MYFYRDODAU MISOL BWRLWM 2011-15

MYFYRDOD TACHWEDD 2015

CALAN GAEAF PWY YW HI? - Y SAINT NEU'R PAGANIAID?

Myfyrdod Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant, o Bwrlwm, pamffled misol yr eglwys, ar gyfer Tachwedd 2015

Daeth Calan Gaeaf eto. Daw’r plant o gwmpas â’u pwmpenni gan wisgo fel ysbrydion. Efalle’n codi ofn, yn anffodus, ar rai ohonon ni.

Serch hynny, Gŵyl Gristnogol swyddogol yw hon i’r Eglwys Gatholig – Gŵyl yr Holl Saint. Mae noson Hydref 31 yn ddechreuad tridie o gofio’r meirwon, y saint a merthyron yr Eglwys, a gweddïo drostyn nhw. Felly, gŵyl pwy yw hi – y paganiaid neu’r Cristnogion?

Yn wreiddiol, mae’n debyg taw gŵyl baganaidd Samhain y Celtiaid oedd hon. Amser dathlu’r cynhaeaf a nodi diwedd yr haf trwy wledda a chynnau coelcerthi. Y pryd hwn âi’r ffin rhwng y byd hwn a byd y meirwon yn denau, a gellid symud o un byd i’r llall. Daliai’r dathlu hwn yn boblogaidd trwy Ewrop wedi dyfodiad Cristnogaeth. Hyd heddiw, cewch weld yr orymdaith Galan Gaeaf fwyaf yn y byd yn Greenwich Village, Efrog Newydd.

Gan hynny, penderfynodd yr Eglwys gymryd yr ŵyl oddi wrth y paganiaid. Dyna wnaeth yr Eglwys gyda’r Nadolig hefyd.

Yn 835 symudodd y Pab Gregory lV Ŵyl yr Holl Saint o fis Mai i Dachwedd 1. Dim ond gwyliau Cristnogol roedd y bobl i fod i’w dathlu o hynny ymlaen!

Erbyn heddiw, byddai’r sinig yn dweud bod y paganiaid wedi cymryd y gwyliau Cristnogol yn ôl oddi wrth yr Eglwys! Amser joio yw’r Nadolig bellach, a noson y mwgwd brawychus yw Gŵyl y Saint! 

Mewn gwirionedd, cododd llawer o arferion ofergoelus o amgylch yr Ŵyl Gatholig hefyd. Y werin yn gosod canhwyllau yn eu tai i ddenu eneidiau’r meirwon yn ôl. Yn credu bod y meirwon yn codi o’u beddau i ddawnsio – y ‘danse macabre’ enwog. Yn Sbaen, yr arfer yw pobi teisennod arbennig – yr ‘huesos de santo’ (esgyrn y saint) - a’u dodi ar ben beddau.

 Dyw’r arferion hyn ddim at ddant yr eglwysi Protestanaidd! Hoffwn feddwl ein bod ni’n rhoi ein pwyslais ar fyw ac ar greu bywyd newydd, ac nid ar y meirwon.

Ond peidiwn â bod yn sych-dduwiol chwaith! Mae clywed am yr hen goelion yn gallu bod yn ddifyr o hyd.

Your headline

MYFYRDOD HYDREF 2015

BYDD MAWR Y RHAI BYCHAIN!

Myfyrdod Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant, o Bwrlwm mis Hydref.

Ydych chi’n dilyn Cwpan Rygbi’r Byd? Os felly, byddwch chi wedi sylwi ar un peth. Mae’r chwaraewyr yn fawr. Yn fwy o seis nag y bu chwaraewyr rygbi erioed o’r blaen! A dyna’r ffordd y byd, meddan nhw.  Rhaid i bopeth fod yn fawr er mwyn llwyddo – cwmnïoedd, gwledydd, clybiau pêl-droed.

Mae bod yn fawr yn poeni Lewis Juliff, crwt 10 oed o Benrhiwceiber. Bachgen byr yw Lewis, ac mae e’n gofidio ei fod yn rhy fach i chwarae rygbi. Felly, dyma ei fam yn anfon at y dewin bach ei hun, Shane Williams, i roi gair i’w mab i godi ei galon!

Dyma’r newydd da i Lewis, a phawb arall. Does dim rhaid i rywbeth fod yn fawr i lwyddo. Yn y Cwpan Byd, mae un gêm wedi gwefreiddio pawb. Tîm Siapan yn curo cewri De Affrica! Mae chwaraewyr Siapan gyda’r rhai lleia yn y byd, ond enillon nhw oherwydd eu sgiliau a’u cyflymdra.  

Clywsom hanes rhyfeddol yn ddiweddar am Teddy Houlston. Ganwyd Teddy yng Nghaerdydd yn 2014, ond bu farw o fewn dwy awr. Ond roedd ei rieni’n fodlon rhoi arennau Teddy i helpu rhywun arall. Cyn hir, roedd organau’r babi wedi achub bywyd oedolyn yn Leeds trwy drawsblaniad arennau.

Plentyn mor fach yn rhoi bywyd i rywun mewn oed – dyna i chi wyrth!

A dyna wers i ni i gyd. Mae’n hawdd meddwl ein bod yn rhy fach, neu’n rhy wan, neu’n rhy dwp, i gyflawni rhywbeth. Ond dyw hynny byth yn wir. Dywedodd Shane Williams wrth y bachgen Lewis taw yr unig beth mawr sydd ei eisie i lwyddo yw calon. Mae calon fawr a  phenderfyniad yn bwysicach na maint.

Peth arall sydd ei angen yw cred neu ffydd. Dynion di-nod oedd disgyblion Iesu, heb addysg nag arian. Pobl fach go iawn. Ond oherwydd eu cred yn Iesu a’u hewyllys cryf llwyddon nhw i barhau gwaith Teyrnas Dduw a lledaenu neges Crist ar draws y byd.

Pa mor gryf yw ein hewyllys i weithio dros Eglwys Crist heddiw? Pa mor fawr yw ein calonnau Cristnogol?

Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain, meddai Waldo.

Pob hwyl, Robat

MYFYRDOD MEDI 2015

MYFYRDOD ROBAT POWELL, ARWEINYDD CAPEL Y NANT, O BWRLWM MIS MEDI

Gobeithio i chi gael seibiant rhywle yn ystod yr haf. Tybed a gawsoch chi gyfle i ddarllen llyfr neu ddau wrth ymlacio? I rai ohonon ni, dyna un o brif bleserau bywyd.

Ond mae llai o bobl yn darllen heddiw nag erioed. Mae digon o lyfrau’n cael eu prynu o hyd. Ond mae’n debyg bod llawer o’r rhain yn gorwedd ar y silff heb eu darllen nes cael eu rhoi i siopau Oxfam neu Tenovus.

Does dim amser i ddarllen bellach, meddan nhw. Mae lluniau’r teledu, y DVD a’r i-pad yn fwy deniadol. Mae hyn yn wir bryder ymysg ein pobl ifainc. Dangosodd arolwg mawr 10 mlynedd yn ôl taw dim ond tua 35% o blant ysgol Prydain oedd yn darllen er mwyn pleser. Ddwy flynedd yn ôl roedd y canran yma wedi cwympo i 25% yn unig.

Un o’r llyfrau nad yw pobl braidd yn ei ddarllen yw’r Beibl. Hyd yn oed Cristnogion. Er hynny, dylai’r Beibl fod yn sylfaen ein cred. Heb hwn ni fyddai dim gwybodaeth gyda ni am Iesu, a fawr o glem am beth yw Duw.

Mae’r Beibl Cymraeg wedi cyfoethogi ein hiaith a’n diwylliant. Bydd pobl yn sôn am berson fel ‘halen y ddaear’ sy’n ‘cerdded yr ail filltir’ heb sylweddoli taw o’r Beibl y mae’r ymadroddion hyn yn dod. Fel ugeiniau o ymadroddion eraill. Ond mae perygl y bydd y cyfoeth hwn yn diflannu o’n diwylliant heb wybodaeth o’r Gair.

Bellach, mae Undeb yr Annibynwyr am newid pethau. Maen nhw’n lansio ymgyrch ‘Darllen y Beibl Byw’ ar gyfer y flwyddyn nesa. Mae hyn yn cyd-daro â chyhoeddi dau lyfr newydd:  ‘Beibl.net’, sef y Beibl sydd ar-lein mewn Cymraeg modern, a ‘Canllaw i’r Beibl’. Beibl yw hwn sy’n cynnwys esboniadau ar bob tudalen.

Bydd yr Undeb yn trefnu digwyddiadau i hybu’r ymgyrch. Yng Ngorllewin Morgannwg bydd y Parch Ddr Noel Davies yn cynnal dosbarthiadau yn ystod y gaeaf ar sut i ddarllen a defnyddio’r Beibl. Yng Nghapel y Nant hefyd byddwn yn rhoi sylw i ddarllen y Gair yn ystod ein hoedfaon.

Mae’r Beibl yn cynnig goleuni ac ysbrydoliaeth i ni. A gall pori ynddo fod yn bleser hefyd.

Hwyl ar y darllen!

