MYFYRDODAU MISOL CAPEL Y NANT

MYFYRDOD EBRILL 2018

                        'Down ynghyd amser Pasg - i ddangos cymuned ein Ffydd' - Myfyrdod Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell, o bwletin newyddion misol yr eglwys, 'Bwrlwm'.         

  Yn ddiweddar bues i’n gwrando ar Radio Wales. Roedd Jason Mohammed yn arwain rhaglen codi’r ffôn, a’r pwnc oedd ‘Crefydd – yn colli tir.’

  Pam trafod hyn? Wel, mae arolwg newydd yn dangos taw dim ond hanner pobl Prydain sydd â chred grefyddol nawr. O’r rheiny, mae bron un o bob pump yn dilyn ffydd heblaw Cristnogaeth, fel Islam neu Sikhiaeth.

  Cymru yw’r wlad ym Mhrydain â’r canran isaf o bobl â chred grefyddol.  Llai na hanner ohonon ni’n cyfri eu hunain yn Gristnogion – yn hen wlad y capeli!

  Ffoniodd digon o wrandawyr y rhaglen.  Barn rhai oedd bod crefydd yn nonsens. Barn eraill oedd bod eu Ffydd bersonol yn sylfaen i’w bywyd fel unigolyn.

  Ddwedodd neb fod yr Eglwys yn bwysig iddyn nhw fel ‘cymuned’. Eto i gyd, dyna beth oedd yr Eglwys Fore i’r Cristnogion cynta. Roedden nhw’n byw fel cymuned. Yn rhannu eu harian a’u heiddo. Yn cefnogi ei gilydd trwy helpu’r rhai claf a’r rhai tlawd yn eu plith.

Ond a ydi ein capeli a’n heglwysi heddiw yn gwneud hyn?

  Un rhan o Brydain lle mae nifer y Cristnogion yn weddol gyson yw Llundain. Y rheswm yw bod llawer o fewnfudwyr yn dod i Lundain o bob rhan o’r byd. Mae angen ffrindiau a chefnogaeth arnyn nhw. Felly, mae llawer yn troi i’r Eglwys i ddod o hyd i gymuned glós.

  Wrth gwrs, fe gewch gymuned werthfawr mewn llefydd eraill. Mewn clwb rygbi. Mewn ysgol. Mewn ambell stryd. Pan ddaeth yr eira y mis hwn gwelwyd pobl yn helpu ei gilydd mewn sawl man.

  Ond mae cymuned eglwys yn gwneud pethau eraill hefyd. Ry’n ni’n addoli gyda’n gilydd. Yn gweddïo gyda’n gilydd. Yn teimlo ysbryd Duw gyda’n gilydd. A, gobeithio, yn cael ein hysbrydoli i wneud gwaith Iesu yn y byd – gyda’n gilydd.  

  Pan ddaw Gŵyl y Pasg eleni, cawn gyfle mawr. Cyfle i ddod at ein gilydd yn ein capel a gyda pobol mewn capeli eraill. Cyfle i ddangos i’r byd ein bod yn byw nid fel unigolion ar wahân ond mewn cymuned grefyddol sy’n gryf ac yn weithgar drwy’r amser.

  Gallwn ddangos nad nonsens yw ein Ffydd, ond cred sy’n cynnig gobaith i’r byd. Pasg hapus i chi i gyd!

   Pob hwyl, Robat

MYFYRDOD MAWRTH 2018

'Mae Dewi’n fyw o hyd – Dathlwn gyda’n gilydd!' Dyna thema Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell, yn ei fyfyrdod yn rhifyn mis Mawrth 2018 o Bwrlwm, ein cylchgrawn misol ...

Bu’r baneri allan yn Stryd Fawr, Clydach, ers wythnosau!

Mae pawb yn adnabod y Ddraig Goch. Ond beth am faner y groes aur ar gefndir du? Ie, baner Dewi Sant yw hon. Ond faint sy’n ei hadnabod hi? 

Ry’n ni’n hoffi gweld y plant yn eu gwisgoedd Cymreig ar Fawrth y cyntaf. Dathlu Dydd Gŵyl Ddewi maen nhw, fel y gŵyr pawb. Ond faint mae pobol Clydach yn ei wybod am Dewi, tybed? Pryd roedd e’n byw? Ble? Beth wnaeth e?

Rwy’n siŵr bod aelodau Capel y Nant yn gwbod yr atebion! Ond faint o bobol eraill? Un o bob ugain? Ond chware teg, roedd e’n byw amser maith yn ôl, tua 1700, mae’n debyg. Neu tua 1500? Peidiwch â gofyn i bobol – byddwch chi’n codi cywilydd arnyn nhw.

Mae Cristnogion, gobeithio, yn gwbod hanes Dewi. Ond hyd yn oed i’r rhain, roedd y 6ed ganrif mor bell yn ôl. Esgus da i giniawa a gwisgo cenhinen Bedr, ond sut mae rhywun o’r 6ed ganrif yn berthnasol i ni heddiw?

Mae’r ateb gan Gwenallt. Ysgrifennodd y bardd o’r Alltwen ddwy gerdd am Dewi. Mewn un mae’n dweud fel hyn:

Gwelais Ddewi yn rhodio o sir i sir fel sipsi Duw

A’r Efengyl a’r Allor ganddo yn ei garafán;

A dyfod atom yn y colegau a’r ysgolion

I ddangos inni beth yw diben dysg.

Disgynnodd i waelod pwll glo gyda’r glowyr

A bwrw golau ei lamp gall ar y talcen ..

Nid rhywun o niwloedd hanes yw Dewi i Gwenallt. ‘Gwelais Ddewi ..’ mae e’n dweud. I’r bardd, mae’r sant yn berson byw, yng Nghymru, heddiw. Dewi sy’n mynd â’r Efengyl at y Cymry, yn arwain eu haddoliad. Dewi sy’n lledaenu addysg drwy’r wlad, yn sefyll gyda’r gweithwyr yn ystod eu shifft.

Yn y gerdd hon, mae Dewi yn cynrychioli cymysgwch o’r Ffydd Gristnogol a Chymreictod. Dyma’r Ffydd sy’n fyw yn ein plith nawr. Dyma’r gred sy’n gallu ein haddysgu ni a’n cynnal ni yn ein bywyd bob dydd, drwy bob gofid sy’n ein hwynebu. A gallwn fyw ein Ffydd yn Gymraeg, yn ein ffordd Gymreig ein hunain, yn ein gwlad ein hunain.

Dyna pam mae’n bwysig cofio Gŵyl Ddewi yn 2018. I ddangos bod y Gymru Gristnogol yn fyw o hyd. Yn fyw ynom ni. Cawn ddathlu yn ein hoedfa ar Fawrth 4 ac yn ein Cinio wedyn!

MYFYRDOD CHWEFROR 2018

'Mae nerth yn y rhai bychain ...' yw teitl myfyrdod Robat, ein Harweinydd eglwys, yn rhifyn Chwefror 'Bwrlwm', ein cylchgrawn bach misol. 

Mae enwau traddodiadol ar rai o fisoedd y flwyddyn. Y Mis Du yw Tachwedd pan fydd y dyddiau’n byrhau. A Chwefror, y mis hwn, yw’r Mis Bach, am reswm amlwg.

Dim ond 28 diwrnod sydd yn Chwefror, y mis byrraf o’r deuddeg.

Pethau mawr sy’n cael statws, fel arfer. Y teulu pwysig yw’r un sy’n berchen ar y tŷ mawr.

Amser yn ôl, byddai pob pentref yn ceisio codi capel mwy o faint na chapel y pentre nesa!

Y gwledydd mwyaf, fel Tseina, Rwsia ac America, sydd â’r dylanwad mwyaf. Pa seren ffilm fyddai’n gyrru Ford Fiesta bach?

Ond mae perygl hefyd yn yr ysfa i fod yn fawr. Mae pryder heddiw bod llawer o fechgyn eisiau edrych yn gryfach na bechgyn eraill. Am hynny, mae mwy a mwy yn defnyddio steroids, yn enwedig yng Nghymru. Gwaetha’r modd, bydd hyn yn effeithio ar eu hiechyd maes o law.

Ond mae llawer o ddaioni mewn pethau a phobl fach hefyd! Y peldroediwr gorau yn y byd yw Lionel Messi – a dim ond 5’7” yw hwnnw. Y chwaraewyr rygbi mwya gwefreiddiol oedd rhai fel Dai Watkins a Shane Williams. Ie, rhai bach o gorff, ond rhai chwim a thwyllodrus!

Mae dynion bach yn amlwg yny Beibl hefyd. Cofiwn am Sacceus, oedd yn rhy fyr i weld Iesu dros bennau’r dorf, felly dringodd goeden i gael y fendith o’i weld. Ei wobr oedd cael Iesu’n westai i ginio yn ei gartref.

Dyn bach o gorff oedd yr apostol Paul. Ac eto, doedd dim mwy o egni nac argyhoeddiad gan neb na Paul. Heb ei ymdrechion diflino i deithio a phregethu, prin byddai’r Efengyl wedi lledu fawr ddim tu allan i Balesteina.

Y gwir yw taw nid maint sy’n cyfrif, ond ansawdd a safon. Mae gwlad fechan fel y Swistir neu Gymru’n gallu cyfrannu mwy i hybu heddwch yn y byd na’r pwerau mawrion. Mae capeli bach yn gallu cyflawni mwy na rhai â channoedd o aelodau.

Mae lle i’r mawr a’r bach, y tew a’r tenau, yn y byd ac yn Eglwys Duw. Ac mae’r Mis Bach yn adeg gystal â’r un i wneud gwaith y Cristion. Awn ati!

