OEDFAON PUM-MUNUD CYFNOD COVID 19

Yn ei golofn 'Y Gair Ola' ...' yn rhifyn Ebrill Bwrlwm, cylchgrawn misol Capel y Nant, mae Arweinydd yr Eglwys, Robat Powell, yn troi sylw at sut yr atebwn fel Cristnogion i'r haint faleisus Covid-19 sy'n achosi cymaint o dristwch i bobl ledled y Ddaear ...

 

Mae’r coronafirws wedi creu argyfwng. Yr argyfwng gwaetha i’r byd ers yr Ail Ryfel Byd.

 

Mae’n rhaid aros gartre hyd y gallwn. Oherwydd aiff yr argyfwng yn llawer gwaeth cyn iddo ddod yn well. Mae angen pwyll. Mae angen amynedd hefyd.

 

Aberth bach yw peidio cwrdd â’ch ffrindie am goffi, peidio pico mas i’r siop bob yn ail ddydd, os bydd hynny’n eich cadw chi a’ch ffrindie’n fyw. Bydd digon o amser i fwynhau’r dishgled o goffi ’na wedyn!

 

Yn rhyfedd, mae rhai wedi dewis byw ar wahân i bawb arall drwy’r oesoedd. Roedd rhai o’r Cristnogion cyntaf ymhlith y rhain.

 

Yr un cyntaf oedd Sant Paul y Meudwy. Ganwyd Paul - nid yr Apostol - yn yr Aifft yn 228.

 

Pan ddechreuodd yr Ymerawdwr Rhufeinig Decius erlid Cristnogion, dyma Paul yn ffoi i’r anialwch. Wrtho’i hun, heblaw am weddïo ar Dduw, arhosodd Paul yno am 60 o flynyddoedd! Yn ôl yr hanes, bu cigfran yn cario bwyd iddo bob dydd.

 

Meudwy arall oedd y Santes Fair o’r Aifft. Ganwyd hon yn 344 yn Alexandria, lle bu’n gweithio fel putain.

 

Ond un flwyddyn teithiodd i Balesteina lle gwelodd eicon o’r Forwyn Fair mewn eglwys. Teimlodd mor flin am ei bywyd drwg fel y penderfynodd hi ffoi dros Afon Iorddonen i’r diffeithwch. Ac yno bu hithau byw am 40 o flynyddoedd wrthi’i hun gyda Duw.

 

Er mor rhyfeddol yw’r hanesion hyn, rwy’n methu gweld fawr ddim Cristnogol yn hanes y meudwyaid.

 

Gwerth mawr Cristnogaeth i mi yw ei bod yn grefydd gymdeithasol. Do, fe aeth Iesu i’r anialwch am 40 diwrnod. Roedd arno angen myfyrio cyn dechrau ar ei waith.

 

Ond dod nôl i ganol pobol wnaeth Iesu. Cymysgu â nhw. Dangos y ffordd iddyn nhw garu a chreu gwell byd.

 

Rydyn ni yn yr anialwch y dyddiau hyn, anialwch peryglus iawn. Ond does dim rhaid i ni aros yno ar ein pennau ein hunain. Gallwn estyn ein dwylo i rywun bob dydd.

 

Trwy’r ffôn, trwy Skype, hyd yn oed trwy hala cardiau a llythyrau fel ers lawer dydd! Bydd ein ffrindiau wrth eu bodd i glywed oddi wrthon ni.

 

Gwnewch yn siŵr bod neb ar ei ben ei hun. Bod neb yn unig. A down trwy’r argyfwng yn ddiogel.

Daw dydd Gŵyl Dewi â neges bwysig bob blwyddyn: rhaid i ni gofio a chynnal ein traddodiadau Cymreig.

 

  Rydyn ni’n gwybod beth yw’r rheiny, wrth gwrs. Yr iaith Gymraeg, ein cerddoriaeth, ein llenyddiaeth, ein ffydd Gristnogol. Ein holl ddiwylliant.

 

  Ond mae traddodiad arall wedi helpu ein gwneud ni’n genedl ar hyd y canrifoedd hefyd: gweld gwerth mewn cymuned.

 

  Gwnaeth Dewi Sant lawer ar ei ben ei hun, wrth reswm. Bu’n pregethu, yn dysgu pobl am y Ffydd, yn teithio Cymru a’r cyfandir. Ond mae’n bwysig cofio bod Dewi wedi byw am ran helaeth o’i fywyd mewn cymuned. Cymuned o fynachod Glyn Rhosyn. Yn y gymuned hon yn Sir Benfro bu Dewi’n cyd-fyw â’r mynachod eraill.

 

  Buon nhw’n cydweithio, yn cydaredig y tir, yn cydweddïo ac yn cydaddoli. Roedd pob un, yn cynnwys Dewi, yn cael ac yn rhoi cefnogaeth i’r lleill.