Pob hwyl, Robat

MYFYRDOD BWRLWM GORFF / AWST 2015


Myfyrdod gan Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant,  a gyhoeddwyd yn Bwrlwm, misolyn yr eglwys am fisoedd Gorffennaf ac Awst, 2015.

Daw henaint ag un peth poenus gydag e, meddai rhywun. Mae’n rhaid mynd i ormod o angladdau eich ffrindiau. Digon gwir, efalle.

Ond erbyn hyn daw henaint â rhywbeth mwy pleserus hefyd, sef mwy o gyfle i

ddathlu gyda’ch ffrindiau.

Y mis hwn mae dwy o aelodau Capel y Nant yn dathlu eu pen-blwydd yn 90

oed. Llongyfarchiadau i Mrs Gwynneth Harris a Mrs Hettie Williams. Rwy’n teimlo

bod gyda ni achos i ddathlu achlysur bwysig rhywun neu’i gilydd bron bob mis;

daeth pen-blwydd 80 oed yn ddigon cyffredin. Mae rhywun sy’n cyrraedd y 70 yn

llipryn ifanc o hyd.

Dyna’r priodasau wedyn. Pan oeddwn yn blentyn rwy’n cofio pobl briod yn

dweud eu bod yn breuddwydio am gyrraedd y Briodas Ruddem, sef 40 mlynedd,

ryw ddydd. Ffantasi fyddai priodas hwy na hynny. Ond bellach ry’n ni’n llawenhau

am Briodas Aur neu Ddiemwnt rhyw bâr bob yn ail fis.

Diolch i’r gwasanaeth iechyd a’i ofal amdanom am y gwelliannau hyn. Ffactor

arall yw bod cymaint o’r hen swyddi peryglus, afiach, yn y gweithle wedi diflannu.

Ond wrth i ni groesawu’r datblygiad, mae un ffaith yn ein sobri. Mae troseddau

yn erbyn pobl oedrannus ar gynnydd, ac nid yw’r gyfraith yn eu hamddiffyn fel y

dylai. Yn 2013-14 cofnododd yr heddlu yng Nghymru bron 19,000 achos o gamdrin

neu drosedd yn erbyn pobol mewn oed. Ond dim ond 2,561 o bobl gafodd eu

harestio amdanyn nhw. Gwaeth byth, dim ond 194 person a gafwyd yn euog yn y

llys am y troseddau hyn.

Beth yw’r rhesymau? Mae llawer o droseddau’n digwydd o fewn y teulu, a gall

fod yn anodd profi euogrwydd ymysg aelodau teuluol. Nodir achosion eraill mewn

cartrefi gofal lle mae’n anodd profi pwy sy’n gyfrifol.

Ond un awgrym trist yw bod yr heddlu a’r system droseddol ddim yn cymryd

troseddau yn erbyn hen bobol o ddifri. Mae’n ‘bwysicach’ datrys troseddau yn

erbyn pobl ganol oed, neu bobl fwy cyfoethog, medd rhai.

Mae pobl mewn oed wedi rhoi bywyd cyfan o wasanaeth i’w teuluoedd a’u cymunedau. Maen nhw’n haeddu’r gofal gorau y gallwn ei roi iddyn nhw.

POB HWYL - ROBAT

MYFYRDOD BWRLWM MAI 2015

YR ETHOLIAD ... A IESU

Myfyrdod gan Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant,  a gyhoeddwyd yn Bwrlwm, misolyn yr eglwys am fis Mai 2015

‘Petai Iesu’n byw heddi bydde fe’n siŵr o wneud y peth a’r peth ..’

Mor aml ry’n ni’n clywed brawddeg fel honna!

‘Dw i hefyd wedi clywed rhai’n honni ‘y bydde Iesu’n siŵr o fotio dros ...’ y naill blaid neu’r llall. Un peth sy’n sicr – petai teledu gan Iesu heddiw byddai fe wedi dechrau blino ar y sôn di-baid am yr etholiad cyffredinol ar Fai 7. Mae chwech wythnos o ymgyrch yn fwy na digon!

Roedd math ar etholiad yn digwydd yn Israel yn amser Iesu. Senedd yr Iddewon oedd y Sanhedrin. Roedd gan hwn hyd at 71 aelod a byddai trefi’r Iddewon yn ethol yr aelodau. Hwn oedd yn penderfynu materion y Gyfraith i’r Iddewon.

Aeth Iesu ar ei brawf o flaen y Sanhedrin a’r Archoffeiriad adeg y Pasg. Ond doedd dim byd gan Iesu i’w ddweud wrth y Sanhedrin. Yn ei olwg ef, roedd awdurdodau’r Iddewon, y Sanhedrin a sectau fel y Phariseaid, yn bwdr. Cadw llythyren y Gyfraith oedd yn bwysig iddyn nhw. Ac anwybyddu cyfiawnder i’r bobl.

Felly, beth am etholiad San Steffan ar Fai 7? ‘Dw i ddim yn credu y byddai Iesu’n pleidleisio dros neb. Yn Iesu roedd Duw ar waith – ac mae Duw yn berffaith. Cariad a chyfiawnder llwyr yw Duw. Does yr un blaid na llywodraeth gwlad yn gallu dod yn agos at berffeithrwydd Duw.

Gan hynny, mae Iesu yn yr wrthblaid o hyd. Wrth weld y byd trwy Iesu gallwn weld

ffaeleddau a phechodau pob llywodraeth. Ni allai Iesu fod yn rhan o’r un llywodraeth ar y ddaear. Trwyddo ef gwelwn sut mae pobl yn cael cam – yn dlawd, yn cael eu camdrin, yn dioddef ym mhob ffordd. Ond mae Iesu’n cynnig gobaith i’r rhain i gyd.

Trwy ffordd Duw, nid ffordd y byd.

Ond er nad yw Iesu’n mynd i bleidleisio, does dim esgus gyda ni! Dewiswn y blaid

sydd agosa’ at neges y Testament Newydd. Un sy’n cefnogi cyfiawnder Cristnogol, heddwch, a chymod rhwng y cenhedloedd. Un sy’n rhoi lles yr anghenus o flaen lles y cyfoethog.

Cewch chi benderfynu pa blaid yw honno. Cofiwch bleidleisio!

Pob hwyl,Robat

MYFYRDOD BWRLWM MAWRTH 2015

'GWNEWCH Y PETHAU BYCHAIN - A'U GWNEUD YN ONEST!'. MYFYRDOD ROBAT POWELL, ARWEINYDD CAPEL Y NANT, O BWRLWM MAWRTH 2015

Ydych chi’n cadw eich miliynau yn y cwtsh dan stâr? Neu mewn banc fel HSBC?

            Os y’ch chi’n bancio eich milynau yn y Swistir gallwch gael gwasanaeth arbennig gan y banciau yno.

            Clywson ni y mis hwn am wasanaeth Banc HSBC. Pobl Prydain yn bancio miliynau o bunnau gyda nhw yn y Swistir, a’r banc yn eu helpu i beidio â thalu trethi ar eu hincwm.

             Er enghraifft, y banc yn creu cwmni ffug i rywun, y person yn symud ei arian o’r banc i’r cwmni a wedyn yn ‘benthyg’ yr arian o’r cwmni i’w wario ym Mhrydain. Heb dalu ceiniog o dreth arno.

            Mae tua mil o gwsmeriaid cyfoethog iawn HSBC yn twyllo dyn y dreth fel hyn.

            Clyfar iawn? Wedi’r cwbl, dim ond y llywodraeth ry’ch chi’n eu twyllo. Nid pobl.

            Ond na! Heb y trethi hyn mae llai o arian gan y llywodraeth i’w wario ar ysgolion, ysbytai a ffyrdd. Gwasanaethau i ni. Pobl gyffredin sy’n cael eu twyllo.

            Mae hanesion yn yr Hen Destament am dwyllo pobl gyffredin hefyd. Hanes Samuel yn pe nodi ei feibion yn farnwyr ar Israel, a’r rhain ‘.. yn ceisio elw, yn derbyn cil-dwrn ac yn gwy-ro barn.’ Hynny yw, rhowch arian yn eu pocedi cefn ac fe gewch benderfyniad yn y llys barn o’ch plaid chi.

            Mae’r proffwyd Micha’n disgrifio’r twyll ym myd masnach. Mae’n gofyn: ‘.. A anghofiaf enil-lion twyllodrus yn nhŷ’r twyllwr a’r mesur prin sy’n felltigedig? A oddefaf gloriannau twyllodrus ..?’

            Dyma’r dynion busnes yn defnyddio pwysau anghywir yn y glorian fel bod cwsmeriaid yn cael llai o nwyddau am eu harian.

            ‘Does dim byd newydd o dan yr haul – yn y flwyddyn 500 Cyn Crist neu 2015 Oes Crist! Nid pobl yn casglu cyfoeth yw’r gofid. Ond pobl yn casglu cyfoeth trwy dwyllo eraill.

            Mae Teyrnas Dduw yn addo byd teg a chyfiawn i ni. Ond rhaid i ni chwarae ein rhan hefyd. Rhaid bod yn deg a gonest ag eraill yn y pethau bychain yn ein bywydau ein hunain. A dyna neges Dewi Sant i ni hefyd.

