddyn i Gapel y Nant blannu hadau Blodau Gwyllt fel ein cyfraniad at gynnal gwenyn, gloynod byw a phryfetach eraill sydd dan warchae. Araf oedd y tyfu yn ystod Haf braidd yn oer a gwlyb, ond daeth y blodau erbyn canol Awst. Ac roeddem yn falch i'w croesawu o flaen ac wrth ochr y capel.

Roeddem wedi plannu gwely blodau arbennig eto eleni (2015) wrth y llwybr i'r capel a Neuadd y Nant.

Dyma ddwy o'n grwp garddio anffurfiol wrthi'n trafod eu gwaith, sef Viv John a Charlotte Davies. Llun gan Hywel Davies, y 3ydd aelod o'r grwp. Croeso cynnes ac agored i eraill am syniadau ar sut y gallem hybu bywyd gwyllt ar dir y capel.

Cawsom faneri yn ystod haf 2015 i roi ar ffens Capel y Nant a Neuadd y Nant i sicrhau mwy o gyhoeddusrwydd i'n henw fel eglwys yn y gymuned.

A chyhoeddusrwydd newydd, hefyd, i Neuadd y Nant sy'n datblygu fel canolfan gymunedol i amrywiaeth o weithgarwch ym mhentref Clydach.

Dewi ac Annette Hughes wrth eu bodd wedi i aelodau a chyfeillion dyrru i Neuadd y Nant ar nos Fercher, Medi 16, 2015, i gynnal noson gofiadwy i Dewi wrth ddathlu ei 50 mlynedd yn y weinidogaeth. Diolch a llongyfarchiadau, Dewi!

Arweinydd Capel y Nant, y Prifardd Robat Powell, yn annerch y Neuadd lawn cyn cyflwyno Cywydd Cyfarch i Dewi i nodi'i 50 mlynedd fel Gweinidog yr Efengyl, sef o 1965 hyd 2015 - a mwy!

Cadeirydd Cyfundeb Annibynwyr Gorllewin Morgannwg, Robat Powell, yn cyfarch Marilyn Thomas o fudiad ShareTawe, Seydou o Senegal, a'r Gwir Barchedig Rowan Williams, ar Sul y Cyfundeb a gynhaliwyd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe ar ddydd Sul, Medi 13. Roedd y neuadd dan ei sang i glywed y cyn-Archesgob yn annerch ac yn ateb cwestiynau yn y bore ac yn pregethu yn y prynhawn. Diwrnod gwerthfawr tu hwnt.

Roedd ein cynulleidfa yn oedfa bore Sul, Tachwedd 8, 2015, yn gallu ymweld a 4 arddangosfa yn y capel ar thema 'Duw a Daear'. Roedd hon yn diolch am y bobl ddoeth sydd wedi'n cynghori am Gynhesu Byd-eang ...

Actorion Capel y Nant wedi perfformiad o 'Y Bet', sef ein Drama Nadolig a grewyd yn ei arddull arbennig gan Robat Powell (yn y llun nesa' at y talaf o'r Doethion!), Arweinydd yr eglwys. (Sul, Rhagfyr 20)

Addurniadau Nadolig hyfryd Capel y Nant yn barad at ddathlu geni'r Iesu. Diolch i'r rhai talentog sy'n gyfrifol yn anhysbys yn flynyddol am y gwaith chwim a chelfydd. Mae pawb yn gwerthfawrogi'n fawr.

Yn Neuadd y Mond ar noson Cwis Blynyddol Cymorth Cristnogol Clydach 2016, Alan Cram, cadeirydd lleol Cymorth Cristnogol, a Robat Powell, arch Gwisfeistr y fro.

Y tim buddugol - yn galw'u hunain yn dim 'Y Drips- ar ddiwedd cystadlu brwd Noson Gwis Cymorth Cristnogol, yn Neuadd y Mond, Clydach, Chwefror 2016.

Un arall o'r timau fu'n gwneud eu gorau glas yng Nghwis Cymorth Cristnodol yn Neuadd y Mond. Cafwyd noson hwyliog dros ben wrth gystadlu ac wrth fwynhau prydau blasus o gyw iar a sglodion a bwydydd llysieuol.

