 |
 |
|
 |
 |
CROESO I WEFAN CAPEL Y NANT
GWEDDI MAI 2022
Dad annwyl,
Codwn bobloedd Wcr
áin a Rwsia atat, pob plentyn ac oedolyn. Dyh
ë
wn am
droi arfau rhyfel yn sychau a phladuriau, pan na fydd cenedl yn codi cleddyf yn erbyn cenedl. Codwn ein llais atat am heddwch.
Amen
OEDFAON MAI 2022
OEDFAON MAI 2022
Mae rheolau a mesurau diogelwch Covid wedi'u llacio, ond byddwn yn dal i barchu teimladau pobl a'u dymuniad i gadw'n ddiogel.
Bydd Oedfaon 10.30 yn y Capel a thros Zoom:
Sul 1 Mai:
Cynhelir Oedfa Gymun am 10.30 y bore. Bydd y cyfarfod ar ffurf gwasanaeth Taizé o dan ofal Annette a Janice.
Sul 8 Mai:
Cwrdd Cyfoes am 9.30 y bore o dan arweiniad Dewi Lewis.
Bydd Oedfa Deuluol yn dilyn am 10.30 ar thema Cymorth Cristnogol o
dan arweiniad Dewi ac Annette.
Sul 15 Mai:
Croesawn y Parchedig Gerald Jones, Llangennech, atom i gynnal Oedfa'r Bore am 10.30.
Sul 22 Mai:
Oedfa'r Bore am 10.30 o dan arweiniad y Parchedig Gwilym Wyn Roberts, Caerdydd.
Sul 29 Mai:
Cwrdd Cyfoes am 10.30 o dan arweiniad Fiona.
Cynhelir Oedfa Gymun am 5.00 gyda Dewi'n gweinyddu.
Bydd croeso cynnes i bawb i Oedfa'r Pentecost yn Mharc Waverley ar Sul 5 Mehefin am 3.00 p.m. gyda'r Parchedig Leslie Noon yn arwain.
Y GANNWYLL
: Cofiwch am Y Gannwyll ar Zoom bob nos Fawrth am 6.30 - cyfle am weddi a myfyrdod tawel. Croeso cynnes i bawb - gofynnwch i Annette am y ddolen.
BLWYDDYN NEWYDD 2022 - A FIONA'N ARWEINYDD NEWYDD
Llongyfarchiadau
i'r Dr Fiona Gannon ar ddod yn Arweinydd newydd Capel y Nant
ar droad y flwyddyn.
Dymunwn yn dda i Fiona - a'r Tim o aelodau fydd yn
cyd-weithio a hi.
Diolchwn yn wresog i'r Prifardd Robat Powell am ei
wasanaeth yn y swydd am yr 8 mlynedd blaenorol. Bydd Robat yn parhau fel Ysgrifennydd yr eglwys.
Fiona yw 3ydd Arweinydd
Capel y Nant, gyda'r Parch Dewi M Hughes wedi arwain wrth i'r eglwys
gael ei sefydlu yn 2008. LLUNIAU: Fiona a Chapel y Nant.
CAPEL Y NANT YN GOFYN AM GYTUNDEB CRYF I FFRWYNO CYNHESU BYD-EANG
Dosbarthwyd y Datganiad isod ar ran aelodau Capel y Nant gan
ein Pwyllgor Gwaith. Mae'n galw ar wleidyddion i sicrhau llwyddiant Cynhadledd
tyngedfennol o bwysig Newid Hinsawdd COP26 sydd i'w chynnal yn fuan yn Glasgow.
Danfonwyd at y Prif Weinidog Boris Johnson a Llywydd y Gynhadledd, Alok Sharma
AS yn benodol ac at a nifer o aelodau Senedd San Steffan a Senedd Cymru:
'Gan nodi rhybudd gwyddonwyr y
Cenhedloedd Unedig (6ed Adroddiad yr IPCC, 9 Awst, 2021) bod Newid Hinsawdd yn
peryglu dyfodol dynoliaeth, mae Pwyllgor Gwaith eglwys Capel y Nant, Clydach,
Abertawe SA6 5HB yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i geisio ymhob ffordd
i sicrhau cytundeb cryf yng Nghynhadledd
Hinsawdd COP26 yn Glasgow.
'Gyda’r nôd o ffrwyno Cynhesu Byd-eang
trwy dorri allyriadau carbon, credwn ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth y
Deyrnas Gyfunol - fel Llywydd y Gynhadledd -
yn arwain cyn dechrau’r trafodaethau gan wrthod y ceisiadau cyfredol i
agor maes olew newydd ym Môr y Gogledd a phwll glo newydd yng ngogledd Lloegr.'