MYFYRDOD CHWEFROR 2015

MYFYRDOD AREINYDD CAPEL Y NANT, ROBAT POWELL, O BWRLWM, CHWEFROR 2015 ... GAN YSTYRIED DYFODOL BWRLWM

ALLWCH chi ddim dibynnu ar lawer o bethau yn eich bywyd. Ond oddi ar sefydlu Capel y Nant gallen ni ddibynnu ar un peth; bydd ‘Bwrlwm’ yn cwympo trwy’r blwch llythyrau ddeng gwaith y flwyddyn.

Felly, cawsom sioc yn y Grŵp Cyhoeddusrwydd ym mis Ionawr. Dywedodd Hywel fod yn rhaid iddo roi’r gorau i gynhyrchu ‘Bwrlwm.’

Mae pawb wedi canmol ‘Bwrlwm.’ Mae’n lliwgar ac yn llawn newyddion am yr eglwys. Mae’n dweud beth sy wedi digwydd a beth sy’n mynd i ddigwydd. Mae’n cario lluniau o’n haelodau a’n plant. Mae’n ein cadw i gyd mewn cyswllt â’r eglwys, ac â’n gilydd.

Ond ydyn ni’n sylweddoli faint o waith yw cynhyrchu’r cylchgrawn? Rhaid ysgrifennu’r darnau a’u casglu ynghyd. Gosod y cyfan yn drefnus ar gyfrifiadur. Cael lluniau. Atgoffa pobl esgeulus sy’n anghofio anfon eu darnau i mewn! Yna anfon y copi cywir at Gareth yng Ngwasg Morgannwg, casglu’r copïau, eu rhoi yn yr amlenni a’u postio.

Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith yn syrthio ar ysgwyddau Hywel. Oriau lawer bob mis. Ar ôl saith mlynedd, mae Hywel am fwynhau tipyn o orffwys haeddiannol rhag y pwysau. Y cyfan gallwn ni’i dweud yw:  Diolch, Hywel, diolch am bopeth!

Ond beth am y dyfodol? Mae’n bwysig bod rhywbeth yn mynd at ein haelodau i’w clymu at eu gilydd a rhoi gwybodaeth am fywyd yr eglwys. Mae nifer o bosibiliadau:  parhau i gynhyrchu ‘Bwrlwm’ ar yr un patrwm – cynhyrchu ‘Bwrlwm’ bob dau fis – creu papur llai o faint a symlach, ac yn y blaen. Bydd rhaid trafod y dewisiadau.

Ond beth bynnag fydd y dewis, mae un peth yn sicr: bydd angen pobl arnon ni i helpu! I helpu ysgrifennu, rhoi’r papur at ei gilydd a’i anfon at yr aelodau. Mae digon o ddoniau yng Nghapel y Nant i wneud hyn. Ond rhaid bod yn barod i dorchi llewys, os dim ond am awr neu ddwy bob mis.

            Ydych chi’n gallu helpu? Byddwn yn trefnu cyfarfod ym mis Chwefror i drafod y ffordd ymlaen. Gobeithio gallwch chi fod yno!           

MYFYRDOD RHAGFYR 2014 IONAWR 2015

MYFYRDOD GAN ROBAT POWELL, ARWEINYDD CAPEL Y NANT, O RIFYN RHAGFYR 2014 A IONAWR 2015 O BWRLWM, CYLCHLYTHYR MISOL YR EGLWYS: WEDI TRISTWCH Y CAPELI SY'N CAU, GOBAITH GYDA GWYL Y GENI

MIS Tachwedd ces i swydd newydd. Ces fy ethol yn Gadeirydd  Cyfundeb Annibynwyr Gorllewin Morgannwg. Ac rwy’n gwerthfawrogi’r fraint o geisio rhoi rhyw arweiniad i eglwysi Annibynnol Gorllewin Morgannwg.

Ond mae fy mis cyntaf yn y swydd yn ddigon i dorri calon rhywun. Oherwydd yn ystod y mis Rhagfyr hwn bydd dwy o eglwysi Annibynnol y Cyfundeb yn cau ac yn cael eu datgorffori - Bryn-teg, Gorseinon, a Soar, Blaendulais. Ar ben hynny, ym mis Ionawr daw datgorffori Capel Carmel, Gwauncaegurwen.

Yn wyneb yr arwyddion hyn o’r trai yn ein crefydd, byddai’n hawdd digalonni. Mae hi fel petai’r nosau cynnar sy’n dod drosom ni bob mis Tachwedd yn tynnu’r llenni dros ein Ffydd Gristnogol hefyd.

Ond arhoswch funud! Erbyn i chi ddarllen y ‘Bwrlwm’ hwn, bydd Sul cyntaf yr Adfent wedi cyrraedd. Yr Adfent, y pedair wythnos cyn y Nadolig, sy’n nodi dechrau Blwyddyn yr Eglwys. Na, nid adeg y Pasg a bywyd newydd y gwanwyn. Nid adeg y Sulgwyn gyda dyfodiad yr Ysbryd Glân, ond yr Adfent. Pryd mae’r dyddiau’n byrhau a’r tywyllwch yn bygwth hawlio’r byd.

Oherwydd dyna’r gobaith mae ein Ffydd yn ei roi i ni. Pan fydd y byd yn edrych mor ddu, mae’r Eglwys yn ein hannog i edrych ymlaen. Edrych tuag at y Nadolig a dyfodiad Crist. Edrych ymlaen at y goleuni a ddaeth i’r holl wledydd ym Methlehem, ac a ddaw bob blwyddyn gyda’r nerth i drawsnewid y byd.

Ychydig wythnosau cyn i eglwys Bryn-teg gau ei drysau am byth, roedd ein cyfeillion yno’n codi rhai o’u pobl ifainc yn aelodau cyflawn. Dyna ddatganiad o ffydd a hyder! Er bod yr hen achos yn diflannu, bydd y bobl ifainc hynny’n cario fflam eu Ffydd ymlaen i’r eglwysi eraill ble byddan nhw’n addoli yn y dyfodol.

Yn ystod mis Rhagfyr byddwn ninnau yng Nghapel y Nant yn cyhoeddi ein hyder i’r byd hefyd. Yn ein hoedfaon, yn ein carolau, ac yn ein cymdeithasu â’n gilydd, dangoswn ein cryfder a’n penderfyniad i gerdded yn llawn egni a gobaith i Flwyddyn Newydd yr Eglwys.

            Deuwn i addoli gyda'n gilydd! Nadolig Llawen i bob un!

MYFYRDOD HYDREF 2014

MYFYRDOD GAN ROBAT POWELL, ARWEINYDD CAPEL Y NANT, O BWRLWM, MIS HYDREF 2014 : Y Ffydd sy'n gallu ein cynnal - IE neu NA?

MAE’N amhosib gweld ffydd. Allwch chi ddim ei phwyso na’i mesur hi. Ond gallwch weld effaith ffydd. Mae prosiectau mawr yn cael eu seilio ar ffydd weithiau.

Ers dwy flynedd buon ni’n gwrando ar y ddadl dros annibyniaeth i’r Alban.

Roedd cefnogwyr ‘IE’ yn dweud y byddai Alban annibynnol yn wlad fwy teg a mwy llwyddiannus. Doedden nhw ddim yn gallu profi hynny. Ond roedd ffydd gyda nhw. Roedd cefnogwyr ‘NA’ yn mynnu y byddai’r Alban yn fwy diogel trwy aros yn y Deyrnas Unedig. Doedd dim ffydd gyda nhw yn nyfodol Alban annibynnol.

Roedd Alastair Darling, Gordon Brown a’r ymgyrch ‘NA’ yn dweud ei bod yn rhy beryglus mynd ymlaen ar sail eich ffydd yn unig. Wrth gwrs, os oes gyda chi deulu a thŷ, mae’n rhaid bod yn ofalus ohonyn nhw. Ond heb ffydd, a heb fentro ambell waith ar sail eich ffydd, fyddwch chi’n cyflawni dim byd o werth.

Mae’r Efengyl yn llawn enghreifftiau o bobl yn gweithredu trwy ffydd. Byddai pobl sâl yn dod at Iesu yn eu ffydd gadarn y bydden nhw’n cael eu gwella. Fyddai Iesu ddim yn eu siomi nhw.

Cawn un hanes am swyddog ym myddin Rhufain. Roedd gwas hwn yn ddifrifol wael, a doedd e ddim am ofyn i Iesu ddod i’w dŷ. Dim ond i Iesu ddweud gair, meddai, heb weld y gwas hyd yn oed, roedd yn hyderus y byddai ei was yn cael ei iacháu. Synnodd Iesu. Dywedodd nad oedd wedi profi’r fath ffydd gan neb yn Israel. A chafodd gwas y swyddog ei wella.

Ry’n ni’n gallu rhoi ffydd mewn llawer o bethau – yn ein gallu ein hunain, yn nhalentau pobl eraill, ym mhotensial gwlad. Ond y sail gryfaf i’n gweithredu ni yw Ffydd yn Nuw a ffordd Iesu. Gall y Ffydd honno symud mynyddoedd. Gallwn bwyso arni a chodi cymdeithas newydd arni.

Dyna’r Ffydd sy’n drech nag unrhyw ymgyrch

‘NA’ !       

