 |
 |
|
 |
 |
ADDASU I GYFYNGIADAU COVID-19
PENDERFYNNU PEIDIO AG AIL-DDECHRAU CWRDD YN Y NEUADD
Yn eu cyfarfod ar nos Fawrth, Rhagfyr 1, penderfynnodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith na ddylid mynd ati i drefnu cynnal oedfa yn y Neuadd ar ddydd Sul, Rhagfyr 13. Gwnaed hyn yn wyneb rhybuddion am ymlediad newydd Covid-19 yng Nghymru a'n hardal leol. Nodwyd
ansicrwydd ymhlith aelodau wrth ymateb i holiadur ar y pwnc. Bwriedir ail-asesu'r doethineb o ddechrau ail-gynnal oedfaon yn y Neuadd mewn cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor ar Ionawr 12.
Gyda'r capel a'r neuadd yn wag fel rhan o'n hymdrechion i ffwyno Covid-19, mae cryn nifer o aelodau Capel y Nant yn ei chael hi'n fendithiol i gael cwrdd ar eu cyfrifiaduron a'u ffonau trwy Zoom. Dyma sy'n digwydd gydag ambell i oedfa bore Sul, gyda sesiynau myfyrio, darlleniadau, gweddiau 'Cannwyll y Nant' a cherddoriaeth bob nos Fawrth, a chyfarfodydd o'r Pwyllgor Gwaith. Mae'r ebost yn gyswllt chwim, dosbarthu rhai negeseuon ar bapur at y drws, a ffonio aelodau, hefyd.
Olrhain ymateb Capel y Nant i haint Covid-19
Dyma ymgais at olrhain amrywiol ymdrechion Capel y Nant ers mis Mawrth 2020 i barhau'n eglwys Gristnogol fywiog tra'n gwarchod ein cyd-aelodau trwy'r holl gyfyngiadau i ffrwyno lledaeniad
Covid-19. Dechreuwn gyda'r datblygiadau mwya' diweddar ...
TACHWEDD 25, 2020 - NEGES FRYS: YSTYRIED CYNNAL OEDFA YN NEUADD CAPEL Y NANT
Mynd yn ôl i Gapel y Nant Hoffai’r Pwyllgor Gwaith holi eich barn unwaith yn rhagor am ddychwelyd i Gapel y Nant. Rydyn ni'n
fodlon cynnal oedfa ar 13 Rhagfyr oherwydd bod nifer o aelodau yn teimlo'n unig a heb gael unrhyw gysylltiad â’r capel ers mis Mawrth, ar wahan i’r oedfaon ar bapur. Gan fod sefyllfa'r Covid yn datblygu’n gyson a phobl
yn newid eu barn, dyma nodyn arall. Os ydych yn bwriadu dod yn ôl ar fore Sul 13 Rhagfyr i addoli yn y Neuadd, rhaid cadw at yr amodau canlynol: - diheintio dwylo ar y ffordd i mewn
- gwisgo mwgwd drwy gydol y
gwasanaeth
- cadw pellter o ddau fetr o leiaf rhyngoch chi ag unrhywun o aelwyd arall
- dim canu yn ystod y gwasanaeth
- mynd adre ar ddiwedd y gwasanaeth heb oedi i sgwrsio a chymdeithasu
- rhoi eich manylion ar gyfer olrhain (track
and trace)
- bydd ffenestri’r Neuadd wedi bod ar agor am awr o leiaf cyn y gwasanaeth ac yn cael eu cadw ar agor drwy’r oedfa er mwyn sicrhau awyru angenrheidiol.
O ran lle yn y Neuadd bydd blaenoriaeth
yn cael ei roi i aelodau nad ydynt wedi gallu ymuno â ni mewn oedfaon Zoom hyd yma. Bydd Robat yn arwain oedfa Zoom hefyd i aelodau ar y Sul hwn, naill ai yn y Neuadd neu o’i gartref. Gofynnwn
yn garedig i chi roi gwybod i Robat erbyn bore Mawrth, 1 Rhagfyr, drwy ebost neu ffôn a fyddwch yn dymuno dod i’r Neuadd ar Sul, 13 Rhagfyr.