Cafwyd dathliad teilwng iawn gan aelodau Capel y Nant o Wyl ein Nawddsant cenedlaethol Dewi - yn y New Inn, Clydach, wedi oedfa'r bore ar Sul, Chwefror 28.

Braf iawn oedd gweld teuluoedd a ffrindiau'n dod ynghyd yn y dathliad gwladgarol blynyddol poblogaidd hwn gan Gapel y Nant. Roedd tua 70 o bobl yn bresennol a swn y mwynhad Cymraeg yn diasbedain trwy'r New Inn croesawgar!

Ifanc a hen, dyw oedran ddim yn cyfrif, nac yn rhannu, wrth ddod ynghyd i ddathlu Dewi Sant. Llongyfarchion i drefnwyr diwyd yr achlysur hapus hwn. Edrychwn ymlaen at 2017!

Ar fore Sul, Mawrth 13, 2016, cafodd criw llawen ein Cwrdd Cyfoes gyfle i groesawu Eluned a'i babi bach, Efa, adre ar ymweliad o Awstralia bell. A dyma bawb ohonom gan gynnwys Sali Wyn, y famgu hapus, ac Wncl Iestyn balch.

Grwp o'r gweithwyr yn y Gwerthiant Dillad-Bron-Newydd llwyddiannus a gynhaliwyd yn Neuadd y Nant yn Ebrill, 2016 - o'r chwith i'r de, Doreen Hopkins, Sheila Powell, Bet Jones, Josie Jones a Brenda Evans. Codwyd swm sylweddol i'n helusennau.

Catherine Evans a Brenda Evans yn cyflwyno siec ar ran Chwaeroliaeth Capel y Nant am £700 i Gofal, elusen ganser Gorllewin Cymru Gofal, gyda chynrychiolydd o'r elusen yn bresennol ar y dde.

Roedd cynulleidfa fawr yn Neuadd y Nant ar fore Sul, Mehefin 12, 2016, i fwynhau addoliad byrlymus yng nghwmni grwp Cristnogol Ny Ako o Fadagascar ...

Roedd pawb wedi gwefreiddio gyda chaneuon a dawnsfeydd traddodiadol a neges ein ffrindiau newydd o ynys Madagascar. Mae mwy o luniau o'r oedfa gofiadwy hon ar dudalen arbennig 'Oedfa Ny Ako' ar y Wefan hon. Ewch at y rhestr ar chwith ein tudalennau.

Grwp o Chwaeroliaeth Capel y Nant gyda'r Dr Charlotte Davies wedi iddi roi sgwrs iddyn nhw am hanes dinas Charleston, De Carolina. Gwelir Charlotte yn y rhes flaen yn dal engraifft o'r basgedi gwair-y-mor traddodiadol a wneir hyd heddiw yn ardal Charleston gan ddisgynyddion y bobl gafodd eu cludo fel caethweision o'r Affrig i America. Mae rhai o deulu Charlotte yn byw yn Ne Carolina.

Y chwiorydd dawnus Fiona Gannon ac Olwen Turchetta gyda'u ffrind Vere Smyth wedi'r cyngerdd ardderchog roesant yng Nghapel y Nant ar Orffennaf 23, 2016. Codwyd dros £200 tuag at ein helusennau, sef at ymchwil Alzheimer's ac Apel Feddygol Bhopal. Diolch yn fawr i'r tri am noson hyfryd.

Cynhaliwyd Cymanfa Ganu lwyddiannus iawn yng Nghapel y Nant ar Orffennaf 24, 2016, i nodi ymddeoliad y Parch Pam Cram fel bugail grwp Methodistaidd Clydach sy'n bartneriaid a ni fel eglwys. Gyda Pam yn y llun mae'r Parch Howard Long, Arolygydd Cylchdaith y Methodistiaid (ar y chwith), ac Arfon Jones (ar y dde), arweinydd y Gymanfa.