MYFYRDOD MEDI 2014

Myfyrdod gan Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant, o Bwrlwm, Medi 2014: Cyfrifoldeb arnom i sicrhau heddwch yn y Dwyrain Canol

GOBEITHIO i chi gael egwyl braf rywle dros yr haf. Mae’nbraf cael anghofio gofidiau am sbel cyn dod nôl i’r byd go iawn yn ffresh. A dyw’r byd ddim yn lle dymunol ar hyn o bryd.

Y Dwyrain Canol. Mae’n bell o Gymru. Er hynny, trwy’r Beibl ry’n ni mor gyfarwydd ag enwau fel Jerwsalem a Phalesteina, yr Aifft a Libanus. Cartref Abraham oedd dinas Ur, ble mae Basra yn Irac heddiw.

Mae cyflwr y Dwyrain Canol heddiw yn torri calon rhywun. Yn Libya mae sawl milisia’n ymladd yn erbyn ei gilydd. Yn yr Aifft mae’r Fyddin yn llywodraethu’n llym. Israel yn bomio Gaza. Rhyfel yn Syria. A bellach mae mudiad yr Islamic State yn concro rhannau o Irac ac yn lladd pobl sy’n meddwl yn wahanol iddyn nhw.

Beth allwn ni, fel Cristnogion, wneud i ddatrys y problemau? Gwraidd y drwg yw bod y pobloedd Arabaidd ddim wedi cael y rhyddid i ddatblygu eu cymdeithas eu hunain. Buon nhw dan sawdl yr Ymerodraeth Ottoman, Twrci, am ganrifoedd. Ar ôl 1830 cawson nhw eu coloneiddio neu’u rheoli gan wledydd Ewrop fel Prydain, Ffrainc a’r Eidal. Yn ystod y Rhyfel Oer roedd America a’r Undeb Sofietaidd yn defnyddio’r gwledydd Arabaidd yn erbyn ‘yr ochr arall.’ Byddent yn cefnogi unbeniaid creulon am eu bod yn wrth-Gomiwnyddol neu’n wrth-Americanaidd.

Ond allwn ni ddim troi’r cloc yn ôl.  Rhaid dechrau ble ry’n ni nawr. Ac mae gyda ni gyfrifoldeb i geisio datrys y problemau ry’n ni wedi helpu’u creu.

Byddai’n braf gweld yr Eglwysi Cristnogol yn gwasgu ar eu llywodraethau - yn y Gorllewin a Rwsia - i wneud y pethau iawn. Mae’r sefyllfa’n gymhleth. Ond mae angen dilyn rhai egwyddorion pwysig. Ni ddylai gwledydd y Gorllewin fynd i ryfel yno eto, fel yn Irac. Dylen ni weithio trwy’r Cenhedloedd Unedig i gael atebion. Dylen ni anfon help dyngarol ble bynnag mae pobl yn dioddef. Ni ddylen ni roi cymorth ond i wledydd sy’n parchu hawliau dynol i bawb – yn cynnwys hawliau i’r Palestiniaid.

A rhaid derbyn bod tir ac olew y Dwyrain Canol yn perthyn i’r cenhedloedd sy’n byw yno – nid i ni!

Bydd y ffordd yn anodd ac yn faith. Ond dyna’r unig ffordd tuag at heddwch a chyfiawnder i bawb .

Pob hwyl, Robat

Myfyrdod Awst / Gorffennaf 2014

CWPAN Y BYD YN WERS I NI, BOB UN

o Bwrlwm, Awst / Gorffennaf 2014, gan Robat Powell

YDYCH chi wedi troi’r teledu ymlaen y dyddiau diwetha hyn? Os do, ry’ch chi naill ai wrth eich bodd neu’n rhegi dan eich gwynt! Pêl-droed o fore gwyn tan nos, a Chwpan y Byd yn ei anterth ym Mrasil.

Ond p’un ai ydych chi’n hoff o bêl-droed neu beidio, gallwn ni i gyd ddysgu gwersi pwysig o’r gemau hyn.

Yn gyntaf, gêm i’r tîm yw pêl-droed – a bywyd hefyd! Mae hyd yn oed Neymar neu Messi’n ffaelu sgori gôl os na fydd rhywun yn pasio’r bêl iddyn nhw.

Fel yna mae bywyd eglwys hefyd. Ry’n ni’n dibynnu ar ein gilydd mewn tîm mawr. Mae’r pregethwr yn methu cynnal gwasanaeth heb fod rhywun yn canu’r organ. Mae’n anodd creu naws briodol os na fydd neb yn croesawu wrth y drws neu’n dod â’r blodau. Ni allwn addoli os nad yw’r adeiladau’n ddiogel. Mewn tîm y mae llwyddo, ac mae gan bob un aelod ei gyfraniad.

Yn ail, mae ail gyfle i bawb. Ydyn, mae tîm Lloegr druan wedi colli ac wedi troi am adre’n gynnar. A Sbaen. A’r Eidal. Ond ym mis Medi byddan nhw’n chwarae eto pan fydd Pencampwriaeth Ewro 2016 yn dechrau. Waeth pa mor wael ry’ch chi’n perfformio heddiw, fe ddaw cyfle arall.

Yn ein bywydau ninnau, mae pob un ohonom yn methu weithiau. Dweud y peth anghywir. Anghofio rhywbeth pwysig. Brifo person arall. Bradychodd Pedr Iesu dair gwaith cyn caniad y ceiliog, ond daeth cyfle iddo brofi ei Ffydd yn nes ymlaen. Ac fe lwyddodd.

Yn drydydd, mae Cwpan y Byd yn dangos amrywiaeth ryfeddol y byd a roddodd Duw i ni. Gwelwn bobl o bob iaith, lliw croen, hil a chrefydd yn cystadlu gyda’i gilydd ac yn mwynhau eu hunain yn y dyrfa sy’n gwylio. Mae’r amrywiaeth yn wych.

  Dengys Cwpan y Byd fod lle pwysig i bawb yng nghread Duw - gwledydd cyfoethog, cryf fel Yr Almaen a Ffrainc, gwledydd wedi’u rhwygo gan ryfel fel Bosnia, a gwledydd tlawd fel Honduras neu’r Traeth Ifori. Pawb yn perthyn i’r un byd. Byd Duw.   

Ac efallai bydd tîm Cymru yno y tro nesa!

Y Pab Ffransis - awel iach trwy Eglwys Rhufain

Myfyfyrdod Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant, yn rhifyn Mehefin o'n taflen fisol 'Bwrlwm':

FEL Protestaniaid, fuon ni erioed yn agos iawn at yr Eglwys Gatholig. Mae gwahaniaethau mawr rhyngon ni.

Wrth ymweld â’r eglwysi cadeiriol mawr yn Sbaen a’r Eidal, ry’n ni’n synnu at yr aur a’r arian sy’n eu haddurno. Cymaint o gyfoeth, er bod cymaint o dlodi yn y byd. Mae’r Pab, fel pennaeth Eglwys Rhufain, yn aml dan y lach gyda ni’r Protestaniaid.

Ond mae’n bosib bod y ddaear yn dechrau symud. Dim ond ers blwyddyn bu’r Pab Ffransis yn ei swydd. Ond mae e’n dechrau siarad yn wahanol a gwneud pethau’n wahanol.

Nid dyn ifanc tanllyd mohono – mae e’n 78 oed! Ond daeth i’r swydd o gefndir ots i’r arfer. Dyma’r Pab cynta o’r Ariannin, y cynta erioed o’r Americas. Ni ddaeth yn offeiriad nes ei fod yn 33 oed. Bu’n gweithio cyn hynny fel technegydd cemegol a bownsar clwb nos! Gwelodd e ddigon ar fywyd, felly.

Mae Ffransis yn byw bywyd llawer symlach na’r Pabau eraill. Dewisodd fyw mewn tý yn lle yn y Palas Apostolaidd yn y Fatican. Mae e’n gwisgo llai o addurniadau.

Yn barod, mae e’n codi ei lais dros y rhai tlawd ac anghenus. Mae e wedi lladd ar y cwmnïau mawr, rhyngwladol, am drin eu gweithwyr yn annheg. Dyw e ddim yn boblogaidd gan rai o gorfforaethau mawr America oherwydd hynny.

Yn ei bregethu, mae e’n pwysleisio dangos trugaredd i bobl a wnaeth ddrygioni. Mae’n gryf o blaid heddwch. Yr wythnos ddiwetha, ar ei ymweliad ag Israel, aeth i weddïo wrth droed y Wal fawr a gododd Israel i’w gwahanu rhag y Palestiniaid. Gwahoddodd arweinwyr Israel a’r Palestiniaid i aros gydag e i drafod y gwrthdaro.

Na, dyw e ddim wedi cyffwrdd â’r cwestiynau ble bu’r Eglwys Gatholig mor styfnig – hawliau pobl hoyw, atal cenhedlu, ordeinio merched, erthylu. Ond gall fod newid yn y gwynt.

Un mater pwysig i Gatholigion yw newid y drefn i ganiatáu i rai dderbyn y Cymun ar ôl cael ysgariad. Gall Ffransis wneud datganiad am hyn yn yr hydref.

‘O Arglwydd, dyro awel, a honno’n awel gref ..’ meddai’r emynydd.