IE, 'YN OL EIN HARFER' - ENGHRAIFFT O SUT RYDYM WEDI NEWID Y FORDD RYDYM YN ADDOLI
TACHWEDD 2020: CROESO I OEDFA ZOOM BORE SUL
Yn ô l ein harfer, down ynghyd ar ein cyfrifiaduron, cluniaduron, tabledi a’n ffonau symudol i
gynnal Oedfa’r Bore am 10 o’r gloch yfory – sef Dydd Sul, Tachwedd 8. Bydd yr oedfa yng ngofal y Parch Ddr N ö el Davies. Edrychwn at gael ei gwmni a’i arweiniad wrth iddo ymuno â ni am y tro cyntaf yn ein byd newydd, rhithiol.
Croeso i bawb, gan gynnwys ffrindiau o’r tu hwnt i ‘aelodaeth’ Capel y Nant. Cysylltwch ag Annette neu Fiona os bydd angen help gyda’r Zoom.
Oedfaon a Sesiynau Zoom a Digidol ac Ebost yn parhau
HYDREF 2020: Ail-gydio gyda'n trefn newydd - gan helpu pawb i ymuno gyda'r technegau newydd
...
Bydd Oedfa Gymundeb Capel y Nant yn cael ei chynnal ar Zoom fore Sul nesaf, Hydref 4, dan ofal y Parch Dewi Myrddin Hughes, am 10 o'r gloch.
Bydd Oedfa Ddigidol Undeb yr Annibynwyr yn dilyn ar y We (Facebook / You Tube) am 10.30, ond gellir gwrando arni eto yn hwyrach yn y dydd os dyna fydd yn haws. O ran Oedfaon Digidol yr Undeb, bydd un o’n plith, sef Fiona Gannon, yn arwain Oedfa’r Sul nesaf, Hydref 4. A'r Sul canlynol, Hydref 11, Dewi fydd yn arwain. Ffilmiwyd yr oedfaon yng Nghlydach.
Cofiwch, hefyd, bod sesiwn o ‘Cannwyll y Nant’ – sef myfyrdodau, gweddiau a darlleniadau - yn cael ei chynnal ar Zoom bob nos Fawrth am 6.30 o dan arweiniad Fiona ac
eraill. Mae'n dymor Diolchgarwch a pharatoir oedfa i'w danfon at aelodau ar ebost gan aelodau’r Chwaeroliaeth/Grwp Bugeilio
BWRW 'MLAEN WRTH ADDASU I'R SEFYLLFA NEWIDIOL ...
MEDI 2020: NEGES GAN ROBAT POWELL, ARWEINYDD CAPEL Y NANT
Byddwn yn cynnal Oedfa Hanner Awr ar Zoom i aelodau Capel
y Nant fore Sul, sef yfory, Medi 27, am 10.00. Bydd Annette yn
anfon gwahoddiadau at aelodau ar ebost er mwyn i chi gael ymuno a'r oedfa. Y
ddau emyn yn yr oedfa fydd rhifau 222 ac 831 yn 'Caneuon Ffydd' os hoffech godi eich llais gyda ni yn eich cartref.
Cofiwch yr amser - 10.00, am fod Oedfa Ddigidol ar wefan yr Annibynwyr am 10.30.
Gobeithio caf eich gweld fore Sul!
Pob bendith, Robat
SIOM WRTH I COVID-19 AIL GYDIO - ATAL CWRDD
MEDI 2020: Gyda siom, cyhoeddwn
na fyddwn yn cynnal Oedfa Ail-agor Capel y Nant wedi'r cyfan fore Sul yma, Medi 13. Mewn Pwyllgor Gwaith brys ar Zoom, penderfynwyd
na fyddai'n ddoeth i'r eglwys ddod a chymaint o'n haelodau ynghyd i'r Neuadd yn wyneb rhybuddion Prif Weinidog Mark Drakeford am fygythiad cynyddol haint Covid-19. Ein teimlad yw y dylai Capel y Nant ddilyn y gwaharddiadau newydd fydd yn effeithio ar ein cymunedau fel rhan o ymdrech Llywodraeth Cymru i ffrwyno Covid.
PARATOI'N FANWL AT AIL DDECHRAU CWRDD I ADDOLI
MEDI 2020: Dyma fwy o fanylion wrth i ni yng Nghapel y Nant baratoi i gynnal ein gwasanaeth cyntaf ers mis Mawrth - hyn yn y
Neuadd (am resymau eglurwyd eisoes yn ein post diwethaf) ar fore Sul, Medi 13, am 10.30, a phob bore Sul ar ôl hynny. Sylwer ...
Bydd yr oedfa rywfaint yn wahanol. Fydd dim hawl i ni ganu na chydadrodd gweddi. Bydd yn rhaid cadw pellter o ddau fetr rhwng pobol,
heblaw aelodau o’r un teulu.
