OEDFAON PUM-MUNUD CYFNOD COVID 19

Colofn 'Y Gair Ola ...' gan Robat Powell yn Bwrlwm, cylchgrawn Capel y Nant, rhifyn Mehefin 2020.

 

Erbyn diwedd Mai bydd Capel y Nant heb gyfarfod yn yr adeilad ers 12 Sul. Ond rydyn ni’n cadw mewn cysylltiad â’n gilydd trwy sawl dull. Ffonio, ebostio, mynd â’r ‘Tyst’ a’r ‘Oedfa Bum-munud’ i ddrws pobol - a defnyddio Zoom!

  Trwy gael Zoom ar y cyfrifiadur neu’r i-pad gall nifer fawr o bobol weld a chlywed ei gilydd.

Ar Zoom ry’n ni wedi cynnal Cymundeb a’r Pwyllgor Gwaith. Wedi cynnal dau gwis. Ac wrth baratoi un cwis cofiais am stori sy’n berthnasol i argyfwng Covid-19.

  Ry’n ni’n mwynhau pob math o gwis ar y teledu. Ar y radio roedd yr hen ‘Brain of Britain’ yn ffefryn yn tŷ ni’, a ‘Top of the Form’ flynyddoedd yn ôl. Roedd Ysgol Ramadeg Ystalyfera’n arfer cystadlu ar hwnnw. Tybed pam mae cyn lleied o gwisiau wedi bod yn Gymraeg ar S4C?

  Ond dyma ddod at y pwynt. Pan gawson ni set deledu yn y pum degau, hoff raglen Prydain oedd ‘What’s my line?’ Cofio hwnna? Pedwar ar y panel yn ceisio dyfalu beth oedd gwaith aelod o’r cyhoedd. Anodd deall heddiw beth oedd apêl fawr gwybod bod rhywun yn ‘underwater grummit greaser’ neu rywbeth tebyg, ond dyna ni.     

  Rhan bwysig o’r rhaglen oedd personoliaeth y pedwar panelwr. A’r seren fwyaf o’r pedwar oedd Lady Isobel Barnett. Roedd hon yn ddeallus, yn ddeniadol, ac yn gyfoethog. Albanes o Aberdeen oedd hi, wedi priodi rhyw ‘Syr’ cefnog o Sais. Roedd ganddi bopeth. Ac eto ..

  Yn 1980 cafwyd hi’n euog o ddwyn o siop. Lladrata tun o diwna a charton o hufen. Bedwar diwrnod wedyn fe’i lladdodd ei hun.

  Sut mae esbonio’r drasiedi honno? Beth ddaeth dros ei phen? Roedd arian gan y Fonesig Barnett i fforddio unrhyw beth.

  Ond mae ei hachos hi’n dangos peth tra phwysig. Gall fod gyda chi bob dim materol, swydd, cyfoeth, harddwch pryd a gwedd, ond os nad yw eich meddwl yn gytbwys a phwyllog, dyw’r manteision mawr yn werth dim.

  Yn yr argyfwng presennol mae lle i bryderu am gyflwr corfforol pobol. Ond mae ein hiechyd

meddwl yr un mor bwysig.

  Drwy’r cyfnod anodd hwn rhaid aros yn amyneddgar ac yn gall. Anghofiwch y pethau ry’ch chi’n methu’u gwneud. Cofiwch am y pethau ry’ch chi’n gallu’u gwneud! A chwiliwch am rywbeth newydd i’w drio. Gall fod yn her, ond yn hwyl hefyd!

  A sôn am aros yn gall, mae cael hwyl mewn cwis diniwed yn gwneud lles mawr i bawb.

Ymunwch â’r cwis nesa gyda Chapel y Nant – ar Zoom!

OEDFA BUM-MUNUD, SUL, MAI 24, 2020

Amrywiol iawn yw gwaith yr Eglwys. Addoli a moli Duw, wrth gwrs. Magu cymdeithas glòs o gredinwyr. Ceisio troi cariad a chyfiawnder Duw yn realiti yn y byd sy o’n cwmpas.