Efallai taw’r Pab Ffransis yw’r awel iach honno yn Eglwys Rhufain.
 

MYFYRDOD GAN ROBAT POWELL, O BWRLWM EBRILL 2014 Cynnal ein gilydd - i leihau'r ansicrwydd sy'n peri poen

ANSICRWYDD. Ddim yn gwybod. Dyna sy’n cadw pobl ar ddi-hun.

Mae rhai ohonon ni’n byw ar bigau drain y dyddiau hyn trwy ansicrwydd am y Swans ! Ydyn nhw’n mynd i aros yn yr Uwch-Gynghrair neu ddim? Mae’n anodd cysgu’r nos!

Ond rhywbeth dibwys yw pêl-droed yn y bôn. Mae ansicrwydd llawer gwaeth i’w gael.

Yn ddiweddar bu dros 200 o deuluoedd yn dioddef ansicrwydd ofnadwy gan fod eu hanwyliaid ar fwrdd taith MH370 – awyren Malaysian Airlines oedd ar goll am bythefnos.

Dychmygwch eu poen meddwl. Clywed bod yr awyren wedi diflannu – y sioc. Efalle bod yr awyren wedi glanio rhywle – y gobaith. Amser yn mynd heibio – oedden nhw’n fyw neu’n farw? Yna clywed am y darnau bach yn y môr, ac o’r diwedd y gair bod y Boeing 777 wedi cwympo i’r môr.

Newyddion erchyll oedd y newydd olaf. Ond o leiaf maen nhw’n gwybod, ac yn gallu galaru.

Bu rhai o aelodau Capel y Nant mewn gwewyr ansicrwydd yn ddiweddar hefyd. Roedd y rhain yn wynebu llawdriniaeth yn yr ysbyty. Yn llawn gofid naturiol. Fyddai popeth yn dda, neu ddim?

Pan fydd eraill mewn gwewyr meddwl fel hyn, mae angen eu cefnogi. Ond mae’n anodd gwybod beth i’w ddweud. Y demtasiwn yw dweud: ‘Peidiwch â becso, aiff popeth yn iawn.’ Ond ydy hynny’n onest? Ydy hynny’n rhy hawdd? Dydyn ni ddim yn gwybod mwy na nhw.

Ond mewn un peth ry’n ni’n gallu rhoi sicrwydd i’r sawl sy’n dioddef. Gallwn roi sicrwydd ein bod yn meddwl amdanyn nhw, ein bod yn eu cadw nhw yn ein gweddïau. Y byddwn ni gyda nhw bob cam o’r ffordd.  

Ac mae gwybod hynny’n gallu rhoi nerth a hyder i’r person arall. Yr hyder bod cariad pobl eraill o’n cwmpas ni bob amser. Cariad Duw ar waith yw hynny. Y cariad sy’n rhoi sicrwydd bob amser.

Gyda llaw, peidwch â cholli cwsg achos y Swans – byddan nhw’n aros lan!

MYFYRDOD GAN ROBAT POWELL, O BWRLWM CHWEFROR 2014

DYW hi ddim mor hawdd cael eich trin yn yr ysbyty y dyddiau hyn. Gohirio sawl llawdriniaeth. Gwelyau’r ysbytai’n llawn. Mae rhai ysbytai cymunedol, fel Gelli Nudd, wedi cael eu cau, er mwyn arbed arian.

Mae’n anoddach, hefyd, os ydych chi’n gofalu am aelod o’r teulu gartref. Mae’r Ganolfan Ddydd yn bwysig iawn. Gall person fynd yno am rai oriau er mwyn i’r gofalwyr gael seibiant. Mae pobl oedrannus yn cael cwrdd â ffrindiau yno.

Ond erbyn hyn mae llai o gyfle i gael lle mewn Canolfan Ddydd neu respite . Mae’r cynghorau’n cau rhai. Yma yng Nghlydach mae dyfodol Forge Fach yn y fantol. Mae teuluoedd yn pryderu.

Mae gofalu am y gwan a’r claf yn rhan o’r genhadaeth Gristnogol. Felly, beth allwn ni wneud yn wyneb y toriadau difrifol hyn?

Y cynghorau a’r byrddau iechyd sy’n torri’r gwasanaethau, felly gallwn wasgu ar ein cynghorwyr. Ond maen nhw’n dweud bod Llywodraeth Cymru yn rhoi llai o arian iddyn nhw. A Llywodraeth Llundain sy’n rhoi llai o arian i Gymru! Felly, mae’n bwysig ysgrifennu a gwasgu ar ein haelodau seneddol.

Ond mae’r angen gyda ni nawr, ar garreg ein drws. Yng Nghapel y Nant, bu’r Grŵp Eglwys a Chymdeithas a’r Pwyllgor Gwaith yn trafod y broblem. Rydyn ni wedi ysgrifennu at ein cynghorwyr lleol.

Ond mae angen gwneud rhywbeth ymarferol hefyd. Un syniad yw creu canolfan hanner-dydd yma – ‘Prynhawn Pawb.’ Agor y neuadd un prynhawn a gwahodd ein haelodau oedrannus i mewn am baned a sgwrs. Gallwn ddod â nhw yn ein ceir. Gallant ddod â’u ffrindiau hefyd.

Os bydd y tro cyntaf yn llwyddiannus, gallwn geisio cynnal y ‘Prynhawn Pawb’ bob mis neu bob pythefnos. Wrth gwrs, bydd angen rhai o’n haelodau yn y neuadd hefyd, i gadw llygad ar yr ymwelwyr a gwneud paned iddyn nhw.

Mae’n syniad cyffrous. Mwy o waith i ni, ond dyna pam mae’r Eglwys yn bod! I wasanaethu. I helpu cynnal y rhai mewn angen.

Fyddech chi’n barod i helpu gyda’r cynllun bob hyn a hyn? Bydd mwy o drafod ar y mater cyn bo hir!

MYFYRDOD GAN ROBAT POWELL, O BWRLWM, TACHWEDD 2013 Dod a goleuni i fywydau'r oedrannus

MAE dydd Sul olaf mis Hydref yn garreg filltir bob blwyddyn. Oherwydd am 1.00 y bore hwnnw rydym yn troi’r cloc yn ôl un awr. Byddwn yn tynnu’r llenni un awr ynghynt wrth iddi dywyllu tu allan.

Roedd hen fodryb i fi’n arfer dweud bod troi’r cloc yn ôl yn codi ofn arni. Roedd hi’n teimlo bod y nos a’r gaeaf yn cau amdani. Mae llawer o hen bobl yn teimlo’r un peth o hyd, yn enwedig os ydyn nhw’n byw wrthynt eu hunain. A’r tywyllwch yn hirhau, maen nhw’n methu mynd allan gyda’r nos. Bydd llai o bobl yn galw arnyn nhw gyda’r hwyr. Maen nhw’n fwy unig ac ynysig.

Os y’ch chi’n teimlo yr un fath, gallwch feio dyn o’r enw William Willett. Hyd at 1916 roedd Prydain yn cadw’r un amser GMT drwy’r flwyddyn. Ond adeiladwr oedd Mr Willett. Roedd e am i’w weithwyr gael mwy o amser yn yr haf i weithio gyda’r hwyr, felly dechreuodd ymgyrch i gyflwyno BST – Amser Haf Prydain. Oddi ar 1916, felly, buom yn troi’r cloc ymlaen ar Sul olaf mis Mawrth, ond yn ôl ar ddiwedd Hydref.

  Mae llawer o bobl oedrannus yn digalonni pan ddaw’r gwyll yn gynnar o fis Tachwedd ymlaen. Mae’n bwysig, felly, ein bod yn ymdrechu i godi eu calonnau. Bydd galw ar ein cymdogion hŷn am ddim ond rhyw ddeng munud yn gwella eu hwyliau. Os na allwch alw, bydd galwad ffôn yn dangos iddynt fod pobl eraill yn meddwl amdanyn nhw.

Mae ein Grŵp Bugeilio yn y capel yn cadw golwg ar ein haelodau mwy bregus, a diolch iddyn nhw am hynny. Ond mae pawb ohonom yn gallu chwarae ein rhan hefyd.

Sul cyntaf Rhagfyr eleni fydd dechrau’r Adfent. Pedwar Sul o gynnau’r canhwyllau yn yr oedfaon, wrth i ni ddisgwyl yn eiddgar am y goleuni mawr a ddaw i’r byd adeg Nadolig. Dyma’r goleuni sy’n codi’r gwyll oddi amdanom ac yn llewyrchu ar y ffordd ymlaen.

Ond gallwch ddod â’ch goleuni eich hunain i fywyd yr oedrannus hefyd. Cofiwch amdanyn nhw! 

DAW GOBAITH TRWY SIARAD - NID CLATSIO! gan Robat Powell yn Bwrlwm Hydref 2013

I RAI pobl, y ffordd orau i dorri dadl yw clatsio. Mae bwrw’r person arall yn haws na rhesymu.