Bydd yn rhaid i bawb ddod i mewn i’r Neuadd ac ymadael un ar y tro. Yn anffodus, fydd hi ddim yn bosib aros o gwmpas i
gael sgwrs fel arfer wedyn! Bydd y gwasanaeth yn fyrrach nag arfer, ond fe fydd cerddoriaeth, darllen, gweddi a phregeth, ac rydym yn siŵr o brofi bendith
trwy addoli fel cynulleidfa eto. Mae’n bwysig i ni gael gwybod faint ohonoch chi sy’n awyddus i ddod nôl i addoli rywbryd yn ystod y misoedd nesaf. Bydd hyn yn help i ni baratoi’r
Neuadd.
Gan hynny, os ydych yn gobeithio dod nôl i’r
oedfaon, a wnewch chi roi gwybod trwy gysylltu â Gareth Rees (ar ebost garhuwrees@gmail.com neu wrth ffonio 844929) neu Annette Hughes (ar ebost dewiannette@gmail.com neu ar ffon rhif 843440). Dywedwch faint o’ch teulu sy’n debyg o ddod rywbryd hefyd. Ond cofiwch nad oes dim hawl rhannu car gyda neb tu allan i’ch teulu ar hyn o bryd! Diolch yn fawr i chi am eich cydweithrediad.
CEISIO AIL DDECHRAU ADDOLI GYDA'N GILYDD
MEDI 2020: DOWN YNGHYD ETO I ADDOLI - GYDA GOFAL! Rhowch y gair ar led - Bydd Capel y Nant yn cynnal
ein hoedfa gyntaf ers dechrau cyfyngiadau haint Covid-19 am 10.30 ar fore Sul, Medi 13. Cynhelir yr oedfa yn ein Neuadd fodern a chlyd ac nid yn y capel, gan na fyddai caniatad i ni ddefnyddio’r system chwythu-awyr-cynnes sydd yn y capel.
Bydd swyddogion yr eglwys yn cysylltu’n fuan gydag aelodau i esbonio’r holl baratoadau gofalus a wneir gan ein Pwyllgor Gwaith i gydymffurfio’n drylwyr â rheoliadau Llywodraeth Cymru er ffrwyno Covid-19. Felly – bore Sul,
Medi 13 amdani!
MENTRAU NEWYDD YN YSTOD CYFNOD COVID-19
MAI 2020 Bob
wythnos ers dechrau Cyfyngiad Covid-19, rydym wedi bod yn danfon ysgrif Oedfa Sul Bum-munud at yr aelodau sydd ag e-bost. Rydyn wedi gallu cysylltu gyda llawer mwy o aelodau yn ddiweddar dros y we - ond diolch i nifer o wirfoddolwyr brwd am ddosbarthu’r Oedfa
Bum-munud ar bapur i bobl sydd heb e-bost, ac wythnosolyn Y Tyst yn ogystal. Rydym, hefyd, yn wedi bod yn cynnal nifer o weithgareddau
ar Zoom - gan gynnwys Oedfaon Cymun byr ar y Sul (cyn Oedfa Ddigidol Undeb yr Annibynwyr sydd ar You Tube a Facebook), cyrddau bach Gweddi a Darlleniadau yn ystod yr wythnos, dan y teitl
'Cannwyll y Nant', sesiynau Hwyl a Joio i'r plant, cyfarfod o'n Pwyllgor Gwaith a nifer o Gwisiau.
COFIWCH: Os am ymuno ar Zoom,
rhaid i chi lawrlwytho Zoom i'ch dyfais - iPad / cyfrifiadur. Rydych yn aros am e-bost gan drefnydd y digwyddiad ac yna'n cysylltu trwy'r ddolen / linc briodol fydd gyda'r neges.