Pob hwyl, Robat

MYFYRDOD RHAGFYR 2017 IONAWR 2018

Tawel Nos’, ond nos o gyffro! yw thema myfyrdod arweinydd Capel y Nant, Robat Powell, yn rhifyn Rhagfyr / Ionawr 'Bwrlwm' - gan edrych ymlaen at noson fwyaf cynhyrfus y flwyddyn.

‘Mae’n gas ’da fi orfod gyrru car yn y nos erbyn hyn,’ meddai ffrind wrtho i yn ddiweddar. Mae’n siŵr bod sawl un yn rhannu’r teimladau hynny.

Ry’n ni i gyd yn teimlo’n llai sicr yn ystod y nos, pan fydd tywyllwch yn disgyn dros y wlad. Methu gweld mor glir. Ddim yn siŵr pwy sy’n llercian rownd y cornel.

Ond os y’n ni’n ofalus, does dim angen ofni’r nos o gwbl. Yn wir, mae i’r nos ei bywyd ei hun. Dyna pryd gwelwn y cadno’n loncian dros yr heol. Dyna pryd daw’r caeau a’r perthi’n fyw gan haid o lygod a chreaduriaid bach eraill. Yn yr haf gwelwn yr ystlumod a’r gwyfynnod yn hedfan o amgylch y tŷ yn rhyfedd o ddistaw.

Y nos yw’r amser i fwynhau’r tân gwyllt, nid y dydd. Profiad gwefreiddiol yw gwylio gêm bêl-droed neu rygbi gyda’r nos dan y llifoleuadau. Mwy lliwgar a chyffrous na gêm yn y prynhawn!

Mae llawer yn teimlo bod naws gwahanol i oedfa’r capel gyda’r nos, a’r tywyllwch tu allan yn helpu creu awyrgylch cynnes tu mewn.

A phan fydd y nos ar ei thywyllaf, yn enwedig yn y wlad, dyna’r amser i syllu ar y sêr uwchben. Mae defnyddio rhywbeth syml fel binociwlar yn gwneud gwylio’r sêr a’r lleuad yn fwy diddorol byth.

A’r mis hwn cawn brofiad arall o noson fwyaf cynhyrfus y flwyddyn. Noswyl y Nadolig. Y plant wedi’u cynhyrfu’n lân wrth feddwl am ddyfodiad Sion Corn. Gwneud y paratoadau olaf ar gyfer cinio’r trannoeth. Llenwi sanau Nadolig y rhai bach a’u gosod ar eu gwely neu wrth droed y goeden. Clywed sŵn hudol carolau yn rhywle, draw mewn rhyw stryd, neu hyd yn oed ar y teledu. Mae gwefr i’w theimlo. Na, nid noson gyffredin mo hon!

Yng nghanol hud y noson hon hefyd, yn 1914, daeth yr ymladd yn Ffrainc a Belg i ben mewn sawl man. Canodd milwyr y ddwy ochr garolau i’w gilydd. Bu heddwch yn teyrnasu ynghanol ffyrnigrwydd y rhyfel. Daeth tangnefedd i galon dyn.

Gobeithio y cewch chithau brofi’r wefr a’r tangnefedd hyn eleni gyda’ch teuluoedd ar Noswyl Nadolig. Ond cofiwch osod y cloc larwm i ganu’n gynnar – mae’r Plygain yng Nghapel y Nant yn dechrau am saith y bore trannoeth!

Nadolig Llawen i chi i gyd,

                                                   Pob hwyl, Robat

MYFYRDOD TACHWEDD: DATHLU Y 100fed 'BWRLWM'

Yn ei fyfyrdod yn rhifyn mis Tachwedd o'n cylchgrawn misol 'Bwrlwm', 'Bwrlwm' ei hun sy'n cael sylw Arweinydd yr eglwys, Robat Powell. A'r rheswm? - mae ein cylchgrawn wedi bod gyda ni ers creu Capel y Nant, a rhifyn Tachwedd yw ei 100fed.

Blwyddyn o ddathliadau pen-blwydd Cristnogol yw hon. Y Diwygiad Protestannaidd a Martin Luther, Testament Newydd Cymraeg Salesbury, a geni Pantycelyn. Rydyn ni’n gwybod hanes pob un bellach!

Ond y mis hwn dyma ddathlu pen-blwydd arbennig arall. Oherwydd Bwrlwm mis Tachwedd, 2017, yw canfed rhifyn y papur lliwgar hwn – papur Capel y Nant.

Yn sicr, mae hwn yn achos dathlu. Mae llawer eglwys a chapel wedi dechrau papur misol neu chwarterol. Ond mae llawer o’r rheiny’n methu para mwy na rhyw ddwsin neu ddau o rifynnau. Mae cyrraedd y cant yn gamp arbennig. Ac mae Bwrlwm yn dal i fynd, o nerth i nerth!

Ond rhaid i ni gofio un peth. Dyw cyhoeddiad fel Bwrlwm ddim yn ysgrifennu ei hun. Mae’n hawdd anghofio hynny a gweld Bwrlwm fel rhywbeth sy’n disgyn fel manna trwy’r drws bob mis. Ond mae gwaith nifer o bobl tu ôl i bob rhifyn. Mae’n rhaid holi pobol am newyddion, ysgrifennu’r adroddiadau, tynnu lluniau. Anfon popeth at y golygydd sy’n rhoi trefn ar bethau a’u hala at yr argraffydd i gysodi’r papur yn daclus. Yna, dosbarthu neu bostio’r copïau atoch chi.

Yn ystod blynyddoedd cyntaf Bwrlwm, Hywel a Charlotte oedd yn cyflawni’r golygu a’r cysodi eu hunain. Tasg sylweddol oedd hon. Ry’n ni’n ddyledus iawn i’r ddau am ddwyn y baich yn gyson am gyhyd. Yn ddi-dâl hefyd!

Erbyn hyn, mae tîm o bedwar golygydd: Dewi ac Annette, Sali Wyn ac Eurig. Maen nhw’n gwneud tri mis yr un ar y tro, ac yn haeddu ein diolch a’n hedmygedd am eu hymroddiad.

Rhaid cofio am Gareth hefyd yng Ngwasg Morgannwg. Mae e’n sicrhau bod graen a lliw ar bob rhifyn, a weithiau’n cywiro ein gwallau. Ar ôl i Gareth ymddeol y mis nesa gallwn ddibynnu ar y Wasg i barhau’r gyda’r gwaith campus.

Rwy’n siŵr bod pob aelod yn deall gwerth Bwrlwm. Mae’n lledaenu newyddion am yr aelodau, yn cydymdeimlo, yn codi calon, ac yn helpu cynnal y fflam Gristnogol yn y cwm.

Diolch o galon i’r rhai sy’n ei greu bob mis. Ond cofiwch fod cyfrifoldeb gyda chi, yr aelodau, hefyd – oherwydd chi yw’r darllenwyr! Heb ddarllenwyr, byddai gwaith yr holl gyfranwyr yn ofer. Dathlwn y rhifyn hwn. Ac ymlaen â ni at rifyn dau gant!

 

MYFYRDOD HYDREF: OFN YW GWREIDDYN Y DRWG RHWNG TRUMP A KIM JONG UN

Yn ei fyfyrdod yn rhifyn mis Hydref o'n cylchgrawn misol 'Bwrlwm', bu Arweinydd yr eglwys, Robat Powell, yn trafod y gwrthdaro geiriol cyfredol rhwng Donald Trump, Arlywydd America, a Kim Jong Un, pennaeth Gogledd Korea. 

Mae gen i gof byw am ddigwyddiad pan oeddwn yn naw oed. Dau o fechgyn y nosbarth yn mynd i gael ‘ffeit’! Am pedwar o’r gloch cerddodd y ddau grwt, Colin a Clive, i lawr lôn gefn. Aeth gweddill y dosbarth ar eu hôl.

Safodd pawb yn gylch o gwmpas y ddau. Dechreuon nhw alw enwau ar ei gilydd a gweiddi. Rwy’n cofio’r bloeddio gennyn ni hefyd – ‘’It ’im, Colin! – Kick ’im, Clive!’

Ar ôl deng munud o hyn, blinodd pawb yn sydyn. Cerddon ni i ffwrdd. Trodd Colin a Clive am adre yn heddychlon.

Rwy’n clywed adlais o’r digwyddiad hwnnw yn ystod y misoedd presennol. Ond nid dau grwt naw oed sy’n gweiddi, ond arweinyddion dau o bwerau niwclear y byd.

Bu Donald Trump a Kim Jong Un yn chwythu bygythion yn erbyn ei gilydd ers misoedd. Wythnos yn ôl tyngodd Trump y byddai America’n ‘dinistrio Gogledd Corea’n llwyr.’ Lladd 25 miliwn o bobl fyddai hynny.

Ydi Trump yn sylweddoli y byddai tri neu bedwar bom niwclear ar Ogledd Corea’n drychineb i’r Dwyrain Pell a’r byd? Byddai rocedi’r Gogledd yn taro De Corea o fewn munudau. Byddai’r ymbelydredd niwclear yn ei gwneud yn amhosib byw o fewn cannoedd o filltiroedd i’r ffrwydriadau. 

Mae gwir berygl y gallai rhyfel ddechrau trwy ddamwain. Awyrennau America’n hedfan ar hyd glannau Gogledd Corea, Y Gogledd yn profi taflegryn arall. Gallai un ochr feddwl bod y llall yn dechrau ymosod, a gwasgu’r botymau coch.

Ond pam mae’r ddwy wlad yn bygwth ei gilydd? Ofn. Ofn ar Kim Jung Un bod America am gael gwared arno fe a’i regime. Ofn ar America bod Gogledd Corea eisie ymosod ar Dde Corea, fel yn 1950. Ac, efalle, am fod Mr Trump yn mwynhau brolio y gall ddinistrio unrhyw un.