Bob nos Sadwrn bydd pobl ifanc yn ymladd â’i gilydd yng nghanol Abertawe a Chastell-nedd. Yn Llundain, byddwn yn clywed bron bob mis am fachgen ysgol yn cael ei drywanu â chyllell. Mewn rhai rhannau o’r byd mae mwy o ddrylliau nag o bobl.

 dryll neu gyllell yn ei law, gall dyn deimlo’n gryf. Mae gwledydd yn gallu bihafio yr un ffordd â’r bobl hyn. Gall fod yn haws bomio gwlad arall na siarad â hi. Os bydd pobl yn protestio yn erbyn llywodraeth, fel yn yr Aifft, mae’n haws eu saethu na dadlau gyda nhw.

Yn ystod mis Medi bu dwy esiampl erchyll arall o ddefnyddio trais. Yn Peshawar, Pacistan, cerddodd dau hunanfomiwr i ganol eglwys a ffrwydro eu hunain. Lladdwyd rhyw 80 o Gristnogion. Yn Nairobi, Cenia, ymosododd y grŵp Islamaidd Al-Shabab ar ganolfan siopa a lladdwyd rhwng 70-100 o bobl yn yr ymladd yno. Weithiau gallwn anobeithio na ddaw diwedd byth i’r trais hwn.

Ond y mis hwn daeth gobaith i’r byd hefyd. Y man cychwyn oedd Tŷ’r Cyffredin yn Llundain yn pleidleisio 285-272 yn erbyn ymosod ar Syria. Yn sgîl hyn, tynnodd yr Arlywydd Obama nôl o daro Syria, a phenderfynu cael pleidlais yn y Gyngres yn Washington. Yna, cynigiodd Rwsia y gallai Syria ildio ei harfau cemegol. Yn sydyn, roedd y gwledydd yn siarad yn lle bygwth ei gilydd.

Mae pethau eraill ar gerdded hefyd. Prif weinidog Iran, Hassan Rouhani, yn dweud ei fod am drafod gyda’r Americanwyr. Yr Arlywydd Assad yn cyfaddef na all neb ennill y rhyfel yn Syria. Mae’n amhosib rhagweld beth fydd canlyniad hyn i gyd. Ond mae teimlad bod creigiau mawr yn dechrau symud. Mae’r gwledydd yn dechrau siarad yn lle saethu.

Fel yr ysgrifennodd yr apostol Paul at yr eglwys yn Rhufain:  ‘‘Peidiwch â thalu drwg am ddrwg i neb ...Trecha di ddrygioni â daioni.” Tybed a yw’r gwledydd yn gwrando o’r diwedd?

Ac efalle daw heddwch i Wind Street ar nos Sadwrn hefyd!

DAU NOD NEWYDD I GAPEL Y NANT - gan ROBAT POWELL YN BWRLWM, MEDI 2013

“CROESO Medi, fis fy serch, mis y porffor ar y ffriddoedd ..” Fel yna canodd Eifion Wyn i’r mis ‘clir fel grisial.’

  Dyw pawb ddim yn croesawu’r mis yma. Mae haf arall ar ben. Mae’n tywyllu’n gynt ac mae llai o liw yn ein gerddi. Ond gobeithio eich bod wedi cael gwyliau da neu o leiaf peth amser oddi cartref a bod y batris wedi’u llenwi eto gyda chi!

Mae Capel y Nant wedi cael ychydig o seibiant hefyd dros fis Awst. Dim ond un oedfa bob Sul, a dim gwasanaeth o gwbl yma un wythnos pan aethom ar y Bererindod. Ond mae’r capel hefyd bellach yn barod i fynd ati gydag egni newydd!

Ar ddechrau tymor arall, mae dewis gan bob capel ac eglwys. Naill ai rhygnu ymlaen yn yr un ffordd, neu gosod nodau newydd i gyrchu atyn nhw. Yng Nghapel y Nant rwy’n gweld dau nod pwysig i’w cyflawni cyn y gwyliau haf nesaf.

  Y cyntaf yw cynyddu ein haelodaeth. I’r perwyl yma bydd y Grŵp Addysg yn ymweld â nifer o deuluoedd lleol y mis yma i wahodd eu plant i’r Ysgol Sul a’r rhieni i’r oedfaon. Byddwn yn cynnal noson arbennig i deuluoedd newydd ar nos Iau, Hydref 10, yn neuadd y capel, yn cynnwys oedfa fer a thipyn o hwyl i bawb.

Gall pob aelod chwarae ei ran hefyd. Os ydych chi’n nabod aelodau eraill sydd ddim yn troi i mewn i’r cwrdd fel o’r blaen, neu yn nabod pobl sy ddim yn addoli yn unman, beth am gael gair bach a’u gwahodd i un o’r oedfaon gyda chi? Gallwn gryfhau’r eglwys gyda’n gilydd.

  Yr ail nod yw gwneud y gwelliannau yn neuadd y capel. Diolch i waith David Waghorn, mae cynlluniau gyda ni. Ceisio am grantiau yw’r dasg nawr. Y nod yw cael adeiladwyr i mewn rywbryd yn y Flwyddyn Newydd.

Mawr obeithio y byddaf yn gallu ysgrifennu yn ‘Bwrlwm’ ymhen blwyddyn fod gyda ni neuadd o safon, gyda chegin a chyfleusterau newydd. Bydd ar gael i’w defnyddio nid yn unig gan gynulleidfa Capel y Nant a’r Eglwys Wesle, ond hefyd gan grwpiau yn y gymuned.

Trwy wasanaethu’r gymuned yn well, byddwn hefyd yn gwasanaethu Duw ac yn cyflawni ei ewyllys.

Ie, ‘Croeso Medi’ yn wir! Gadewch i ni gamu ymlaen gyda’n gilydd.

Pob hwyl, Robat

Myfyrdod Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant, o Bwrlwm, Gorffennaf /Awst 2013

MANNING A SNOWDEN - GWRANDO AR EU CYDWYBOD A GWNEUD YR HYN SYDD DDA?

Ydyn ni’n gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg?

Pan oedden ni’n blant, ein rhieni oedd yn dweud. Taflu carreg – “Mae hynny’n ddrwg!” Sychu traed cyn mynd i’r tŷ – “ ’Na ferch dda!” Pan aethom i’r ysgol daeth hi’n fwy cymhleth. Roedd pob math o hwyl yn ‘ddrwg’, rywsut, a’r pethau anodd oedd yn ‘dda’ – fel swotio cyn arholiad!

A ninnau’n oedolion, i lawer ohonom y gyfraith sy’n dweud wrthon ni beth yw beth. Os yw’r gyfraith yn dweud “Na!” , dyna’r pethau drwg. Digon syml.

Ond weithiau ... Yn llyfr Daniel yn yr Hen Destament gwnaeth Dareius, brenin Babilon, gyfraith newydd. Doedd neb i fod i weddïo ar unrhyw dduw ond Dareius ei hun. Y peth da, felly, oedd gwneud hynny. Ond roedd Daniel, Iddew yn Babilon, yn mynnu gweddïo ar Dduw Israel. Gwrandawodd ar ei Dduw ac ar ei gydwybod. Ond torrodd y gyfraith. Ei gosb oedd cael ei daflu i ffau’r llewod. A wnaeth Daniel beth drwg? Naddo, dwedwn ni. Daeth o ffau’r llewod yn fyw, arwydd Duw iddo wneud y peth da. Cyfraith Duw yn uwch na chyfraith dyn.

Ond hen stori yw hanes Daniel. Allai peth o’r fath ddim digwydd heddiw, does posib?

Ym Mehefin, roedd y milwr Bradley Manning yn sefyll ei brawf yn America. Yn 2009 -10 dyma Manning yn rhyddhau cannoedd o filoedd o negeseuon ebost llywodraeth America yn dangos sut roedd yr UDA wedi ymosod ar dargedau yn Irac ac Affganistan, lladd sifiliaid, poenydio carcharorion a thwyllo eu ffrindiau mewn gwledydd eraill. Mae e’n cael ei gyhuddo o ‘ddwyn gwybodaeth gudd’ a ‘helpu’r gelyn.’ Mae’n wynebu 20 mlynedd o garchar.

Y mis yma hefyd, roedd America’n ceisio dal Edward Snowden, sydd wedi rhyddhau gwybodaeth yn dangos sut mae America’n sb ï o ar wledydd cyfeillgar eraill. Dangosodd hefyd sut mae GCHQ ym Mhrydain yn clustfeinio ar ebost a ffonau pawb ym Mhrydain.

Mae Manning a Snowden wedi torri cyfraith eu gwlad. Peth drwg, felly? Neu, fel Daniel, a ydyn nhw wedi gwrando ar eu cydwybod a gwneud y peth sy’n dda ac yn gywir? Cyfraith Duw neu gyfraith dyn – pa un sy’n cyfrif?

A thybed a fyddan nhw, fel Daniel, yn dod o ffau’r llewod yn iach ac yn rhydd?   

Pob hwyl, Robat

Myfyrdod Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant, o Bwrlwm, Mehefin 2013

BLE MAE'R GWIR YN EIN GEIRIAU?

M AE geiriau’n ddiddorol. Gyda geiriau gallwn ddweud yn glir beth rydyn ni’n ei feddwl. Ond weithiau bydd geiriau’n cuddio beth rydyn ni’n ei feddwl.

Dangosodd George Orwell hyn yn ei nofel ‘ 1984 .’ Yma, yng ngwlad Oceania, y Ministry of Peace sy’n cynnal rhyfel! Y Ministry of Truth sy’n dweud celwydd wrth bawb!