Rhan bwysig arall o dasg yr Eglwys yw addysgu pobl. Dysgu ein haelodau amgynnwys ac ystyr y Beibl. Ond hefyd dysgu ein pobl a’n plant am y byd, y ffordd iawn i fyw, a sut dylai Cristnogion ymddwyn yn eu perthynas â phobl eraill.

Addysgwr rhagorol oedd Iesu. Dyma ddarn o Efengyl Mathew lle mae e’n sôn am werth Teyrnas Duw.

Mathew 13:44-48

44  “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel trysor wedi’i guddio mewn cae. Dyma rywun yn ei ffeindio ac yna’n ei guddio eto, wedyn mynd yn llawen a gwerthu popeth oedd ganddo er mwyn gallu prynu’r cae hwnnw.

45  “Mae teyrnasiad yr Un nefol hefyd yn debyg i fasnachwr yn casglu perlau gwerthfawr.  46  Ar ôl dod o hyd i un perl arbennig o werthfawr, mae’n mynd i ffwrdd ac yn gwerthu’r cwbl sydd ganddo er mwyn gallu prynu’r un perl hwnnw.

47  “Unwaith eto, mae teyrnasiad yr Un nefol yn debyg i rwyd sy’n cael ei gollwng i’r llyn a phob math o bysgod yn cael eu dal ynddi.  48  Mae’r pysgotwyr yn llusgo’r rhwyd lawn i’r lan. Wedyn mae’r pysgod da yn cael eu cadw a’u storio, ond y pysgod diwerth yn cael eu taflu i ffwrdd.

Yma mae Iesu’n esbonio ar ffurf damhegion pa mor werthfawr yw Teyrnas Duw.

Bydd y byd a bywyd dan reolaeth Duw mor wych fel byddwn yn rhoi’r cwbl er mwyn cael rhan ynddo. Ond yn y drydedd ddameg mae’n egluro taw dim ond y ‘pysgod da’ gaiff le yn y Deyrnas. Hynny yw, y bobl fydd yn byw yn ôl gwersi a gorchmynion Duw. Y sawl fydd yn ‘caru ei gymydog fel ef ei hun.’

Mae dysgu ac esbonio fel hyn ar ffurf dameg neu stori yn effeithiol. Ydyn ni yn yr Eglwys yn addysgu pobl yr un mor effeithiol?

Wrth gwrs, mae addysgu’n anodd dan yr amgylchiadau presennol pryd ry’n ni’n methu cyfarfod ein gilydd. Addysgu trwy’r eglwys, ond hefyd addysgu trwy’r ysgol a’r brifysgol. Mae pob rhan o’n cymdeithas yn dioddef mewn rhyw ffordd y dyddiau hyn, ond mae ein pobol ifainc yn dioddef mewn ffordd arbennig, ac mae gofyn cofio amdanyn nhw.

Mae’r ysgolion ar gau, efalle tan fis Medi. A’r prifysgolion o bosib am flwyddyn arall! Y disgyblion a’r myfyrwyr yn mynd trwy bob math o brofiadau. Mae rhai, o bosib, wrth eu bodd gyda’r ‘gwyliau’ hir! Ond bydd llawer yn rhwystredig iawn yn gaeth yn eu tai neu’u fflatiau, yn methu gweld ffrindiau, yn methu chwarae gemau, eu rhieni efalle’n ffraeo â’i gilydd. Llawer yn methu sefyll arholiadau i ddangos mor dda maen nhw wedi gweithio a chael y cymwysterau maen nhw’n haeddu.

 

A byddan nhw i gyd yn colli talp mawr o addysg wyneb-yn-wyneb gyda’u athrawon neu’u darlithwyr, a’r profiad o ddysgu gyda’u cyd-fyfyrwyr. Mae’r ffactorau hyn i gyd yn siŵr o achosi problemau a gofid meddwl i’r ifanc.

Wrth i ni feddwl am arfer cariad Iesu, tueddwn i feddwl am leddfu anghenion y rhai difreintiedig, y methedig neu’r ffoadur. Mae’n hawdd anghofio anghenion y rhai ifainc.