Pan fydd pobl yn ofni ei gilydd, rhaid dileu’r ofn. A’r unig ffordd yw agosáu at y llall. Siarad â’r llall. Dod i ddeall ei ofnau. Mae Gogledd Corea am i America symud eu lluoedd arfog o Dde Corea. America’n moyn i’r Gogledd roi stop ar y profion niwclear. Oes dim modd cael cytundeb ar sail hyn?  Ildio peth, ond ennill mwy.

Mae Llythyr Cyntaf Ioan yn datgan: ‘Nid oes ofn mewn cariad, ond y mae cariad perffaith yn bwrw allan ofn.’ Does neb yn disgwyl i Trump a Kim garu’i gilydd. Ond byddai dweud ‘Dyn ni ddim yn eich bygwth chi’ yn helpu dileu’r ofn. Er mwyn y byd i gyd.                                                                                                

MYFYRDOD MEDI: SIARAD YW'R MODDION GORAU!

Ein Harweinydd, Robat Powell, yn ei fyfyrdod yn rhifyn mis Medi o'n cylchgrawn misol 'Bwrlwm', yn trafod y broblem gynyddol o iselder ysbryd gan gyfeirio at yr awdl arobryn yn Eisteddfod Ynys Mon. 

Roedd hi’n Eisteddfod dda ym Môn eleni. Roedd y tywydd yn creu problemau, oedd! Ond roedd safon y cystadlu’n uchel. Enillodd Osian Rhys Jones y Gadair am awdl arbennig ar y testun ‘Arwr.’

Ond pwy yw arwr y bardd? Dyn di-enw, yn dioddef o broblemau meddwl. Yn ceisio lladd ei hunan.

Awdl ein hoes ni yw hon. Dyma’r bwgan nad yn ni ddim am siarad amdano – salwch meddwl. Mae ar gynnydd, yn enwedig ymhlith pobol ifanc, ac mae sawl ffurf arno: iselder, gor-bryder (anxiety), pyliau o ddicter neu banig, a sawl cyflwr dwysach hefyd. Fel yn achos ‘arwr’ Osian Rhys, gall arwain at hunanladdiad.

Eto i gyd, does neb eisie siarad am y salwch hwn. Mae stigma ynglŷn â’r peth, rhyw dinc o ‘fod yn wallgof’ neu’r seilam.

Ond mae sawl therapi newydd yn cael eu defnyddio bellach. Mae nifer o’r rhain yn annog y dioddefwr i fynegi ei hunan, i gael gwared o’i deimladau negyddol. Weithiau trwy beintio lluniau. Trwy greu cerddoriaeth. Weithiau trwy ysgrifennu barddoniaeth. Yr hen idiom am hyn yw ‘bwrw eich bol.’ Rhannu eich poen â’r byd.

Y ffordd symlaf o wneud hyn yw siarad! Dweud eich cwyn wrth rywun arall. Weithiau wrth rywun nad ych chi’n ei adnabod o gwbl. Mae rhai’n teimlo’n rhy swil i wneud hyn. Ond os gallwch ffindio clust i wrando, mae’n ysgafnu’r pwysau. Gall ddod â goleuni lle bu tywyllwch. Dyna beth oedd ‘arwr’ y Gadair yn methu gwneud.

Mae sôn am salwch meddwl yn yr Efengylau. Bryd hynny, dywedai pobol fod ‘ysbryd drwg’ wedi gafael mewn person. Mae sôn am Iesu’n gyrru ysbrydion drwg allan o’r dioddefwyr. Dyn ni ddim yn siŵr sut bu hynny. Ond darllenwn fod Iesu’n aml yn ‘siarad â’r ysbryd.’ Mae syniad gen i taw siarad â’r person claf roedd Iesu. Cael y claf i siarad am ei gyflwr a’i broblemau. A dyna’r cwmwl yn codi, a’r goleuni’n dod.

Wrth gwrs, mae ambell gyflwr meddwl yn gofyn am driniaeth arbennig. Ond yn aml hefyd, siarad am y gofid yw’r moddion gorau.

A gallwn i gyd fod o help trwy gynnig clust barod i’r sawl sydd ei hangen. Heb ymyrryd. Heb gynnig atebion slic. Dim ond gwrando. Oherwydd mae siarad yn gwneud lles!

MISOEDD GORFFENNAF AC AWST 2017: CEFNOGWN SHELTER

Myfyrdod Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell, yn rhifyn Gorffennaf / Awst 2017 o 'Bwrlwm'. Y teitl llawn yw, 'Tai o safon i bawb – cefnogwn Shelter!'

‘Ble y’ch chi’n byw?’ Dyna’n cwestiwn mwya cyffredin, mae’n debyg, wrth i ni gyfarfod rhywun am y tro cynta.  Oes, mae’n rhaid byw yn rhywle. Mae hawl gan bawb i gael cartref diogel.

Gwaetha’r modd, mae diffyg cartref diogel yn un o broblemau mwya Ynysoedd Prydain. Ym mis Hydref, 2016, roedd 313 o bobl yn cysgu ar y stryd rywle yng Nghymru.

Mae’n anodd dychmygu pa mor galed yw cysgu a byw ar y stryd. Mae un o bob tri o’r bobl hyn wedi diodde ymosodiad corfforol. Maen nhw’n naw gwaith yn debycach o ladd eu hunain na’r gweddill ohonom. Ar gyfartaledd, maen nhw’n marw’n 47 oed.

Ond gallwch fod yn ddigartref er bod to uwch eich pen. Yng Nghymru yn 2016, cyfrifwyd bod 7,128 teulu neu ‘household’ yn ddigartref. Mae’r rhain yn cysgu mewn llefydd dros dro, ar lawr tai ffrindiau, neu’n ‘sgwotio’ rywle yn anghyfreithlon.

Mae’n peri gofid mawr bod y ffigurau hyn yn cynyddu – maen nhw wedi dyblu ym Mhrydain ers 2010!

Roedd hyd yn oed Iesu’n gwybod beth oedd bod heb gartref. Ei gwyn yn Efengyl Luc yw: ‘Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y Dyn nid oes lle i roi ei ben i lawr.’

Hyd yn oed pan fydd cartref gan deulu, dydyn nhw ddim bob amser yn ddiogel. Digwyddodd y tân erchyll yn Nhŵr Grenfell mewn fflatiau oedd yn cartrefu rhai o bobl dlotaf Prydain. Daw’n fwy amlwg bob dydd sut roedd yr awdurdodau wedi esgeuluso safonau diogelwch yn y tŵr hwnnw. Dyna’r perygl hefyd i bobl dlawd sy’n cael eu rhoi mewn tai neu fflatiau diffygiol ar draws Prydain, achos dyna’r ateb rhad i’r llywodraeth a llywodraeth leol.

Mudiad sy’n gweithio i helpu’r digartref a’r rhai mewn tai gwael yw Shelter. Eleni, mae Chwaeroliaeth Capel y Nant yn codi arian tuag at elusen Shelter Cymru. Felly, gwnewch eich gorau i fynd i De Mefus y Chwaeroliaeth yng Ngorffennaf, a rhowch yn hael pan fydd y Chwiorydd yn casglu.

Maen achos teilwng iawn.  

MIS MEHEFIN 2017: HANES DYN IA YR ALPAU

MYFYRDOD Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell, yn rhifyn mis Mehefin, 2017, o 'Bwrlwm'. Robat yn dysgu am Otzi - y dyn rhew o'r Alpau - ar ei wyliau yng ngogledd yr Eidal.

Buon ni ar ein gwyliau yng Ngogledd yr Eidal ym mis Mai. Gwelson ni bethau arbennig yno – mynyddoedd dan eira, gwinllannoedd ffrwythlon, bordydd dan blatiau o fwyd blasus!

Ond y peth rhyfeddaf welson ni oedd Ötzi. Ötzi? Dyna i chi stori.

Yn 1991 cerddai dau Almaenwr trwy’r Alpau 9,000 o droedfeddi uwchben y môr. Yna gwelson nhw gorff dyn wedi rhewi mewn iâ yn y mynydd. Symudwyd y corff i Brifysgol Innsbruck i’w archwilio. Roedd ei groen yn dynn amdano a’i organau yn gyfan. Rhoddwyd yr enw Ötzi arno am iddo gael ei ddarganfod yn Alpau’r Ötztal. Heddiw gallwch weld corff Ötzi a’i holl eiddo mewn amgueddfa yn Bolzano.

Mae’r gwyddonwyr wedi darganfod pethau anhygoel am y dyn a’i fywyd. Bu farw tua 3,300 o flynyddoedd cyn Crist. Roedd tua 45 oed ac yn 5’5” o daldra. Gwisgai ddillad o grwyn anifeiliaid, wedi’u gwinio at ei gilydd yn gelfydd. Wrth ei ochr cafwyd llawer o’i arfau – bwa hir, saethau, cyllell yn ei wregys, a bwyell â llafn gopr. Mewn cwdyn ar ei wregys roedd ffwng o ochr coeden sy’n gweithio fel penisilin i wella clwyfau!

Roedd pobl 5,000 o flynyddoedd yn ôl yn fwy soffistigedig na bydden ni’n tybio.

Doedd Ötzi ddim yn iach. O astudio’r hadau haint yn ei gorff, dysgodd y gwyddonwyr iddo fod yn sâl dair gwaith yn y chwe mis cyn marw. Roedd ei ddannedd wedi pydru trwy fwyta gormod o garbohydrad mewn grawn. Ond doedd e ddim wedi marw’n naturiol!