Mae llywodraethau’n aml yn defnyddio geiriau i guddio beth maen nhw’n wneud. Un gair newydd yn y Saesneg yw rendition . Mae’n golygu ... wel, pwy sy’n gwybod? A dyna’r pwynt. Mae llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi gwneud pethau dan yr enw rendition heb i neb sylweddoli beth oedd yn digwydd.

Ar ôl ymosodiad 9/11 roedd America’n dal miloedd o bobl ar draws y byd, yn amau eu bod yn ‘beryglus.’ I’w gorfodi i roi gwybodaeth, byddai America’n anfon y rhain i wledydd cyfeillgar, fel yr Aifft neu Bacistan, lle bydden nhw’n cael eu poenydio nes siarad. Felly, ‘anfon-i’w-boenydio’ yw ystyr rendition . Ond doedd neb yn gwybod.

O leiaf mae ein gwleidyddion yn siarad yn glir. Wir? Yn 2005 dywedodd Jack Straw, yr Ysgrifennydd Tramor, wrth aelodau seneddol nad oedd ‘dim gwir yn yr honiadau bod Prydain yn chwarae unrhyw ran mewn rendition .’ Geiriau plaen. Ond mae grŵp protest o’r enw Rendition Project wedi darganfod bod 144 awyren Americanaidd wedi glanio ym Mhrydain dan yr enw rendition . Geiriau plaen yn cuddio’r gwir.

Y mis hwn mae gair Saesneg newydd arall wedi codi – justiciability . Does neb yn deall hwn, chwaith. Y cefndir yw bod gŵr o Libya o’r enw Abdul-Hakim Belhaj eisiau mynd â llywodraeth Prydain i gyfraith. Roedd Mr Belhaj yn gwrthwynebu’r Cyrnol Gaddhafi. Ond yn 2004 cafodd ei ddal gan swyddogion Prydain a’i anfon gyda’i wraig at Gaddhafi – rendition arall. Yn Libya cafodd ei garcharu a’i boenydio tan y rhyfel yn 2010.

Mae Mr Belhaj am gael iawndal gan lywodraeth Prydain. Ond mae cyfreithwyr Llundain yn dweud nad yw’r achos ddim yn dod o dan gyfraith Prydain! Y rheswm cyfreithiol yw – ‘ justiciability.’ Mewn gwirionedd, felly, mae’n golygu nad oes dim justice !

Pob lwc i Mr Belhaj yn ei achos. A’r tro nesaf y gwelwch air nad ydych yn ei ddeall, byddwch yn ofalus cyn ei ddefnyddio!

Pob hwyl, Robat

Myfyrdod Robat Powell o Bwrlwm, Mai 2013

Ninnau'n byw yn fras - a'r tlodion yn talu'r pris


BLE byddwch yn prynu eich dillad? Marks a Sparks neu Saville Row? Neu siop elusen – mae bargeinion i’w cael yno!

        Yn y bôn, does dim ots ble rŷch chi’n prynu eich crysau neu’ch esgidiau. Ond ydych chi’n gwybod ble mae’r dillad yn cael eu gwneud? A sut lefydd yw’r ffatrïoedd sy’n eu cynhyrchu? Oes, mae ots am hynny.

Newydd ofnadwy oedd bod 352 o weithwyr dillad wedi cael eu lladd mewn trychineb yn Savar, Bangladesh. Roedd eu ffatri mewn adeilad wyth-llawr, a chwympodd yr adeilad arnyn nhw. Wrth i mi ysgrifennu, roedd cannoedd o weithwyr ar goll o hyd. Gallai nifer y meirwon gyrraedd mil.

Roedd dwy ffatri New Wave yn yr adeilad yn Savar yn gwneud dillad i gwmnïoedd Prydeinig fel Primark a Matalan.

Yn anffodus, nid dyma’r ddamwain gyntaf o’r fath yno. Ers 2005, cyn trychineb Savar, bu tua 700 o weithwyr farw yn ffatrïoedd dillad Bangladesh. Marw am fod safon adeiladu’r ffatrïoedd mor wael. A does braidd dim rheolau diogelwch ynddynt.

Ac eto, diwydiant dillad Bangladesh yw’r trydydd mwyaf yn y byd bellach o ran elw – ar ôl Tsieina a’r Eidal. Mae’r cwmnïoedd yn gwneud arian mawr trwy gynhyrchu i siopau yn y Gorllewin.

Ond pobl dlawd ryfeddol yw’r gweithwyr cyffredin. Y cyflog yno ar gyfartaledd yw £24 y mis!

Rŷn ni i gyd yn hoffi bachu bargen wrth brynu ein dillad, teganau i’n plant a llawer o nwyddau eraill. Ond mae’n werth aros cyn prynu i weld o’r label o ble maen nhw’n dod.

Os taw o Fangladesh, yr India, Fietnam neu Indonesia, mae hi hefyd yn werth gofyn yn y siop beth yw amodau gwaith y gweithwyr ffatri a wnaeth y peth. A faint maen nhw’n ennill.

Rŷn ni’n byw yn fras yma yn y Gorllewin, hyd yn oed mewn gwlad gymharol dlawd fel Cymru. Gweithwyr Bangladesh a mannau eraill sy’n talu’r gwir bris.   

Pob bendith, Robat

 GAN ROBAT POWELL, ARWEINYDD CAPEL Y NANT

Myfyrdod Robat Powell o Bwrlwm Ebrill 2013

PROTESTIO V HYSBYSEBION Y LLUOEDD ARFOG YN STADIWM Y LIBERTY

UN o’r llefydd yn Abertawe sy’n cynnig gobaith i ni yw Stadiwm Liberty. Mae’n un o hoff lefydd llawer o aelodau Capel y Nant!

Yma gallwn weld pobol ifanc yn dangos eu doniau mewn gemau pêl-droed, rygbi neu gyngherddau pop.

 Ond cefais dipyn o sioc yn ddiweddar wrth weld rhai hysbysebion newydd yn y stadiwm. Posteri recriwtio pobl ifanc i’r Llynges Frenhinol yw’r rhain. Ry’n ni wedi arfer gweld y Llynges yn ceisio recriwtio trwy sôn am y cyfle i weld llefydd estron, cael hwyl yn yr haul, neu sgio yn yr eira. Ond mae’r rhain yn wahanol.

 Maen nhw’n dangos lluniau o long ryfel Prydain yn tanio at long arall. Wrth ochr y lluniau mae’r sloganau: ‘You pass ... you shoot ... you score.’ Mae’r lluniau’n portreadu rhyfel fel gêm. Mae lladd pobol eraill yn dipyn o hwyl, maen nhw’n dweud. Yr un peth â gêm bêl-droed neu chwarae gêm gyfrifiadur.

 Mae gwahaniaeth barn am y lluoedd arfog. Mae heddychwyr yn erbyn defnyddio trais ar unrhyw gyfrif. Bu’r traddodiad heddychlon ymysg Cristnogion Cymru yn gryf erioed. Mae eraill yn credu bod hawl gan bawb, a phob gwlad, i amddiffyn ei hun.

 Ond beth bynnag yw eich barn, rhaid derbyn bod cymryd bywyd person arall yn beth difrifol dros ben. Duw sy’n rhoi bywyd i ni. Mae bywyd pob un yn y byd yn sanctaidd.

 Ond mae posteri fel y rhain yn y Liberty, a rhai o hysbysebion y fyddin ar S4C, yn dangos diffyg parch at fywyd. ‘Gall lladd pobol fod yn dipyn o sbort’, yw eu neges.

 Rwyf wedi ysgrifennu at reolwr Stadiwm Liberty i brotestio at natur yr hysbysebion hyn. Cawn weld beth yw ei ymateb. Dyma’r stadiwm ble rydyn ni eisiau gweld pobol ifanc yn dangos eu doniau creadigol.

  Nid dyma’r lle i ddenu pobol ifanc Abertawe

at y busnes lladd.  

                                                                                                            Pob hwyl, Robat

MYFYRDOD ROBAT POWELL O BWRLWM CHWEFROR 2013

DIOLCH AM Y 'NEILLTUO' - OND NAWR AT Y GWAITH!

MAE pobl yn dwlu dathlu. Dathlu pen-blwydd, pen-blwydd priodas, dydd Gŵyl Ddewi. Hyd yn oed dathlu ennill rhyw gêm neu’i gilydd. Cofiwch, bydd rhyw gwynwr bob amser yn achwyn taw gwastraff arian yw’r peth.

 Mae’r Eglwys yn dathlu hefyd. Gwyliau fel y Nadolig a’r Pasg, wrth gwrs, ond hefyd dathlu croesawu pobl i swydd arbennig. Mae’r Cwrdd Ordeinio a’r Cyfarfod Sefydlu yn rhan o’n traddodiad ni. Erbyn hyn mae Undeb yr Annibynwyr wedi dechrau traddodiad newydd, sef yr Oedfa Neilltuo Arweinydd. Cawsom ni brofiad o hynny ein hunain yng Nghapel y Nant ar nos Iau, Ionawr 17.