Dysgodd Iesu mor arbennig fydd y byd lle mae Duw’n teyrnasu. Rhan o’r arbenigrwydd hwnnw yw’r ffordd ry’n ni’n gofalu’n gariadus am ein gilydd. Yn ystod yr argyfwng, dyna sydd ei angen ar ein pobl ifainc. Mae gyda ni i gyd ein plant a’n hwyrion, neu ry’n ni’n nabod ac yn gweld plant cymdogion a chyfeilion.

Mae gofyn gwneud ein gorau glas i roi hwb iddyn nhw sut bynnag y gallwn. Mae eu haddysg yn rhy werthfawr i’w cholli.

Gweddïwn. Rhown ddiolch, O Dduw, am ein plant a’n pobl ifainc, am y llawenydd a’r pleser maen nhw’n rhoi i ni. O’u gweld nhw nawr yn eu hangen, O Dduw, boed i ni gynnig yr hyn allwn i liniaru eu gofid meddwl a dangos ein cariad tuag atyn nhw. Amen.

Oedfa Bum-munud            Sul, Mai 17, 2020

‘Dagrau daionus’ - gan Robat Powell

Mewn dau fan yn unig mae’r Testament Newydd yn dweud bod Iesu’n llefain. Yn Efengyl Luc, pennod 19, darllenwn fod Iesu’n gweld Jerwsalem ac yn llefain am fod y ddinas a’i phobl wedi gwrthod ei neges o dangnefedd a chariad, ac am fod dinistr o’i blaen hi.

Mae’r digwyddiad arall yn y darn isod. Mae Lasarus, ffrind Iesu, newydd farw, ac mae ei chwiorydd Mair a Martha’n anfon am Iesu.  

 

Ioan, 11:31-36

31 Roedd pobl o Jwdea wedi bod gyda Mair yn y tŷ yn cydymdeimlo gyda hi. Pan welon nhw hi'n codi mor sydyn i fynd allan, dyma nhw'n mynd ar ei hôl gan feddwl ei bod hi'n mynd at y bedd i alaru.

32 Pan gyrhaeddodd Mair lle roedd Iesu, a'i weld, syrthiodd wrth ei draed a dweud, “Arglwydd, taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw.”

33 Wrth ei gweld hi'n wylofain yn uchel, a'r bobl o Jwdea oedd yno yn wylofain gyda hi, cynhyrfodd Iesu drwyddo ac roedd yn ddig. 34 Gofynnodd, “Ble dych chi wedi'i gladdu?”

“Tyrd i weld, Arglwydd,” medden nhw.

35 Roedd Iesu yn ei ddagrau.

36 “Edrychwch gymaint roedd yn ei garu e!” meddai'r bobl oedd yno ...

Mae’r hen ddelwedd o ‘Iesu tirion’ yn dwyllodrus. Yn y darn yma, er enghraifft, gwelwn Iesu’n dangos emosiynau cryf. Ond pam dylai fe deimlo ‘yn ddig’ wedi marwolaeth Lasarus? Un esboniad yw achos mai ‘wylofain’ mae’r bobl yno, hynny yw, yn galaru’n uchel, yn galaru’n ffurfiol yn ôl yr arfer Iddewig. Cred Iesu fod y ffydd Iddewig yn methu cyffwrdd go iawn â’r teulu yn eu dioddefaint.

Ond wedyn gwelwn fod Iesu ‘yn ei ddagrau.’ Ac mae’r teimlad dwys yma’n tarddu o’r gwir gariad sydd yn Iesu. Cariad naturiol at ffrind sy wedi marw, ond hefyd y cariad mawr at y ddynoliaeth, aton ni i gyd, y bydd Iesu’n ei ddangos hyd at farw ar y groes.

Yn ystod cyfnod Covid-19 ry’n ni i gyd yn clywed am bethau sy’n gwneud i rywun ‘gynhyrfu drwyddo.’ Pobol ddiniwed yn marw cyn eu hamser a fu’n llawn egni ac yn gymwynasgar yn eu cymunedau. Os bydd hyn yn peri i ni golli dagrau ddylen ni ddim teimlo cywilydd am hynny. Mae ein dagrau’n brawf o’n cydymdeimlad â phob un sy’n dioddef y dyddiau hyn.