Yn ysgwydd Ötzi roedd blaen saeth. Roedd ôl ergyd ar ei benglog. Y theori yw i’r dyn gael ei saethu â bwa a saeth, ac yna ei guro ar ei ben i’w ladd. Bum mil o flynyddoedd yn ôl. Fel hanes Cain ac Abel.

Y wers fawr i ni yw bod dyn byth yn newid. Gall greu pethau clyfar a gwneud daioni gyda nhw. Ond mae gan ddyn hefyd yr awydd i niweidio a lladd person arall. Mae’r frwydr rhwng y da a’r drwg ynom ni wedi bod erioed. Mae’r digwyddiad erchyll ym Manceinion yn dangos bod y drwg fel petai’n ennill weithiau. Hanes Ötzi hefyd.

Ond rhuthrodd pobl Manceinion i helpu’r rhai oedd mewn poen a gofid. Gwnawn ninnau’n siŵr hefyd taw daioni sy’n cario’r dydd mor aml â phosib.      

MIS MAI 2017: CARIAD NID TRAIS

Myfyrdod ein Harweinydd, Robat Powell, o rifyn mis Mai 2017 o 'Bwrlwm'

Cariad, nid trais, yw crefydd.

Ry’n ni wedi anghofio enw Reyaad Khan. Bachgen o Gaerdydd oedd hwn. Ond yn Awst 2015, yn 21 oed, cafodd e ei ladd yn Syria gan ymosodiad ‘drone’ o Brydain. Roedd e wedi gadael Cymru i ymladd dros ISIS, y Wladwriaeth Islamaidd.

Dyma’r tro cynta i unrhyw lywodraeth ym Mhrydain gyfaddef eu bod wedi targedu a lladd person o Brydain.

Bellach, mae pwyllgor yn Senedd Llundain wedi cyhoeddi adroddiad am yr achos. Maen nhw’n dweud bod Reyaad Khan yn ddyn allweddol yn ISIS. Roedd e’n cynllunio i ladd cannoedd o bobl ym Mhrydain. Yn gwneud fideos i ddenu pobl ifainc eraill i ymuno â’r eithafwyr Islamaidd. Roedd e’n berygl mawr i ni, medd yr adroddiad. Felly, roedd angen ei ladd.

Mae hyn yn codi cwestiwn moesol mawr. Ydi hi’n iawn dienyddio person heb ei roi ar brawf? Hyd yn oed person peryglus iawn?

Ond mae’r achos yn codi cwestiynau pwysig eraill.

Sut mae bachgen o Gaerdydd, disgybl yn Ysgol Cantonian, yn gallu troi’n derfysgwr, parod i ladd cannoedd yn ei wlad a’i dref ei hun? Sut mae Cymru’n creu pobl fel hyn?

Yn achos Reyaad Khan, yr ateb yw ei grefydd. Roedd e’n credu mewn math ffwndamentalaidd o Islam sy’n dweud bod Duw yn moyn lladd ei elynion. Pa fath o grefydd yw hon? Pa fath o Dduw? 

Ond cyn i ni bwyntio bys at Islam, rhaid cofio’r gwaed ar ddwylo Cristnogion hefyd. Yn 1572, trodd y Pabyddion yn Ffrainc yn erbyn yr Huguenots, am eu bod yn Brotestanaid. Lladdwyd rhyw 20,000 ohonyn nhw yn ystod ‘Lladdfa St Bartholemeus.’ Cofiwn am y ‘Deugain Merthyr’, y 40 Pabydd a losgwyd ac a ddienyddiwyd yng Nghymru a Lloegr gan y Protestaniaid yn yr 16ed a’r 17fed ganrif. Mae rhai eglwysi Cristnogol yn America heddiw yn moyn gollwng bom niwclear ar Ogledd Corea – yn enw Duw!

Gwir bwrpas pob crefydd yw cysylltu â’n Duw. Rhannu ei dangnefedd a gwneud daioni yn ei enw ef. Mae unrhyw grefydd sy’n annog trais yn peidio â bod yn grefydd go iawn. Os gallwn ddeall hynny, welwn ni ddim Reyaad Khan arall yn codi yng Nghymru, na gweddill y byd.

MIS EBRILL 2017: CYNGOR YR UNDEB

Myfyrdod Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell, yn rhifyn Ebrill 2017 o 'Bwrlwm.'

Beth mae Cyngor yr Undeb yn ei wneud?

Roedd yr hen blasdy mawr yn drawiadol. Y gerddi o’i gwmpas yn brydferth, a’r tawelwch yn swynol. Yn anffodus, roeddwn yma i weithio, nid i edmygu’r amgylchedd!

Dyma blasdy Gregynog, ger y Drenewydd. Mae’r tŷ’n perthyn i Brifysgol Cymru. A dyma ble roedd Cyngor Undeb yr Annibynwyr yn cyfarfod am ddau ddiwrnod ar ganol Mawrth.

Mae pob eglwys Annibynnol, wrth gwrs, yn .. annibynnol. Ni all yr Undeb ddweud wrthon ni beth i’w wneud. Ond mae dau gorff pwysig gan yr Undeb lle down at ein gilydd i drafod ein busnes ar lefel genedlaethol.

Y Pwyllgor Gweinyddol yw un corff. Hwn sy’n trafod arian a pholisi’r Undeb. Yn y Cyngor mae cynrychiolwyr pob cyfundeb yn dod ynghyd, gyda’r swyddogion o Dŷ John Penri. Yng Ngregynog y mis hwn roedd tua 30 ohonon ni. Fel arfer, bu’n ddiddorol clywed hanes yr eglwysi ymhob rhan o Gymru.

Mae pedair adran gan yr Undeb, a phob cynrychiolydd, fel fi o Orllewin Morgannwg, yn eistedd ar ddau o’r pedwar grŵp. Fy ngrwpiau i oedd yr Adran ‘Eglwysi a’r Weinidogaeth’ a fu’n trin materion sy’n poeni’r gweinidogion – a’r arweinwyr.  Roedd yr Adran ‘Dinasyddiaeth Gristnogol’ yn ymwneud â chwarae ein rhan yn y gymdeithas o’n cwmpas a’r byd ehangach. Yn ystod y cyfarfod hwn rhoddais i adroddiad am fy ymweliad â Madagascar a soniodd Dr Fiona Gannon am anghyfiawnder economaidd y byd ar ôl bod mewn cynhadledd yn Jamaica.

Y ddau grŵp arall oedd yr Adrannau ‘Cenhadaeth a’r Eglwys Fydeang’ a ‘Thystiolaeth Gristnogol.’ Rhoddwyd adroddiadau byr o drafodaeth y ddwy adran hyn i’r bobl na fu’n aelodau ohonyn nhw.           

Sesiwn arall oedd anerchiad gan Meri Huws, Comisiynydd yr Iaith Gymraeg. Eglurodd hi sut mae’n ceisio ehangu’r cyfle i bobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg, fel trwy brosiectau chwaraeon, a sut gellir cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o un miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae hi’n gweld rôl pwysig i’r eglwysi Cymraeg trwy fod yn ganolfannau ar gyfer gweithgareddau Cymraeg amrywiol.

Dau ddiwrnod prysur a diddorol, a chymdeithas hyfryd o bobl sy am weld Cristnogaeth fywiog a ffres yn ein heglwysi. Ac oedd, roedd amser hefyd i wylio tîm Cymru’n trechu Iwerddon ar sgrîn anferth!

Mae Undeb yr Annibynwyr yn gweithio droson ni i gyd – a thros y byd!

MIS MAWRTH 2017 - AR DDIWEDD TYMOR ARWEINYDD, PA FFORDD YMLAEN?

Myfyrdod Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell, yn rhifyn mis Mawrth, 2017, o 'Bwrlwm', cylchgrawn misol yr eglwys. Y tro hwn mae Robat yn gofyn, 'Pa ffordd allen ni fynd?', wrth atgoffa'r aelodau bod ei dymor 5 mlynedd fel Arweinydd yn dod i ben ddiwedd eleni. 

Yn ein Cwrdd Eglwys ar Sul, Chwefror 26, roeddwn yn bwriadu sôn am dri mater. Yr un pwysicaf, tebyg iawn, oedd dyfodol Capel y Nant. 

Ffurfiwyd Capel y Nant yn 2008. Y flwyddyn nesa byddwn yn dathlu ein pen-blwydd yn ddeng mlwydd oed! Byddwn yn sefydlu pwyllgor i drefnu’r dathlu hwnnw. Bydd pawb ohonon ni’n cael cynnig syniadau.

Ond cyn i ni ddechrau dathlu mae’n rhaid setlo un cwestiwn pwysig: pwy fydd
yn arwain yr eglwys yn 2018 a’r blynyddoedd sydd i ddod?

Yn 2008 roedden ni’n ffodus iawn bod y Parchedig Dewi Myddin Hughes yn
aelod yn Hebron. Roedd e’n fodlon cymryd yr awenau fel Arweinydd.

Syniad newydd gan yr Annibynwyr oedd Arweinydd eglwys. Penodi rhywun o blith yr aelodau i roi arweiniad ysbrydol a chyd-gysylltu gweithgaredd yr eglwys.
Ni allen ni fod wedi cael neb gwell na Dewi. Roedd ganddo’r profiad a’r gallu
i fod yn Arweinydd penigamp. Daeth e â phawb o’r tri hen gapel at ei gilydd.
Rhoddodd e sylfeini cadarn i’r eglwys newydd. Gyda Dewi buon ni’n tyfu fel
eglwys newydd, lawn egni, yn barod i roi cynnig ar syniadau newydd. Ry’n ni
wedi codi miloedd o bunnau at achosion da yn lleol a thrwy’r byd.