 

  Mae byw mewn cymuned a chydweithio wedi helpu cynnal y Cymry erioed. Hyd heddiw, pan fydd teulu’n colli un annwyl bydd cymdogion a ffrindiau yn tyrru yno i’w cysuro a’u helpu’n ymarferol.

 

  Bu’r closio yma’n werthfawr iawn mewn argyfwng, fel amser damwain mewn pwll glo neu waith metel, neu yn amser streic hir.

 

  Yn ystod mis Chwefror, gwelwyd y closio cymunedol unwaith eto. A’r glaw trwm a’r llifogydd wedi creu hafog a dinistrio cartrefi a busnesau, dyma gymdogion mwy ffodus yn rhoi o’u hamser a’u hegni i glirio’r difrod.

 

  Mae pobol gyffredin wedi cychwyn cronfeydd eisoes mewn sawl ardal yn y De i gynorthwyo’r rhai a gollodd gymaint. Yn sicr, mae byw mewn cymuned agos yn gwneud rhywun yn llai hunanol ac yn fwy ystyriol o anghenion eraill.

 

  Ar ddydd Sul, Mawrth 29, cawn gyfle i gryfhau ein cymuned yng Nghapel y Nant. Byddwn yn cynnal Cwrdd Eglwys i wneud pethau o bwys: ethol neu ailethol swyddogion yr eglwys fel y gwnawn bob pedair blynedd, a hefyd i drafod rhai syniadau newydd i fywiogi bywyd yr eglwys.

 

  Cofiwch y dyddiad! Mae angen i chi ddod, ac mae angen i chi ddweud eich barn yn groyw am beth hoffech chi weld yn digwydd yng Nghapel y Nant. Eich eglwys chi ydyn ni. Eich cymuned ni.

ROBAT POWELL

(o Bwrlwm, rhifyn Mawrth 2020)

Cymerwyd sylwadau Robat, Arweinydd Capel y Nant, o daflen fisol Bwrlwm, rhifyn Chwefror 2020 ...

 

Roedd mis Ionawr eleni yn amser i wneud adduned am y flwyddyn. Ond yn ôl ymateb ein cynulleidfa [un bore Sul diweddar, doedd neb o'n haelodau wedi gwneud] yr un addewid o gwbl!


Fodd bynnag, mae dechrau blwyddyn yn adeg boblogaidd i arweinwyr wneud rhyw ddatganiad neu apél. Arweinwyr gwlad neu fudiad o ryw fath.

 

Mae Ysgrifennydd Undeb yr Annibynwyr, y Parch. Dyfrig Rees, wedi rhoi her i bob eglwys ar gyfer 2020: ‘Ewch i arloesi, neu byddwch yn marw!’


Ar dudalennau’r Tyst, roedd y Parch. Iwan Llewelyn o Wynedd yn cefnogi her Dyfrig. Mae e’n poeni’n fawr am eglwysi yn ei ardal. Mae nifer y ffyddloniaid yn disgyn. Ond gwaeth na hynny, mae sawl eglwys yno ond yn cyfarfod o dro i dro oherwydd diffyg pregethwyr.

 

A dyma neges Iwan i bob eglwys: ‘Er mwyn aros yn fyw, gwnewch un peth newydd eleni!’


Efalle ein bod ni yng Nghapel y Nant yn ffodus. Dy’n ni ddim yn gweld yr argyfwng sy’n wynebu sawl cylch arall. Ry’n ni wedi gwneud amryw o bethau ‘newydd’ yn y gorffennol.

 

Ond mae galwad Iwan Llewelyn yn bwysig i ni hefyd. I ddangos ein bod yn fyw ac yn fywiog, beth am wneud rhywbeth newydd yn 2020?


Wrth gwrs, digwyddodd un peth newydd ym mis Ionawr – y Darllen Noddedig, a diolch i bawb a gyfrannodd!

Ond mae 11 mis ar ôl. Mae ein haelodau’n gwneud digon o bethau diddorol fel unigolion. Ond mae’n werth gwneud rhywbeth fel eglwys hefyd. Gyda’n gilydd.

 

  • Ry’n ni’n mynd ar Bererindod ers blynyddoedd.
  • Ryn ni wedi cyflwyno pasiant hanesyddol.
  • Wedi cynnal cyngerdd gyda’n doniau ein hunain.
  • Yn gwneud Bwrlwm bob mis.
  • Daeth rhai aelodau ar daith gerdded yn 2018,
  • ac mae Dewi (Lewis) yn barod i arwain ambell daith natur eleni.

Ond dyma alwad i fentro ar rywbeth gwahanol eto.

 

Tybed beth? Oes syniad gyda chi? Rhyw fenter yn y gymuned? Menter theatrig neu gerddorol? Yn yr awyr iach? Taith i ryw fan arbennig? Rhywbeth ar y cyd â mudiad neu eglwys arall?