Ond clywn am bethau hefyd a ddylai ein gwneud ‘yn ddig’, fel Iesu. Yn ddig am fod ein harweinwyr wedi methu paratoi ein hysbytai a’n cartrefi gofal ar gyfer Covid-19 er iddyn nhw weld pa mor ofnadwy roedd pethau’n dechrau mynd yn Tseina a’r Eidal. Darllenais fod 8,000 o gwmnioedd ym Mhrydain sy’n gallu cynhyrchu eitemau PPE, y gwisgoedd amddiffynnol, ac eto doedd neb yn gallu trefnu’r broses yn iawn!

Gallwn deimlo’n ddig hefyd am ymddygiad rhai pobl unigol. Fel y dyn â’r firws a boerodd ar Mrs Belly Mujinga, un o staff gorsaf Victoria yn Llundain. Bu hi farw o Covid-19 yn fuan wedyn. 

Er hyn oll, yng nghanol dagrau Iesu am Lasarus mae ei gariad. Ac yn yr hanes hwn daw bywyd yn ôl i Lasarus a’i deulu trwy rym y cariad hwnnw.

Yn yr argyfwng presennol hefyd mae ein dagrau ninnau yn brawf bod ein cariad yn fyw. Yng ngeiriau’r prifardd Dic Jones: ‘Ei dawn i wylo yw gwerth dynoliaeth.’ Ac fel Iesu, gallwn droi ein cariad yn weithred trwy gynnal ein gilydd - ar y ffôn a’r sgrin fach - a gallwn roi arian neu fwyd i gefnogi pawb sydd wrthi yn y rheng flaen.

Gweddïwn. Bydd gyda ni, O Dduw cariadus, ym mhob gofid ac amheuaeth. Na foed i ni fod yn swil o ddangos teimladau pan ddaw gofid i ni, gan fod rhyddhad i’w gael trwy ddagrau. A gwyddom trwy’r cyfan dy fod di yn gefn i ni, a bod cynhaliaeth o’n cwmpas yn y gwasanaethau proffesiynol a’r gymdogaeth. I ti bo ein diolch, O Dduw, am y cariad a’n gynhaliaeth hon. I ti bo’r diolch am ein gallu i wylo. Amen.

Ry’n ni’n cymryd darlleniad y Sul yma o lythyr Paul at yr Eglwys yn Rhufain.

Roedd y Cristnogion hynny’n byw mewn amgylchiadau anodd a pheryglus, oherwydd gallai’r Ymerawdwr Rhufeinig, Nero ar y pryd, benderfynu eu herlid a’u dienyddio nhw unrhyw bryd. Pwrpas Paul, felly, yn y darn hwn oedd codi eu calonnau a’u hannog i ddal i gredu yn Iesu.

Rhufeiniaid 8:35-38

35 Oes yna rywbeth sy'n gallu'n gwahanu ni oddi wrth gariad y Meseia? Nac oes, dim byd! Dyw poen ddim yn gallu, na dioddefaint, cael ein herlid, newyn na noethni, peryglon, na hyd yn oed cael ein lladd! 36 Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud:

“O'th achos di dŷn ni'n wynebu marwolaeth drwy'r amser;

Dŷn ni fel defaid ar eu ffordd i'r lladd-dy.”

37 Ond dŷn ni'n concro'r cwbl i gyd, a mwy, am fod y Meseia wedi'n caru ni. 38 Dw i'n hollol sicr fod dim byd yn gallu'n gwahanu ni oddi wrth ei gariad e. Dyw marwolaeth ddim yn gallu, na'r un profiad gawn ni mewn bywyd chwaith.

Os yw tîm pêl-droed cyffredin yn curo un mawr bydd y rheolwr neu’r chwaraewyr yn cael eu holi’n aml, ‘Sut curoch chi dîm â chymaint o sêr gyda nhw?’ A’r ateb bron bob tro fydd hwn: ‘Wel, mae ysbryd ein tîm ni’n arbennig iawn. Mae’n rhoi cymeriad cryf i ni.’