Ar ôl pum mlynedd tymor Dewi, gofynnodd yr aelodau i mi ddod yn Arweinydd
ar ei ôl. Roedd hynny’n fraint fawr i mi. Ond ar ddiwedd 2017 bydd fy mhum
mlynedd i ar ben hefyd. ‘A gwynt teg ar ei ôl’, bydd ambell un yn dweud, rwy’n
siŵr!

Ta beth am hynny, beth ddaw nesa? Mae llawer o bosibiliadau. Cyn y Pasg
rydyn ni’n bwriadu trefnu Cwrdd Eglwys gyda’r nos i drafod y posibiliadau a
gwneud penderfyniad. Cewch chi ddewis y syniad gorau.

Byddwn yn cyhoeddi dyddiad y cyfarfod pwysig yma cyn bo hir. Gwnewch
eich gorau glas i fod yno.

Pa ffordd allen ni fynd? Galw gweinidog, rhannu gweinidog gydag eglwys
arall, penodi Arweinydd arall, rheoli’r eglwys heb neb yn bennaeth ond trwy’r
grwpiau gwaith? Gallwch feddwl am ddewisiadau eraill hefyd, mae’n debyg.

Un peth sicr yw hyn: ymhen deng mlynedd arall bydd Capel y Nant yma o
hyd! Yn dal i wasanaethu Iesu yn y byd. Ac yn dal i ddathlu!

MIS CHWEFROR 2017: TRUMP - SUT MAE YMATEB?

DONALD TRUMP: ARLYWYDD NEWYDD UNOL DALEITHIAU'R AMERIG. Llun: Wikimedia Commons

Myfyrdod Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell, yn rhifyn Chwefror o Bwrlwm, ein cylchgrawn misol. A chymaint wedi'u syfrdanu ledled y byd gan ymddygiad preswylydd newydd y Ty Gwyn yn Washington DC, mae Robat yn holi - Sut mae ymateb fel Cristnogion i'r Arlywydd Donald Trump?

Mae arna i ofn gwrando ar y newyddion nawr. Un cwestiwn sy’n fy mhoeni - beth mae Donald Trump wedi’i wneud heddiw?

Credai rhai pobl y byddai Trump yn tawelu ar ôl dod yn arlywydd. Ond mewn gwirionedd, mae e’n gwneud mwy eisoes nag oedd e wedi addo.

Yn ei Araith Agoriadol buodd e’n taranu dros roi ’America’n gynta.’ Dim gair o ddiolch i neb arall am eu gwasanaeth i’r wlad. Ac yn barod mae e’n torchi’i lewys: dechrau ar godi’r mur rhwng America a Mecsico, rhoi caniatâd i arteithio pobl wrth eu holi, tynnu nôl o gytundeb masnach gyda gwledydd y Môr Tawel. Mae’r cwmnïau olew wrth eu bodd – rhoddodd Trump ganiatâd iddyn nhw adeiladu dwy bibell olew hir o Ganada, gan dorri hen gytundeb rhwng Washington a chenedl y Sioux yn North Dakota.

Mae’r arlywydd yn sensro’r newyddion hefyd. Gwahardd Parciau Cenedlaethol America rhag cyhoeddi ffeithiau am newid hinsawdd. Mae Israel bellach yn mynd i godi miloedd o dai newydd ar dir y Palestiniaid – ddywedodd Trump ddim gair am hynny!

Mae tebygrwydd rhwng Trump ac Adolf Hitler yn y 30au: datgan eu bod yn rhoi America / Yr Almaen yn gynta, eu bod am wneud ‘y bobol / das Volk’ yn fawr eto, bygwth y Wasg a sensro newyddion, codi ofn ar leiafrifoedd, pobol Hispanic a du / yr Iddewon. Cymerodd Hitler chwe mlynedd cyn dechrau rhyfel byd. Pedair blynedd sy gan Trump!

Yn wyneb hyn, beth yw tasg Cristnogion? Wel, yn yr Unol Daleithiau mae tri chwarter y Cristnogion gwyn eu croen yn cefnogi Trump i’r carn! Mae’n rhaid i ni weddïo dros yr eglwysi yno a thros y bobl sy’n gwrthwynebu Trump a’i griw. Gallwn sgrifennu at lysgennad newydd America yn Llundain, Woody Johnson, i fynegi ein protest. Biliwnydd o ddyn busnes yw Johnson. Rhoddodd e arian mawr i gefnogi ymgyrch Trump, ond gallwn roi gwybod iddo sut rydyn ni’n teimlo.

Hefyd, mae perygl y bydd llywodraeth Teresa May yn cydweithio gyda Trump yn ei gynlluniau. Er enghraifft, yn helpu America i gasglu carcharorion i’w poenydio.

Mae gwaith mawr o flaen eglwysi Prydain. Pwyso ar lywodraethau Llundain a Chaerdydd - a Washington - i barchu hawliau dynol ym mhob man. Gwrthod cydweithredu â Donald Trump. Gall fod blynyddoedd prysur i ddod.  

 

MIS RHAGFYR 2016: Y NEGES YN Y GOEDEN NADOLIG

Myfyrdod Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell, o rifyn mis Rhagfyr o Bwrlwm, cylchgrawn misol yr eglwys. Mae Robat yn edrych ar hanes a neges y Goeden Nadolig.

Pryd ydych chi'n teimlo bod y Nadolig wedi cyrraedd? Sion Corn yn cyrraedd Abertawe? Y gannwyll Adfent gyntaf yn y capel? Neu wrth weld y wawr ar fore dydd Nadolig ei hun?

I mi, y goeden Nadolig yn ei chornel yn y ty yw dechrau'r Nadolig. Cofiwch, un fawr, artiffisial, sy' acw nawr. Ac nid awr o dagnefedd yw ffwdan blynyddol gosod y goeden yn ei lle'n ddiogel a weindio'r goleuadau bach o'i chwmpas.

O'r Almaen daeth traddodiad y goeden Nadolig. Y cartref cyntaf ym Mhrydain i godi un oedd castell y Frenhines Victoria yn Windsor yn 1841. Ei gwr o'r Almaen, Albert, ddaeth a'r goeden yno. Roedd y traddodiad yn yr Almaen yn fil o flynyddoedd oed. Mae'r gan dymhorol 'O Tannenbaum' ('O Ffynidwydden') yn dod a dagrau i lygaid pob Almaenwyr o hyd. Yn ol y chwedl, yn yr wythfed ganrif gwelodd Sant Boniface y bobl yn ei bentref yn addoli'r dderwen mewn defod baganaidd. Dyma'r sant yn torri'r dderwen i lawr ac yn rhoi ffynidwydden fach yn ei lle. Roedd y dail bythwyrdd yn symbolau o gariad Crist sydd byth yn darfod.

Ond Martin Luther sy'n cael y clod am addurno'r goeden. Yn Rhagfyr 1540, roedd Luther yn moyn symbol o'r goleuni tragwyddol a ddaw i'r byd adeg y Nadolig. Gan hynny, dyma fe'n gosod y canhwyllau bach ar gangau'r goeden yn ei dy ei hunan, a'u goleuo. Roedd hynny'n arwydd hefyd fod croeso i Iesu ar ei aelwyd.

Y flwyddyn nesaf byddwn yn dathlu 500 mlynedd ers i Luther roi cychwyn i'r Diwygiad Protestannaidd yn 1517. Meddyliwn am Luther fel y mynach difrifol a llym, yn herio'r Eglwys Babyddol. Mae'n dda gwybod bod adeg deimladol y Nadolig yn gallu rhoi tipyn o ramant yng nghalon y diwygiwr mwyaf unplyg.

Cafodd Luther ei ysbrydoli hyd yn oed i ysgrifennu amryw o garolau Nadolig. Un o'r rhain yw'r hyfryd 'Vom Himmel hoch' ('O'r nef uchod'). Dyma bennill o gyfieithiad Noel Gibbard o'r garol hon:

'Bachgen a aned 'nawr o Fair, y forwyn fwyn, yn ol y Gair;

Y bychan hwn, yn wael ei fyd, a ennyn gan eich byd i gyd.'

Boed i ni weld y neges hon yn ein coed Nadolig i gyd y mis hwn!

NADOLIG LLAWN I CHI GYD! - ROBAT

MIS TACHWEDD - GWELD YR EFENGYL TRWY LYGAID NEWYDD

Myfyrdod Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell, yn rhifyn mis Tachwedd o Bwrlwm, cylchgrawn misol yr eglwys. Mae Robat wedi cael golwg newydd ar y Beibl o ganlyniad i'w ymweliad diweddar a Madagascar.

Mae’n hawdd dod yn gyfarwydd â rhywbeth. Mor gyfarwydd fel nad y’n ni’n sylwi arno. Ry’n ni’n cerdded i lawr ein stryd mor aml dy’n ni ddim yn sylwi ar liw ffenestri’r tai. Na beth sydd yn y gerddi.

Ry’n ni mor gyfarwydd â Chymru hefyd. Gwybod popeth am y wlad a’I hanes. Gwybod pwy oedd y cymeriadau da a’r cymeriadau drwg. Dyma pam mae’n gwneud lles mawr i ni ddarllen erthygl am Gymru gan rywun o Loegr neu America weithiau. Trwy eu llygaid nhw gallwn weld Cymru mewn goleuni gwahanol iawn.

Ac ry’n ni mor gyfarwydd â’r Beibl. Gallwn feddwl nad oes dim byd newydd i’w ddysgu am y Beibl a Iesu gan ein bod ni’n gwybod y cyfan. Mae perygl wedyn bod y Gair yn colli ei flas.

Dyna pam mae cyfieithiad newydd o’r Gair fel Beibl.net mor bwysig. Mae’r geiriau gwahanol yn ein helpu i brofi a chlywed hanesion y Beibl fel rhai newydd sbon.