Yr artist Walford Davies gyda llun o'i waith o bentref Clydach a gyflwynwyd i Pam Cram gan Gapel y Nant i nodi ei hymddeoliad.

Cafodd criw hapus o Gapel y Nant Bererindod arall i'w gofio ar Sul, Awst 28, 2016. Y tro hwn, teithasom ar ddydd hudolus o haf i bentrefi Bro Morgannwg. Profasom gyffro tra'n ymweld a mannau fu'n datgan y dystiolaeth Gristnogol yn y Fro dros y canrifoedd. Yn gyntaf, cawsom groeso cynnes gan aelodau Capel Croes y Parc, Llanbedr y Fro, i addoli gyda nhw yn eu hoedfa foreol. Canasom emyn enwog 'Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau' o waith Dafydd William fu'n weinidog yng Nghroes y Parc yn y 18fed Ganrif.

Cafwyd emynau modern Saesneg i gyfeilliant gitar, allweddell, drymiau a simbalau yn yr oedfa hyfryd yng nghapel Croes y Parc ...

Annisgwyl, i ni, oedd gweld drymiau a'r simbalau yn y pwlpud yn lle pregethwr!

... Ond roedd gwerthfawrogiad wrth i'r Gymraeg atsain rhwng waliau'r capel eto wrth i griw Capel y Nant ganu 'Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau.'

Pererinion Capel y Nant yng nghapel Croes y Parc wedi oedfa'r bore - cyn mynd ymlaen i ymweld a bedd Dafydd William a mwynhau te a choffi caredig yn neuadd newydd sbon yr eglwys ...

Dyma fedd yr emynydd Dafydd William ym mynwent Croes y Parc. Daeth ei emyn 'Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau' i enwogrwydd ledled y byd wrth iddo gael ei ganu gan lowyr yn ystod yr ymdrechion i'w hachub ym 1877. Roedd y glowyr wedi cael eu dal dan ddaear gan ddwr oedd wedi llifo i lofa Tynewydd, y Rhondda.

Nesaf, buom yn ymweld a chapel Bethesda'r Fro, Sain Tathan, gan dderbyn croeso hyfryd yno hefyd. Yma buom yn canu'r emyn 'Adenydd colomen pe cawn' gan Thomas William, un a wasanaethodd yr eglwys yn hir. Gwelsom ei fedd yntau ym mynwent y capel.

Bedd yr emynydd Thomas Williams ym mynwent Bethesda'r Fro.

Gyda'r haul yn dal i wenu o wybren las, cawsom ymweld ag Eglwys Sant Illtud yn Llanilltud Fawr ar ddiwedd y pnawn. Braf oedd cael ein tywys o gwmpas yr eglwys brydferth hon. A gwych oedd gweld yr amgueddfa newydd o feini Cristnogol hynafol yma yng 'Nghrud Cristnogaeth Geltaidd.' Do, wir, cawsom fendithion ar hyd y dydd ar y pererindod cofiadwy hwn i Fro Morgannwg Gristnogol.

Chwaeroliaeth Capel y Nant yn cyflwyno oedfa am yr India wedi sgwrs gan Bethan Richards o gapel Trinity, Sgeti, am ei hymweliad a'r India ym mis Hydref 2016.

Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell, yn cyflwyno siec am £1500 a godwyd gan ein Grwp Eglwys a Chymdeithas i hybu gweithgarwch Ty Croeso, Clydach. Derbyniwyd y siec ar ran Ty Croeso gan y Parch Pam Cram ac Eurig Davies.

Tair cenhedlaeth yn cynnau'r Gannwyll Adfent yng Nghapel y Nant ar fore Sul, Tachwedd 27, 2016 - o'r dde i'r chwith, Sali, Joan a Mary.

Robat Powell yn diolch i'r Ifanc am eu hoedfa hyfryd a'u drama Nadolig fywiog a chyfoes ar fore Sul, Rhagfyr 18, 2016. Diolch i'r holl griw am eu gwaith gwych ac i Robat ei hun am y creu a'r cyfarwyddo. Roedd pawb wrth eu bodd gyda'r oedfa.

Rhai o'r actorion a'r 'stage-hands' ...