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwnaeth seicolegwyr America lawer o waith i ddarganfod pa ffactorau oedd yn helpu eu milwyr i ddod trwy frwydrau a phrofiadau ofnadwy a brawychus. Ai eu cariad at America? Na. Ai meddwl am eu teuluoedd gartre? Na. Ai casineb at y gelyn? Na. Y ffactor pwysica oedd yr ysbryd a’r cyfeillgarwch rhwng y milwr unigol a’i ‘buddies.’ Doedd neb eisiau siomi ei fêts a’u gadael mewn cawl.

Mae aelodau eglwys yn debyg iawn i dîm neu griw o ffrindiau ar faes y gad. Mae’r ysbryd rhyngddyn nhw yn eu cynnal pan fyddan nhw’n profi tristwch neu gyfyngder o ryw fath. Ond fel Cristnogion, mae mwy na hynny gyda ni hyd yn oed. Mae gyda ni gariad Iesu a Duw a’r sicrwydd bod y cariad hwnnw byth yn mynd i’n siomi ni.

Bydd ein cariad Cristnogol dwfn ein hunain hefyd yn ein clymu ni’n dynn wrth ein gilydd. Fel mae Paul yn ysgrifennu, does dim byd yn gallu ein gwahanu ni oddi wrth ein gilydd oherwydd y cariad hwn: ‘ .. Dyw poen ddim yn gallu, na dioddefaint, cael ein herlid, newyn na noethni, peryglon, na hyd yn oed cael ein lladd!’

Mae cyfnod Covid-19 yn ein rhoi ni i gyd ar brawf. Rhaid i ni wynebu unigrwydd, caethiwed yn y tŷ, gweld eisiau teulu a ffrindiau, ac efalle bydd gofyn i ni brofi salwch tost neu’n waeth, neu golli anwyliaid.

Ry’n ni’n gwerthfawrogi sgiliau a dewrder ein gweithwyr iechyd a gofal i gyd. Er hynny, gallwn deimlo amheuaeth ac ofn wrth glywed y newyddion dychrynllyd bob nos.

Os os daliwn ein cred yn Iesu, fydd dim byd yn gallu siglo ein cariad at ein gilydd. Bydd hynny’n ein cario trwy’r ofnau a’r cyfyngder presennol i gyd.

Gweddïwn

Diolchwn i ti, O Dduw, am dy gariad diderfyn sydd o’n hamgylch ni bob amser. Diolchwn am y cariad ddangosodd Iesu at ei ddisgyblion a’r esiampl roddodd e i ni am sut i garu’n gilydd.

ROBAT POWELL

Oedfa Bum-munud Sul y Pasg, Ebrill 12, 2020 - gan Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant

Y Pasg yw uchafbwynt bywyd a gweinidogaeth Iesu. Dylai fod yn uchafbwynt profiad ysbrydol y Cristion hefyd.

Dyma ddisgrifiad dramatig Ioan o fore’r Atgyfodiad.
Ioan 20:10-16: .. 10 Aeth y disgyblion yn ôl adre, 11 ond safodd Mair (Magdalen) wrth ymyl y bedd yn crio. Plygodd i lawr i edrych i mewn i'r bedd 12 a gweld dau angel mewn
dillad gwyn yn eistedd lle roedd corff Iesu wedi cael ei roi i orwedd – un wrth y pen a'r llall wrth y traed.
13 Dyma nhw'n gofyn i Mair, “Wraig annwyl, pam wyt ti'n crio?”
“Maen nhw wedi cymryd fy Arglwydd i ffwrdd,” atebodd, “a dw i ddim yn gwybod ble maen nhw wedi mynd ag e”14 Dyna pryd y trodd hi rownd a gweld rhywun yn sefyll yno.
Iesu oedd yno, ond doedd hi ddim yn sylweddoli mai Iesu oedd e.15 “Wraig annwyl,” meddai Iesu wrthi, “pam wyt ti'n crio? Am bwy rwyt ti'n chwilio?”
Roedd hi'n meddwl mai'r garddwr oedd e, a dwedodd, “Syr, os mai ti sydd wedi'i symud, dywed lle rwyt ti wedi'i roi e, a bydda i'n mynd i'w nôl e.”
16 Yna dyma Iesu'n dweud, “Mair.” Trodd hi ato, ac meddai yn Hebraeg, “Rabbwni!” (sy'n golygu ‛Athro‛) ...