Profiad pwysig hefyd yw mynd i wlad arall a gweld y Beibl trwy lygaid y bobl yno. Gall fod yn olwg wahanol iawn i ni, fel dw i wedi’i brofi ym Madagascar.

Byddwn ni’n darllen am Iesu’n dweud ‘Rho’r cyfan sydd gen ti i’r tlodion ..’ a byddwn wedyn yn meddwl am ein dyletswydd tuag ar bobldlawd y byd.

Ond mewn rhai gwledydd, y nhw yw’r tlodion! Sut maennhw’n teimlo am alwad Iesu i bobl roi cynhaliaeth iddyn nhw?

Yng Ngweddi’r Arglwydd byddwn yn gofyn i Dduw am ‘...roi i ni heddiw ein bara beunyddiol.’ Beth yw ystyr hynny i ni? Gallwn droi i’r archfarchnadunrhyw bryd i brynu torth o fara heb drafferth. Ond mewn gwlad dlawd,does dim bara beunyddiol i’w gael. Yn eu gweddi maen nhw’n erfyn amrywbeth i’w cadw nhw’n fyw - yn llythrennol. Mae nerth gwahanol yn ygeiriau iddyn nhw.

Rwy’n gobeithio bydd y golwg newydd yma ar bethau yn help i mi wrthbaratoi oedfaon yn y dyfodol. A gobeithio byddwn i gyd yn gallu dechraugweld yr Efengyl trwy lygaid newydd, a’i deall hi’n well.

Mae’n hawdd dod yn gyfarwydd â rhywbeth. Mor gyfarwydd fel nad y’n ni’n sylwi arno. Ry’n ni’n cerdded i lawr ein stryd mor aml dy’n ni ddim yn sylwi ar liw ffenestri’r tai. Na beth sydd yn y gerddi.

Ry’n ni mor gyfarwydd â Chymru hefyd. Gwybod popeth am y wlad a’I hanes. Gwybod pwy oedd y cymeriadau da a’r cymeriadau drwg. Dyma pam mae’n gwneud lles mawr i ni ddarllen erthygl am Gymru gan rywun o Loegr neu America weithiau. Trwy eu llygaid nhw gallwn weld Cymru mewn goleuni gwahanol iawn.

Ac ry’n ni mor gyfarwydd â’r Beibl. Gallwn feddwl nad oes dim byd newydd i’w ddysgu am y Beibl a Iesu gan ein bod ni’n gwybod y cyfan. Mae perygl wedyn bod y Gair yn colli ei flas.

Dyna pam mae cyfieithiad newydd o’r Gair fel Beibl.net mor bwysig. Mae’r geiriau gwahanol yn ein helpu i brofi a chlywed hanesion y Beibl fel rhai newydd sbon.

Profiad pwysig hefyd yw mynd i wlad arall a gweld y Beibl trwy lygaid y bobl yno. Gall fod yn olwg wahanol iawn i ni, fel dw i wedi’i brofi ym Madagascar.

Byddwn ni’n darllen am Iesu’n dweud ‘Rho’r cyfan sydd gen ti i’r tlodion ..’ a byddwn wedyn yn meddwl am ein dyletswydd tuag ar bobldlawd y byd.

Ond mewn rhai gwledydd, y nhw yw’r tlodion! Sut maennhw’n teimlo am alwad Iesu i bobl roi cynhaliaeth iddyn nhw?

Yng Ngweddi’r Arglwydd byddwn yn gofyn i Dduw am ‘...roi i ni heddiw ein bara beunyddiol.’ Beth yw ystyr hynny i ni? Gallwn droi i’r archfarchnadunrhyw bryd i brynu torth o fara heb drafferth. Ond mewn gwlad dlawd,does dim bara beunyddiol i’w gael. Yn eu gweddi maen nhw’n erfyn amrywbeth i’w cadw nhw’n fyw - yn llythrennol. Mae nerth gwahanol yn ygeiriau iddyn nhw.

Rwy’n gobeithio bydd y golwg newydd yma ar bethau yn help i mi wrthbaratoi oedfaon yn y dyfodol. A gobeithio byddwn i gyd yn gallu dechraugweld yr Efengyl trwy lygaid newydd, a’i deall hi’n well.

Mae’n hawdd dod yn gyfarwydd â rhywbeth. Mor gyfarwydd fel nad y’n ni’n sylwi arno. Ry’n ni’n cerdded i lawr ein stryd mor aml dy’n ni ddim yn sylwi ar liw ffenestri’r tai. Na beth sydd yn y gerddi.

Ry’n ni mor gyfarwydd â Chymru hefyd. Gwybod popeth am y wlad a’I hanes. Gwybod pwy oedd y cymeriadau da a’r cymeriadau drwg. Dyma pam mae’n gwneud lles mawr i ni ddarllen erthygl am Gymru gan rywun o Loegr neu America weithiau. Trwy eu llygaid nhw gallwn weld Cymru mewn goleuni gwahanol iawn.

Ac ry’n ni mor gyfarwydd â’r Beibl. Gallwn feddwl nad oes dim byd newydd i’w ddysgu am y Beibl a Iesu gan ein bod ni’n gwybod y cyfan. Mae perygl wedyn bod y Gair yn colli ei flas.

Dyna pam mae cyfieithiad newydd o’r Gair fel Beibl.net mor bwysig. Mae’r geiriau gwahanol yn ein helpu i brofi a chlywed hanesion y Beibl fel rhai newydd sbon.

Profiad pwysig hefyd yw mynd i wlad arall a gweld y Beibl trwy lygaid y bobl yno. Gall fod yn olwg wahanol iawn i ni, fel dw i wedi’i brofi ym Madagascar.

Byddwn ni’n darllen am Iesu’n dweud ‘Rho’r cyfan sydd gen ti i’r tlodion ..’ a byddwn wedyn yn meddwl am ein dyletswydd tuag ar bobldlawd y byd.

Ond mewn rhai gwledydd, y nhw yw’r tlodion! Sut maennhw’n teimlo am alwad Iesu i bobl roi cynhaliaeth iddyn nhw?

Yng Ngweddi’r Arglwydd byddwn yn gofyn i Dduw am ‘...roi i ni heddiw ein bara beunyddiol.’ Beth yw ystyr hynny i ni? Gallwn droi i’r archfarchnadunrhyw bryd i brynu torth o fara heb drafferth. Ond mewn gwlad dlawd,does dim bara beunyddiol i’w gael. Yn eu gweddi maen nhw’n erfyn amrywbeth i’w cadw nhw’n fyw - yn llythrennol. Mae nerth gwahanol yn ygeiriau iddyn nhw.

Rwy’n gobeithio bydd y golwg newydd yma ar bethau yn help i mi wrthbaratoi oedfaon yn y dyfodol. A gobeithio byddwn i gyd yn gallu dechraugweld yr Efengyl trwy lygaid newydd, a’i deall hi’n well.

Robat Powell

MIS HYDREF - RHAID CANMOL JEREMY CORBYN AM LYNU WRTH EGWYDDOR

Myfyrdod y Parch Dewi Myrddin Hughes o 'Bwrlwm' rhifyn Hydref, 2016 - yn absenoldeb ein Harweinydd, Robat Powell, ym Madagasgar.

“Disgwyl pethau gwych i ddyfod,

Croes i hynny maent yn dod,” meddai’r hen bennill.

Bwriad y rheini oedd yn herio Jeremy Corbyn oedd cael gwared arno fel arweinydd, neu o leiaf ei wanhau. Yn lle hynny, mae’n dal mewn grym, ac yn gryfach nag yr oedd cynt.

Y teimlad oedd y byddai polisiau sosialaidd Corbyn yn rhoi rhwydd hynt i’r Toriaid am na fyddai cefnogaeth iddynt.  Gwell felly, meddid, fyddai symud o’r chwith tuag at y canol, er mwyn i’r blaid gael gwell siawns o gael ei hethol.

Beth yw’r pwynt o gael polisiau da o blaid tegwch a chyfle i bawb, os na fydd cyfle i’w gweithredu? Os mae Corbyn fydd yn arwain, medden nhw, bydd syniadau da gyda ni, ond fydd dim cyfle i’w harfer, achos byddwn yn yr anialwch am genhedlaeth gyfan. Rhaid i ni gyfaddawdu, medden nhw wedyn, er mwyn ffurfio llywodraeth, a chael rhai polisiau sosialaidd i’w gweithredu.  Gwell hanner torth na dim?

Beth amdani?

Rhaid canmol Jeremy Corbyn am ddal ati yn wyneb cymaint o ymosodiadau.  Bu’n ddewr ac yn benderfynol.  Gwrthododd ildio a gwrthododd gyfaddawdu.

Beth amdanom ni? Ydyn ni yn aros gydag egwyddor yr efengyl? Neu a fyddai’n well i ni hefyd gyfaddawdu i fod y fwy poblogaidd? Does dim lle i ni simsanu ar yr efengyl. Ei derbyn wnaethom,"fel hyn y dywed yr Arglwydd.” Nid ni sy’n llunio’r maniffesto Cristnogol.

 Cawsom ninnau bobl nad oeddent yn fodlon cefnu ar y gwirionedd fel y deallent ef. Collodd miloedd eu bywydau o achos eu safiad dewr, o ddyddiau Steffan a’r Apostolion hyd Helder Camara a Martin Luther King ein cyfnod ni.

Medden nhw i gyd, wnawn ni ddim cyfaddawdu, hyd yn oed i achub ein bywyd.

Glynu wrth y gwirionedd a roddwyd i ni yn Iesu Grist yw ein busnes ni.