Bu'r hoff alawon Gwyl y Geni yn adsain trwy'r capel ...

Dyma lun o berfformwyr Drama'r Nadolig - nage, nid gan 'drone' ond o'r oriel!

Roedd y capel wedi cael ei addurno'n gelfydd ar gyfer ein dathliadau Nadoligaidd ...

... Ac wrth gymryd ei lle'n urddasol ymhlith yr ifanc, fe gafodd y Frenhines Cleopatra groeso mawr ar ei hymweliad cyntaf a Chapel y Nant! Oedfa Nadolig arall i'w chofio. Diolch i bawb am y cyflwyniad.

Aelodau Chwaeroliaeth Capel y Nant yn mwynhau Cinio Nadolig 2016 yn Nhafarn y Glais ar Ragfyr 12.

Mwy eto o griw llawen ein Chwaeroliaeth yn joio'u gwledd Nadolig yn Nhafarn y Glais.

Ein Cwis Nadolig blynyddol - llongyfarchiadau i fuddugwyr Cwis 2016!

DYMA ychydig o flas o'r amrywiaeth o weithgareddau a gafwyd gennym yng Nghapel y Nant ers ein sefydlu fel eglwys yn 2008, e.e., hwyl BBQ Haf cyntaf yr eglwys, aelodau a ffrindiau'n mwynhau Te Mefus blynyddol ein Chwaeroliaeth, dadorchuddio baner newydd yr eglwys a ddyluniwyd gan un o'n hieuenctid, yr artist ifanc, Rhodri Nicholls, ac a luniwyd gan rai o aelodau o'r Chwaeroliaeth. Mae yma hefyd adlewyrchiad o'r gwasanaethau bywiog ac amrywiol sydd wedi nodweddu ein haddoli dros y blynyddoedd. Gwelir, hefyd, rhai ohonom ar ein Pererindod Haf - ym mis Awst, 2011  i'r Gangell, lle magwyd yr emynydd Elfed, ac yng Nghanolfan Hywel Dda yn Hendy-Gwyn ar Daf; yn Awst 2012 i fro Daniel Rowland yn Llanddewi Brefi a Llangeithio; yn Awst 2013 i ddilyn hanes Carnhuanawc yng Nghwm Du a'r Fenni; yn Awst  2014 i fro Howell Harris i Aberhonddu, Talgareth a Threfeca; ac i Gapel Croes y Parc, Llanbedr y Fro, a Bethesda'r Fro, Sain Tathan, yn Awst 2016. Roedd ein Pererindod Haf mwyaf diweddar ar Orffennaf 16, 2017, i fro William Williams, Pantycelyn, gan ddathlu ei 300 mlwyddiant. Ceir cipolwg, hefyd, o'r cymdeithasu brwd, amrywiol sydd ar gael yn ein Neuadd a drowyd yn Neudd y Nant newydd , fodern, yn 2015. Bwrlwm o weithgarwch yn wir.

GWASGWCH Y SAETH YN Y LLUN UCHOD AC MAE'R CYFAN YN SYMUD AR EI LIWT EI HUN!

Geraint Tudur 07.12.2019 13:28

Wedi mwynhau y wefan newydd yn fawr. Atgofion . . ., a diolch amdanynt! Pob dymuniad da i bawb yng Nghapel y Nant. Bendith arnoch!

Hywel Davies 07.12.2019 16:56

Diolch yn fawr am eich ymateb, Geraint. Rydym yn sicrhau presenoldeb i'r eglwys ar Facebook hefyd, erbyn hyn. Pob dymuniad da, Hywel D ar ran cyfeillion CyN.

| Reply

Latest comments

28.09 | 11:17

Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob dyminiadau gorau oddiwrth aelodi Elim CraigCefn Parc.

19.09 | 09:07

Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gyswllt Zoom wedi newid? Gobeithio yr aeth y gwasanaeth yn iawn.

13.01 | 16:51

Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfawrogi'n fawr eich sgwrs ar hanes Undodwyr yr ardal, gyda'u cyfraniad i ennill hawliau pleidleisio.

08.01 | 15:43

Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!