DOSBARTHU OEDFAON BUM-MUNUD
EBRILL 2020: Dechrau dosbarthu Oedfa Bum-Munud bob Sul gan Arweinydd yr Eglwys, Robat Powell - ar Ebost a thrwy dosbarthu i gartrefi aelodau
(gweler rhai oedfaon eraill trwy fynd at 'Blog Robat Powell') Rydyn ni i gyd yn wynebu talcen caled ar hyd o bryd. Mae’r coronafirws yn rhemp yn Ewrop, yn lladd cannoedd bob dydd. Rhaid
i bawb aros gartre. Mae busnesau o bob math yn mynd i’r wal. Rydyn ni’n methu ymweld â ’n teuluoedd a’n ffrindiau. Gall hyn bara am amser maith. Mae stori Nehemeia yn yr Hen
Destament hefyd yn hanes am ddyn yn wynebu talcen caled iawn. Iddew oedd yn gweini ar Artaxerxes, brenin Persia, oedd Nehemeia. Tua’r flwyddyn 445 CC cafodd e ganiat â d gan Artaxerxes i fynd i Jerwsalem i wireddu ei freuddwyd – ailgodi muriau
Jerwsalem a’r Deml. Cafodd y rhain eu dinistrio gan fyddin Babilon pan aethon nhw â ’r Iddewon i ffwrdd i’r alltudiaeth ym Mabilon rhwng 587-580 CC. Nehemeia ei hun sy’n adrodd yr hanes.
Dyma fe’n annerch yr Iddewon oedd wedi dychwelyd i ardal Jwdea o Fabilon o’i flaen: Nehemeia 2:17-18 - Yna dwedais wrthyn nhw, “Dych chi'n gwybod mor anodd yw pethau yma:
mae Jerwsalem yn adfeilion a'i gatiau wedi'u llosgi. Dewch! Gadewch i ni ailadeiladu wal Jerwsalem, a dod â'r sefyllfa warthus yma i ben.” Dwedais yr hanes wrthyn nhw, fel roedd Duw wedi bod gyda mi, a beth roedd y brenin wedi'i ddweud wrtho
i. A dyma nhw'n ymateb, “Gadewch i ni ddechrau adeiladu ar unwaith!” A dyma nhw'n annog ei gilydd i fynd ati i wneud y gwaith pwysig yma ... Ond mae problem gan Nehemeia. Sut mae cael yr Iddewon
hyn i weithio a helpu ei gilydd? Codi waliau mawr y ddinas? Mae’r dasg i’w gweld yn amhosib. Serch hynny, mae e’n taro ar chwip o syniad. Mae e’n gofyn i bob teulu godi’r rhan o’r
mur sydd ar bwys eu t ŷ nhw. Wedyn bydd pob un yn gwneud gwaith da. Fydd neb am fethu o flaen ei gymdogion. Ac o fewn 52 diwrnod, trwy rannu’r gwaith, maen nhw’n gorffen codi waliau Jerwsalem eto. A
dyna’r dasg i ni. Mae muriau Capel y Nant ar lawr, fel petai. Rydyn ni’n methu cyfarfod. Fydd neb yn addoli yno am wythnosau lawer. Ond gallwn ailgodi’r waliau a’u cynnal yn eu lle.
Trwy addoli gyda’n gilydd gartre, trwy ebost, ar y we. Gallwn ffonio ein gilydd, cwrdd â ’n gilydd trwy fideo ar Skype neu Zoom. Gall pob un a phob teulu wneud eu rhan, fel pobol Nehemeia. A bydd Capel y Nant a chymdeithas y capel yn byw
trwy’r hunllef yma i gyd. Gwedd ï wn
Arglwydd ein Duw, helpa ni i aros gyda’n gilydd trwy’r cyfnod anodd hwn. Helpa ni i ganfod ein gilydd yn y tywyllwch, i weld ein gilydd yn y dieithrwch a chadw ein gilydd
yn ddiogel. Helpa ni i gyfarfod â ’n gilydd trwyddot ti, ac ynot ti. A gyda’n gilydd gallwn dorri’r talcen caled i lawr. Er
mwyn iesu, Amen.
PENDERFYNNU ATAL OEDFAON
MAWRTH 14, 2020 CANSLO POB OEDFA YN Y CAPEL: NEGES GAN ARWEINYDD YR EGLWYS, ROBAT POWELL Gyfeillion, Yn wyneb perygl y coronafirws sydd yn lledaenu mor gyflym trwy Gymru a'r byd bellach, mae Pwyllgor Capel y Nant wedi cytuno i ganslo pob oedfa yn y capel
nes i'r sefyllfa newid. Mae'n flin calon gennyn ni orfod canslo, ond rhaid i ni ystyried diogelwch yr aelodau, a llawer ohonon ni'n bur oedrannus. Byddaf yn cysylltu â chi eto pan fyddwn yn ailystyried ein penderfyniad. Yn y cyfamser, rwy'n siwr y byddwch chi'n cadw golwg dros eich cymdogion a'ch cyd-aelodau. Diolch
yn fawr, Robat
|
|
 |
|
|
|