Dim ond i ni gofio bod angen bod yn wylaidd hefyd.  Rhaid dehongli “y gwirionedd,” a fydd pawb ddim yn gweld yr un fath. Does dim llawer o bethau yn bwysicach na “goddef eich gilydd mewn cariad.”

Diolch i Jeremy Corbyn am ein hatgoffa o werth egwyddor, a glynu wrthi. Mae’n esiampl ardderchog.

Dewi M.Hughes

MIS MEDI - A CHYFLE NEWYDD I LEDAENU GAIR DUW

Myfyrdod Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant, o 'Bwrlwm', rhifyn Medi 2016

Mis od yw mis Medi. Y mis pryd mae pethau da’n dod i ben. Ond hefyd y mis pryd mae pethau newydd yn dechrau!


‘Gwelais fedd yr haf heddiw ..’ meddai un bardd. Mae’r blodau’n gwywo, a’r dyddiau’n byrhau. Daeth y gwyliau i ben. Y tymor criced hefyd!


Er hynny, mae mis Medi’n amser cyffrous. Pan oeddwn yn athro ac yn mynd nôl
i’r ysgol roeddwn yn teimlo’n ffresh. Byddai dosbarthiadau newydd gen i, a’r
rheiny’n ffresh ac yn awyddus hefyd – o leiaf am rai wythnosau!


Ym mis Medi mae’r tymor pêl-droed a rygbi’n dechrau o ddifri. Dyna rywbeth i
edrych ymlaen ato! Pob tîm yn llawn gobaith am lwyddiant– eto, am rai
wythnosau, o leiaf!


Mae tymor newydd yr Eglwys yn dechrau adeg y Pasg. Serch hynny, mae mis
Medi’n adeg naturiol i ni ailgydio yn ein pethau ar ôl arafwch yr haf. Dyw’r Efengyl
ddim yn dweud pa amser o’r flwyddyn dechreuodd Iesu ar ei weinidogaeth. Ond
rwy’n hoffi meddwl taw mis Medi oedd hynny hefyd pan oedd gwres mawr haf
Palesteina’n dechrau lleihau.


Roedd angen disgyblion ar Iesu i’w helpu ac i barhau’r gwaith ar ei ôl. Y ddau
cynta a alwodd ato oedd y ddau frawd Andreas a Simon Pedr. Galwodd Iesu ddeg
arall maes o law hefyd. A dyma beth rhyfedd. Pobl brysur oedden nhw –
pysgotwyr, casglwr trethi, pob un â’i waith a’i gyfrifoldeb. Ond pan ddaeth yr
alwad ni ddywedodd neb ‘Na.’ Roedden nhw’n barod i ddechrau arni.


Y mis hwn daw cyfle newydd i ni yng Nghapel y Nant i ailgydio yn ein haddoli.
Ailgydio yn ein hymrwymiad i ledaenu Gair Duw. Yn ein cyfraniad i gwrdd ag
angen pobl yn y gymuned a’r byd. Bydd y Grwpiau Gwaith yn cyfarfod yn fuan.
Ydych chi’n mynd i un ohonyn nhw?


Bydd grŵp newydd yn cyfarfod i edrych ar y gerddoriaeth yn y capel. Mae’r hen
emynau’n wych, ond tybed allwn ni ddod â rhai pethau newydd i’n cerddoriaeth
hefyd? Os oes diddordeb gyda chi, mynnwch air gyda Pamela.


Mae cyfle i bawb wneud cyfraniad i fywyd Capel y Nant. A mis Medi yw’r amser
gorau i ddechrau arni!

CROESO I WLAD UKIP!

Myfyrdod Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant, o 'Bwrlwm', rhifyn Gorffennaf / Awst 2016

MAE’R Refferendwm Ewropeaidd drosodd. Ry’ch chi’n gwybod beth oedd y canlyniad. Mae dydd y Gymru Newydd wedi gwawrio!

Mae’n amser da, felly, i ofyn cwestiwn pwysig: pwy yw’r gwleidydd mwya llwyddiannus ym Mhrydain heddiw? Nid David Cameron, na Jeremy Corbyn, na Leanne Wood.

Yr ateb yw Nigel Paul Farage.

Ystyriwch: yn 1993 bu pawb yn chwerthin pan sefydlodd Nigel blaid newydd o’r enw UKIP. Nod y blaid hon, meddai, oedd cael Prydain allan o’r Undeb Ewropeaidd. Pawb yn chwerthin eto.

Yn 1999 cafodd Nigel ei ethol yn MEP – yn Aelod o Senedd Ewrop. Ond safodd saith gwaith ar gyfer Senedd Prydain. Collodd bob tro. UKIP oedd plaid y ‘fruitcakes and loonies’, yn ôl David Cameron. Bachan cartŵn oedd Nigel gyda’i beint. Cafodd hyd yn oed drama Nadolig Capel y Nant dipyn o hwyl am ei ben!

Ond mae Nigel wedi cael y maen i’r wal. Gorfodi Cameron i gynnal refferendwm ar yr UE. Arwain pobl Prydain allan fel Moses. Codi o’r llwch i’r copa. Bydd yn arwr yn y llyfrau hanes.

Ond pa fath o arwr yw hwn? Arwr y werin o ysgol ddrud Dulwich College; sy’n dweud bod ‘menywod yn y gwaith yn werth llai na dynion’; sy’n dweud nad oes ‘dim syniad’ ganddo beth sy’n achosi newid hinsawdd; sy’n beio mewnfudwyr am faint y traffig ar yr M4; sy’n lladd ar yr Undeb Ewropeaidd, ond a gafodd £2 filwn o dreuliau ganddyn nhw rhwng 1999-2009.

Dyma’r dyn sy’n defnyddio llun o ffoaduriaid truenus o Syria i godi teimladau pobl Prydain yn erbyn gweithwyr o Ewrop. Rhoi celwydd ar ochr ei ‘battlebus’ bod Prydain yn anfon £350 miliwn yr wythnos i Frwsel. Yna cyfadde’r celwydd, ond ei gadw ar ochr y bws!

Rhaid gofyn hefyd beth yw gwerthoedd gwlad sy’n gwneud Nigel Farage yn llwyddiant? Cewch chi ateb hynny.

Wedi’r refferendwm, bydd ffordd anodd o flaen Cymru a Phrydain am flynyddoedd. Colli grantiau’r UE. Mwy o doriadau. Y prif weinidog yn newid. Y llywodraeth yn newid.

Ond bydd Eglwys Iesu Grist yn aros heb newid. Ry’n ni’n sicr o’n gwerthoedd ni, yn cynnig gobaith, cariad a chroeso i bawb. O ble bynnag maen nhw’n dod.

GOFALU AM BAWB - A'R DDAEAR HEFYD

Myfyrdod Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant, o 'Bwrlwm', rhifyn Mehefin 2016

Os hoffech weld Ynysoedd y Solomon ger New Guinea peidiwch ag oedi'n hir. Maen nhw'n diflannu!

Mae pump o’r ynysoedd newydd ddiflannu o’r map. Dan y môr. Yn ffodus, doedd neb yn byw ar y rhain. Ond ar chwe ynys arall yno lle mae pobl yn byw mae hanner y tir eisoes wedi mynd o dan y don.

Y rheswm yw bod lefel y moroedd yn codi. Mae rhannau o’r Môr Tawel yn codi

tua hanner modfedd y flwyddyn bellach. Mewn grŵp arall o ynysoedd yno, Kiribati,mae’r bobl yn ceisio prynu tir yn Ffiji er mwyn symud yno – 120,000 ohonyn nhw!

Newid hinsawdd sy’n achosi hyn. Y ddaear a’i moroedd yn cynhesu. Gwelwn y broblem nes adre hefyd. Mae dyddiau pentre’r Friog, ger Dolgellau, wedi’u rhifo. Am fod y môr yn bwyta mwy a mwy o’r glannau yno, penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio â gwario mwy o arian i amddiffyn y pentre.

Mae Llyfr Genesis yn rhoi darlun o greu’r Ddaear. Ei chreu gan Dduw yn drysorfa i bawb a fyddai’n byw arni. ‘.. Felly gorffennwyd y nefoedd a’r ddaear a’u holl luoedd ... Gwelodd Duw y cwbl a wnaeth, ac yr oedd yn dda iawn ..’ Ond ni sy’n bygwth dyfodol y ddaear trwy losgi tanwydd ffosil a rhyddhau carbon diocsid i’w hawyr.

Dysgodd Iesu ni taw ein cyfrifoldeb yw gofalu am eraill. Mae hynny’n cynnwys gofalu am y ddaear. Mae’n dda gweld bod eglwysi’r byd yn rhoi mwy o sylw i’r amgylchedd a newid hinsawdd. Un broblem benodol yw dŵr. Mwy o lifogydd fan hyn, mwy o sychder fan draw. Felly, ym mis Mehefin eleni mae holl eglwysi Ewrop yn cynnal cynhadledd yn Helsinki gyda’r teitl ‘Water in a sustainable future.’ Ry’n ni’n siŵr o glywed mwy am hynny.

Mae cymaint o ofidiau yn y byd – rhyfel, tlodi, ffoaduriaid. Ond gallen ni ddatrys y problemau hynny i gyd a cholli ein planed trwy newid hinsawdd. Bydd y pum mlynedd nesaf yn allweddol bwysig. Ar ddechrau Mai roedd protestio mawr ger Merthyr yn erbyn y gwaith glo brig anferth yno yn Ffos y Frân. Mae’n bwysig bod y Cynulliad newydd yng Nghaerdydd yn ymateb i’r her.

Bydd rhan gyda ni i’w chware hefyd yng Nghapel y Nant.