 

Mae gyda ni dudalen lân, digon o egni a thipyn o arian, os oes angen, tu ôl i ni. A does dim yn ein rhwystro rhag arloesi gyda mwy nag un peth newydd, chwaith! Dyma’ch cyfle! Ry’n ni’n gwrando.

 

(COFIWCH DDOD I DRAFOD 'ARLOESI' YN NEUADD Y NANT AR NOS FAWR, CHWEFROR 4 AM 7 O'R GLOCH.)

Neges Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell, o rhifyn dwbl Rhagfyr 2019 a Ionawr 202 ein cylchgrawn misol, Bwrlwm. Mae Robat yn esbonio ei fod e - a llawer ohonom! - wedi drysu gyda'r holl addewidion yn ystod ymgyrchoedd y pleidiau sy'n arwain at Etholiad Cyffredinol Rhagfyr 12:

Alla i ddim cofio mis Rhagfyr tebyg. Y Nadolig ac Etholiad Cyffredinol yr un mis!

Rwy’n drysu eisoes.

Nawr ’te, mae’r Etholiad ar Ragfyr 25 a’r Nadolig ar Ragfyr 12. Dyna’r drefn eleni, ynte?

Mae Boris, Jeremy a Jo yn teithio’r wlad ar eu camelod. A Liz yn gwarchod ei phraidd ar fryniau Sir Feirionnydd. Ydyn, mae’r ddau beth wedi toddi’n un.

Ac mae Sion Corn pob plaid yn dod a sachaid o addewidion braf ac anhygoel. Bydd Boris yn gwario £40 biliwn ar y peth a’r peth. Ond mae Jeremy yn addo gwario £50 biliwn.

Fel gem o poker. ‘£40 biliwn ar addysg, Boris? Raise you another £40 biliwn!’ Ie, gwlad ffantasi yw’r Nadolig. A phwy fydd yn talu am y gwario Nadoligaidd? Ni, y trethdalwyr?

Wrth gwrs, na! Byddwn yn benthyg y biliynau, medd y Toriaid. Byddwn ni’n benthyg mwy, medd Llafur.

Rhyfedd o fyd. Ers 2008 bu’r Llywodraeth yn dweud wrthon ni fod yn rhaid i’r wlad wario llai. Llawer llai. ‘Ryn ni’n methu benthyg arian,’ medden nhw. ‘Mae benthyg yn mynd a ni i ddyled.’

Ond yn sydyn, mae benthyg arian yn dda! Mynd i I ddyled? Gorau po fwya! Mae dwy addewid arall gan Boris.

Bydd Brecsit yn ei sach erbyn diwedd Ionawr. Ac erbyn diwedd 2020 bydd e wedi setlo’r cytundeb masnach newydd gyda’r Undeb Ewropeaidd. O fewn blwyddyn!

Yn 2014 arwyddodd yr Undeb Ewropeaidd gytundeb masnach mawr gyda Canada. Ond cymerodd hwnnw BUM mlynedd i’w setlo. A bydd cytundeb Prydain-UE yn llawer mwy cymhleth. Byd ffantasi, yn wir.

Yng nghanol yr hud a lledrith yma mae dau gwestiwn yn codi: Pwy gallwn ni gredu? Ble mae’r Gwirionedd? Yn sicr, nid yn yr Etholiad hwn.

Ond cawn weld y Gwirionedd y mis Rhagfyr yma. Mewn stabal ddi-nod, mewn tre fach dlawd yn Jwdea. Yng ngenedigaeth y plentyn Iesu.

Dim ond tair addewid sy gan hwn. Daw a chariad i drechu pob casineb. Y gobaith sy’n trechu pob anobaith. Y cyfiawnder fydd yn sail i Deyrnas Duw.

Dyna’r unig Wirionedd y gallwn ddibynnu arno. Gwirionedd Bethlehem. A chofiwch – ar Ragfyr 25 bydd y Nadolig y mis yma, fel erioed!

Nadolig Llawen i chi gyd, Robat

Latest comments

13.01 | 16:51

Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfawrogi'n fawr eich sgwrs ar hanes Undodwyr yr ardal, gyda'u cyfraniad i ennill hawliau pleidleisio.

...
08.01 | 15:43

Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!

...
03.01 | 23:14

Diolch i bawb,a ddaeth i ddarllen y Testament Newydd heddiw yg Nghapel y Nant.Dechrau da i 2020.

...
07.12 | 16:56

Diolch yn fawr am eich ymateb, Geraint. Rydym yn sicrhau presenoldeb i'r eglwys ar Facebook hefyd, erbyn hyn. Pob dymuniad da, Hywel D ar ran cyfeillion CyN.

...