Golygfa gyffrous iawn. Ond mae Mair yn camddeall beth sywedi digwydd. Hi yw’r person cynta i weld Iesu wedi’i atgyfodi, ond mae hi’n meddwl taw’r garddwr sy yno.

Ddylen ni ddim bod yn galed ar Mair. Iesu oedd y person ola oedd i’w ddisgwyl yn sefyll yno. Methu ei adnabod mae hi.

Ac mae cymaint ohonon ni, cynifer o bobol y byd, yn methu adnabod Iesu hyd heddiw. Yn methu deall arwyddocâd Iesu. Yn
methu deall beth sy ganddo i’w gynnig i ni. Neu heb glywed amdano, hyd yn oed.

Mae meddwl Mair Magdalen yn dal i fod yng nghanol Gwener y Groglith. Yng nghanol colled ac ing y groes, yng nghanol y tywyllwch a ddisgynnodd dros y byd bryd hynny.

Rydyn ni hefyd yn sownd yn nydd Gwener y Groglith. Ein croes ni ar hyn y bryd yw Covid-19. Daeth y coronafeirws â dioddef a marwolaeth i’r byd hefyd.

Mae Mair yn rhy syn i adnabod Iesu wrth ei bryd a’i wedd, ond pan mae’n dweud ei henw, mae’n nabod ei lais e. Ydi Mair yn ei weld yn berson o gig a gwaed? Neu’n ei weld rywsut yn ei meddwl hi? Does dim ots. Profiad Mair, a’r holl ddisgyblion wedyn, yw bod Iesu’n fyw, a bod dim angen ofni ei golli. Dim rhaid ofni marwolaeth mwy.

Yng ngoleuni’r Atgyfodiad mae’r ffordd i’r bywyd newydd yn glir. A chyn bo hir cawn ninnau brofi atgyfodiad bywyd eto pan gilia tywyllwch y feirws.

Cawn gerdded ymlaen i fywyd llawn gyda Iesu ac yng nghariad ein gilydd. Amen.

Gweddi
Dyma ddydd yr Atgyfodiad, a thrown atat ti, O Dduw.
Y dydd yr wyt ti’n dangos bod bywyd yn gryfach na marwolaeth; yr wyt ti’n troi ein galar yn ddawns o lawenydd.
Y dydd yr wyt ti’n symud y maen sy’n ein cloi o fewn tywyllwch gofid ac yn gadael y goleuni i mewn.
Y dydd yr wyt ti’n codi ein beichiau o’n hysgwyddau a’n gollwng yn rhydd i fyw.
Helpa ni, felly, O Dduw, i fyw bywyd llawn yn ôl siars Iesu – yn ffyddlon i ti, yn caru eraill, ac yn gwneud daioni i bawb.
Am ddydd yr Atgyfodiad, o Dduw, fe rown ein diolch i ti. Amen.

Latest comments

13.01 | 16:51

Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfawrogi'n fawr eich sgwrs ar hanes Undodwyr yr ardal, gyda'u cyfraniad i ennill hawliau pleidleisio.

...
08.01 | 15:43

Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!

...
03.01 | 23:14

Diolch i bawb,a ddaeth i ddarllen y Testament Newydd heddiw yg Nghapel y Nant.Dechrau da i 2020.

...
07.12 | 16:56

Diolch yn fawr am eich ymateb, Geraint. Rydym yn sicrhau presenoldeb i'r eglwys ar Facebook hefyd, erbyn hyn. Pob dymuniad da, Hywel D ar ran cyfeillion CyN.

...