 

Cofiwch aberth y Siartwyr - ewch i fwrw pleidlais yn etholiad ein Cynulliad Cenedlaethol ar Iau, Mai 5

Myfyrdod Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant, o 'Bwrlwm', rhifyn Mai 2016

Bu helynt yng Nghasnewydd yn 1839. Martsiodd tua 5,000 o Siartwyr i’r dre i fynnu Siarter o hawliau i’r werin bobl. Ond taniodd milwyr atyn nhw. Cafodd 22 eu lladd ac ugeiniau eu cludo i Awstralia fel cosb.


Un hawl roedd y Siartwyr yn gofyn amdani oedd yr hawl i bawb gael pleidleisio.
Ond bu canrif arall o ymdrechu cyn i bob dyn a menyw gael y bleidlais yn 1928.


Cawn ddefnyddio ein hawl i bleidleisio eto ar Fai y pumed ar gyfer y Cynulliad
Cenedlaethol. O gofio’r frwydr i ennill yr hawl, byddech chi’n meddwl bod pawb
ar dân i roi X ar y papur. Ond nid felly y mae!


Roedd record da gan bobl Cymru. Ymhob etholiad cyffredinol rhwng 1950-1997
roedd canran uwch o bobl yn pleidleisio yng Nghymru na rhannau eraill y Deyrnas
Unedig. Yn 2015, y canran oedd 66%.


Yn etholiadau’r Cynulliad mae’r ffigurau’n llawer is. Pleidleisiodd 46% yn etholiad
cynta’r Cynulliad yn 1999, ond dim ond 42% yn 2011. Pam y diffyg diddordeb?
Mae rhai pobl yn teimlo nad yw’r Cynulliad yn bwysig. Hyd yma, dydy e ddim yn
gallu codi trethi, na rheoli meysydd fel yr heddlu a darlledu.


Er hynny, mae’r Cynulliad yn rheoli’r gwasanaeth iechyd, addysg, y ffyrdd, yr
amgylchedd a materion eraill o bwys. Gall wneud cyfreithiau yn y meysydd hyn.


Mewn sawl man, mae’r Beibl yn esbonio beth yw ein dyletswydd ni fel Cristnogion. Un peth yw ein cyfrifoldeb droson ni ein hunain a thros bobl eraill. Yn llythyr Iago darllenwn taw dyma’r ‘..grefydd sy’n gofalu am blant amddifad a gwragedd gweddwon sy’n dioddef...’.


Un ffordd bwysig i ni ddangos y cyfrifoldeb hwn yw pleidleisio. Helpu dewis
Llywodraeth Cymru. A thrwy hyn, dangos ein pryder droson ni ein hunain a thros
ein gwlad.


Dylem ni i gyd benderfynu pa blaid sy’n dod agosaf at arfer y gofal a’r drugaredd
y mae’r Testament Newydd yn sôn amdanynt. Gofal droson ni, dros eraill a thros
ein gwlad. Yna, cofiwch aberth y Siartwyr - ac ewch i fwrw eich pleidlais ar Fai 5!

ESTYNNWN GROESO ARBENNIG I BOBL UNIG I GAPEL Y NANT

Myfyrdod Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant,

o Bwrlwm, rhifyn Ebrill 2016

Mae’r gwyliau Cristnogol fel y Nadolig a’r Pasg yn bwysig. Yn bwysig i’n Ffydd, wrth reswm. Ond hefyd maen nhw’n rhoi cyfle i deuluoedd ddod at ei gilydd a mwynhau’r gymdeithas.

Yn anffodus, bydd llawer o bobl ar y tu fas y Pasg yma. Ar eu pennau’u hunain, ac yn unig. Mae adroddiad gan Eglwys Loegr yn dweud taw unigrwydd pobl yw’r broblem fwya mae offeiriaid yn ei hwynebu yn eu plwyfi.

Mae adroddiad arall (2010) gan y Mental Health Foundation (MHF) yn dweud bod 10% o bobl Prydain yn unig ‘drwy’r amser.’ Ar y cyfan, pobl oedrannus yw’r rhai unig. Ond mae’n ofid ymhlith yr ifanc hefyd, hyd yn oed y rhai sy’n rhannu tŷ ag eraill.

Dangosodd y MHF fod 60% o bobl ifanc rhwng 18-30 yn teimlo’n unig ‘yn aml.’ Mae unigrwydd yn effeithio ar ein hiechyd.

Gwnaeth Prifysgol Chicago ymchwil ar draws America yn 2015. Gwelwyd bod pobl ‘unig’ yn fwy tebyg o ddioddef o bethau fel trawiadau ar y galon, dementia ac iselder ysbryd na phobol eraill. Dywedodd yr adroddiad fod unigrwydd yn achosi mwy o salwch na smygu. Ond mae’n bosib cynnig help.

Darllenais am achos gwraig weddw 78 oed o’r enw Caroline. Mae hi’n byw yng Ngogledd Llundain. Does neb byth yn galw gyda hi. Ond bob nos Fawrth am 6.00 bydd y ffôn yn canu. Wilma sy’n ffonio, a bydd y ddwy’n mwynhau clonc am dipyn o bopeth am awr neu fwy.

 Hen ffrindiau? Na – dyw’r ddwy erioed wedi cwrdd. Ac mae Wilma’n byw 200 milltir i ffwrdd.

 Elusen o’r enw ‘Y Llinyn Arian’ (The Silver Line) sydd wedi rhoi Caroline a Wilma mewn cysylltiad dros y ffôn. Maen nhw’n trefnu hyn rhwng pobl sy’n byw ar eu pennau’u hunain drwy’r wlad.

Mae elusennau eraill fel Age Cymru yn gwneud gwaith tebyg hefyd. Mae’r elusennau hyn yn haeddu cael ein cefnogaeth.

Ateb arall yw bod eglwysi’n cynnwys y rhai unig yn eu cwmnïaeth. Mae Pwyllgor Bugeilio Capel y Nant yn gwneud cyfraniad pwysig wrth ymweld â’r rhai oedrannus.

Ac os y’ch chi’n nabod rhywun sy ar y tu fas i’r gymdeithas mewn rhyw ffordd, beth am ddod â nhw i addoli yng Nghapel y Nant? Mae croeso yma i bawb. Mwynhewch wyliau’r Pasg gyda’ch gilydd.

ARWEINYDD CAPEL Y NANT, ROBAT POWELL, YN EIN HATGOFFA O WERSI GWYL DDEWI

Myfyrdod Robat o rifyn mis Mawrth, Bwrlwm

Pan oeddwn yn ddisgybl ysgol ramadeg, roedd Mawrth y cynta’ yn codi braw! Diwrnod Eisteddfod yr Ysgol yn Neuadd y Gweithwyr. Cael ein caethiwo yno tan ymhell ar ôl pedwar o’r gloch.

Gorfod gwrando ar bethau fel yr adroddiad Ffrangeg a chanlyniad y cyfieithiad

Lladin!

Erbyn imi gyrraedd y Chweched Dosbarth roedd yr Eisteddfod yn fwy o hwyl. Ac yngorffen am hanner awr wedi tri, diolch byth! Y cyfan er mwyn dathlu dydd Nawddsant Cymru, Dewi.

Mae nawddsant gan bron pob gwlad yn y byd. Y syniad oedd bob y sant neu’r santes yn gallu siarad â Duw yn y nefoedd ar ran pobl y wlad.

Mae nawddsant gan bob proffesiwn hefyd, hyd yn oed rhai diweddar. Ar gyfer

ffotograffiaeth dewiswyd y Santes Veronica. Oherwydd taw Veronica sychodd wyneb Iesu ar ôl y croeshoeliad, a daeth argraff ei wyneb yn glir ar ei siôl hi, fel llun camera ar ffilm.

Hen draddodiad i’r Cymry yw dathlu Mawrth y cynta’. Yn nrama Shakespeare ‘Henry V’ mae’r Cymro Fluellen yn atgoffa Henry “And I do believe your Majesty takes no scorn to wear the leek upon Saint Tavy’s day.” Boi o Drefynwy oedd Henry V, wedi’rcwbl!

Yn ei ddyddiadur enwog, nododd Samuel Pepys ar ganol yr 17fed ganrif fod y

Cymry yn Llundain yn dathlu’n swnllyd ar Fawrth y cynta’. Nododd hefyd fod hyn ynhala rhai o Saeson Llundain yn grac. Un flwyddyn gwnaethon nhw ddymi o Gymro a’i grogi ar y stryd!

Ond rydyn ni’n dathlu mwy na dim ond bywyd Dewi. Mae’n gyfle i genedl fach y

Cymry ddangos i’r byd ein bod ni ‘yma o hyd.’ Cyfle i ni atgoffa ein hunain pwy ydyn ni. A dathlu gyda’n gilydd am ein bod ni y bobl ydyn ni.

’Dyw Cymru ddim yn well nag unrhyw genedl arall. Ond mae gyda ni bethau unigryw sy’ ddim i’w cael yn unman arall. Pethau’r ysbryd - fel iaith a llenyddiaeth Gymraeg, traddodiadau cerddorol a chrefyddol. Pethau gwerthfawr i gyd.

Gwnawn ein gorau i’w cadw a’u hybu! Ac nid dim ond ar Fawrth y cynta’, ond drwy’r flwyddyn hefyd.

| Reply

Latest comments

28.09 | 11:17

Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob dyminiadau gorau oddiwrth aelodi Elim CraigCefn Parc.

19.09 | 09:07

Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gyswllt Zoom wedi newid? Gobeithio yr aeth y gwasanaeth yn iawn.

13.01 | 16:51

Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfawrogi'n fawr eich sgwrs ar hanes Undodwyr yr ardal, gyda'u cyfraniad i ennill hawliau pleidleisio.

08.01 | 15:43

Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!