DYSGU FFYRDD NEWYDD - A NODI HANES COVID-19
Gyda ffyrdd newydd o addoli a gweithio yn datblygu wrth i ni ymateb i gyfyngiadau Covid-19, gan gynnwys dysgu sut i ddefnyddio Zoom, rydym wedi creu tudalen newydd ar y Wefan hon i nodi hanes ein hymdrechion, sef 'Ymateb i Covid-19'. Gweler ein rhestr dudalennau.
Cadwn y tudalen blaen hwn i newyddion am ein gweithgarwch cyfredol ynghyd a Datganiadau'r eglwys yn ymateb i broblemau'r byd.
DATGANIAD YN GALW AM BEIDIO A GOSTWNG EIN CYMORTH RHYNGWLADOL
AT: Y Gwir Anrhydeddus
Rishi Sunak AS,
Canghellor y
Trysorlys, Ty'r Cyffredin,
San Steffan,
Llundain SW1A 0AA Rhagfyr 4, 2020
Annwyl Ganghellor
Sunak,
MEDDYLIWCH
ETO AM DORIADAU CYMORTH OS GWELWCH YN DDA
Yr ydym ni, aelodau o
Bwyllgor Gwaith eglwys Gymraeg Annibynnol Capel y Nant yng Nghlydach,
Abertawe SA6 5HB yn dymuno mynegi ein siom ddirfawr gyda’ch cyhoeddiad bod
Llywodraeth San Steffan yn bwriadu torri’r ganran o GDP y Deyrnas Gyfunol a
roddir at gymorth rhyngwladol o 0.7% i 0.5%.
Pwyswn arnoch i feddwl
eto fel Canghellor ynglŷn â’r bwriad hwn.
*** Am y Datganiad llawn, ewch at 'Ffydd ac Ymgyrchu'
DATGANIAD CAPEL Y NANT YN CONDEMNIO LLADD GEORGE FLOYD
Rydyn ni, aelodau eglwys
Annibynnol Capel y Nant, Clydach, yn gwaredu at lofruddiaeth George Floyd gan
swyddogion heddlu Minneapolis ynyr Unol Daleithiau ar Fai 25, 2020.
Credwn fod y drosedd hon
yn ychwanegiad at y cam y mae pobl dduon y byd wedi’i ddioddef ers canrifoedd,
yn bennaf trwy weithredoedd pobl wynion.
I weld y Datganiad cyfan, ewch at dudalen 'Ffydd ac Ymgyrchu'
*** LLUN UCHOD: Protestiwr ifanc mewn rali Mae Bywydau Pobl Dduon yn Cyfrif yn Columbus, Ohio, ar Fai 28.
GWARCHOD Y DDAEAR
YNNI DI-GARBON:
Ym mis Medi 2017
, newidiodd Capel y Nant o drydan a nwy gan gwmni llosgi carbon niweidiol at ynni glan ac adnewyddol, trwy gwmni Good Energy.
O hynny ymlaen, mae ein biliau wedi bod yn talu am gynhyrchu trydan 100% di-garbon deuocsid a nwy sy'n hollol garbon niwtral (gyda 6% o bio-methan).
EGLWYS WERDD:
Ym mis Hydref 2018,
cawsom ein cofrestru gyda mudiad amgylcheddol Cristnogol A 'Rocha fel 'eglwys werdd'. Yn 2019 cawsom statws Grwp Gweithgarwch Newid Hinsawdd gyda Chyfeillion y Ddaear. Rydym yn gobeithio parhau i ddatblygu fel eglwys sy'n parchu ac nid yn difrodi'r Ddaear.
Cewch fwy o fanylion am hyn ar dudalen Caru'r Daear.
CEFNOGI MUDIADAU ELUSENNOL
Mae Capel y Nant yn eglwys sy'n ddiwyd wrth gefnogi achosion da, gan ddewis un lleol ac un rhyngwladol bob blwyddyn dan arweiniad ein Grwp Eglwys a Chymdeithas.
Rydym wedi colli llawer o gyfleoedd oherwydd cyfyngiadau Covid-19 i godi arian at ddwy elusen 2020-2021, sef Ambiwlans Awyr Cymru a Chapel y Nant ei hun. Yn wyneb hynny, rydym wedi creu Apel arbennig er mwyn i aelodau gyfrannu arian at yr achosion hyn.
*** Am fwy o wybodaeth am ein cefnogaeth i elusennau rhyngwladol a lleol, ewch at dudalen 'Ffydd ac Ymgyrchu.'
|
|
 |