Hyd yn oed ymysg aelodau eglwysi fe glywch ambell un yn cwyno am gost y cyfarfodydd hyn, a holi a ydyn nhw’n werth y trafferth. Ar ôl i mi gael fy neilltuo yng Nghapel y Nant, hoffwn ddweud fod yr oedfa a’r profiad wedi bod o werth mawr i mi, ac yn bendant yn werth ei chynnal.

Roedd derbyn dymuniadau gorau cymaint o bobl yn hwb i’r galon yn bersonol, a brwdfrydedd pawb yn yr oedfa gynnes yn galondid mawr. Braf hefyd oedd clywed pobl o’r tu allan yn mynegi eu hewyllys da i’r Eglwys gyfan, nid dim ond i’r Arweinydd. Soniodd mwy nag un ymwelydd y noson honno eu bod wedi mwynhau’r gwmnïaeth gyda ni. Dylai hynny godi ein calonnau i gyd. Gobeithio bod ein haelodau ni hefyd wedi mwynhau dod at ei gilydd i brofi’r gyfeillach a theimlo nerth ein Heglwys

Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb a gyfrannodd i’r nos Iau honno, trwy gymryd rhan yn yr oedfa, helpu gyda’r croeso a’r bwyd yn y neuadd wedyn, neu ofalu am bethau fel y gwresogi a dosbarthu taflenni. Gwaith tîm oedd y cyfan.

Mae’r dathlu wedi bod. Ond mae hen ddywediad ym myd yr eisteddfodau bod bardd yn gorfod ‘mynd o’i wobr at ei waith.’ Ar ôl cael ei gadair neu’i goron, rhaid iddo droi nôl i chwysu ac ysgrifennu eto. Felly yng Nghapel y Nant. Ar ôl dathlu dechreuad cyfnod newydd yn ein hanes, mae ’na waith i’w wneud. Awn ati gyda’n gilydd! Ond diolch i chi i gyd am y dathlu!

Pob hwyl,  Robat

MYFYRDOD DEWI MYRDDIN HUGHES O 'BWRLWM' RHAGFYR 2012 IONAWR 2013

‘PWY fydd Mair eleni ?” oedd y cwestiwn cynta bob blwyddyn wrth ddechrau meddwl am ddrama Nadolig y plant. Doedd dim angen actor i gymryd rhan Iesu wrth gwrs. Ys dywed Gwyn Thomas, “Doli yn ddi-ffael oedd y baban Iesu.”

Ar ôl Iesu ei hun, merch sydd â’r rhan bwysicaf yn hanes y geni. Mae hynny’n rhyfeddod, pan ystyriwn taw lle eilradd oedd i ferched yng Ngwlad Canan bryd hynny.

Sut y bu i ni Gristnogion golli golwg ar hynny tybed? Mae penderfyniad Eglwys Loegr i beidio agor y drws i ferched fedru bod yn esgobion yn gam gwag, yn achosi llawer o boen, ac yn dangos yr eglwys fel mudiad amherthnasol ac anoddefgar sydd wedi cael ei adael ar ôl. Dyma ni yn llusgo’n traed yn yr union fan lle dylem fod yn arwain.

A ble buom ni bobl y capel? Mae cymaint o’n festrioedd wedi’u plastro â lluniau o ddiaconiaid ddoe, dynion i gyd ym mhob llun tan yn ddiweddar iawn!

Chwarae teg i’r traddodiad Catholig; wrth roi cymaint o sylw i Mair mae’n rhoi’r ferch yn agos i’r canol, ble mae Duw wedi’i rhoi.

Synnu wnaeth Mair, a rhyfeddu, bod Duw wedi’i dewis hi i fod yn fam i Iesu, a hithau’n ferch ifanc o blith y bobl gyffredin.

Buom yn teimlo drosti. Sut y bu hi rhyngddi hi â Joseff tybed, a rhyngddi â’i theulu? A’r daith hir a hithau yn ei gofal. Dim lle yn y llety wedyn a’r preseb yn grud. Mair druan!

Ni fu’n pitïo. Does dim sôn amdani hi yn teimlo iddi gael unrhyw gam. I’r gwrthwyneb yn hollol. Does dim pall ar ei diolch. Dweud am ei llawenydd mawr y mae’r Beibl. Mae’n ei gweld ei hunan y ferch fwyaf ei braint erioed. A phwy sydd am ddadlau â hynny?

“Gwnaeth yr hwn sydd nerthol bethau mawr i mi, a sanctaidd yw ei enw ef.”

Cafodd fraint y tu hwnt i eiriau, a does dim pall ar ei diolch. Ond mae hi’n gwneud yn siwr bod y golau yn aros ar Dduw. Mae’n gwybod o’r dechrau mai’r Mab bach yw’r mwyaf erioed. Dyna gyfrinach ei mawredd, “Unwch gyda mi i foli Duw amdano Fe”.

Gobeithio y gwnawn ni hynny o galon ddiolchgar y Nadolig hwn.

Nadolig Llawen, Dewi

MYFYRDOD DEWI MYRDDIN HUGHES O 'BWRLWM' TACHWEDD 2012

POBL Clydach gododd yr Ysbyty yma yn gofeb i’r trigolion gollodd eu bywydau mewn rhyfel.  Newidiodd y defnydd ohono dros y blynyddoedd, ac erbyn hyn mae Awdurdod Iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi penderfynu gwerthu’r safle.

Bydd Gwalia, yr asiantaeth dai, yn datblygu’r safle. Gobaith Cyngor Clydach yw arwain grŵp lleol i sefydlu elusen fydd yn defnyddio rhan ohono i helpu pobl sy’n diodde trawma - cyn-filwyr yn bennaf, ond eraill hefyd. Byddai’n ganolfan ar gyfer Cymru gyfan, yr unig un o’i bath.

Byddai defnydd felly yn gydnaws â’r bwriad gwreiddiol, a gellid cadw’r gofeb a’r rhestr enwau yn eu lle. Gobeithio y caiff y dymuniad ei wireddu.

RHYFEDD fel y gwrthodwyd darlledu hysbyseb heddwch Cymdeithas y Cymod ar S4C (gweler Bwrlwm Hydref). Mae’r hysbysebion recriwtio gan y Lluoedd Arfog i’w gweld yn aml iawn. Does dim sôn yn y rheini mai un o’r gofynion cyntaf ar filwr yw’r parodrwydd i ladd.

Gwarth hefyd yw’r ymarfer ar awyrennau dibeilot uwchben daear Cymru, yr unig fan yn Ewrop lle mae hynny’n digwydd! Aberporth yw canolfan y gweithgarwch hwn.

Rheolir y “drones” fel y’i gelwir, o gyfrifiaduron sydd ymhell o’r mannau lle gollyngant eu bomiau. Fe’u defnyddir yn Affganistan a Phacistan ar hyn o bryd. Y bwriad yw taro Al Quaeda a’r Taliban.

Mae llawer o bobl ddiniwed wedi eu lladd. A dyw’r strategaeth ddim yn gweithio yn ôl Imran Khan, y cricedwr a drodd yn wleidydd. Troi pobl i ochr y terfysgwyr maen nhw’n wneud, creu gelynion.

Ai Cymru fydd cartre Trident yn ogystal â’r drones yn y man? Dywedodd prif weinidog Cymru y byddai croeso i’r llongau tanfor niwcliar ym Mhenfro pe digwyddai i’r Alban annibynnol ddatgan na allant aros yno.

Pan fu sôn am sefydlu Academi Filwrol ym Mro Morgannwg dro nôl, doedd dim un blaid yn y Cynulliad yn gwrthwynebu. Croeso i chi o wledydd y byd ddod yma i Gymru i ddysgu rhyfel!

Diflannodd ein hasgwrn cefn. Toddodd ein hegwyddor. “Defnyddiwch ein tir ni a’n hawyr ni a’n moroedd ni i hyfforddi’r arfog, a chroeso i chi agor coleg ar ein daear i wneud hynny yn fwy effeithiol.”

Ai unig feddwl y gwleidydd yw bod yn boblogaidd? Cysgu wnaeth disgyblion Iesu yng Ngethsemane pan oedd eu hangen fwya ar y Meistr. Ai dyna hanes ei ddisgyblion yng Nghymru heddiw?

Beth ddywedai Waldo, Valentine, George M Ll Davies a Henry Richard amdanom?

“Gwyn eu byd tu hwnt i glyw,

Tangnefeddwyr, plant i Dduw”.

SUL Y CROESO MAWR

MYFYRDOD Y PARCH DEWI MYRDDIN HUGHES

O BWRLWM (rhifyn Hydref 2012)

UN o’r pethau diwethaf wnaeth Iesu oedd rhoi gorchymyn i’w ddisgyblion i ledaenu’r neges amdano drwy’r byd. “Ewch a phregethwch yr efengyl i bawb.”

            Aed â’r efengyl i China, India, Madagascar a mannau pell eraill, yn ddewr ac yn gostus. Ond wnaethon ni ddim wastad ddeall ein bod i rannu’r efengyl â phobl ein hardal ein hunain hefyd.

  Mae yn agos i 4,000 o daflenni wedi  cael eu rhannu gennym yng Nghlydach ac Ynystawe. Dim ond eu taro drwy’r drws, mae hynny’n ddigon hawdd, ond yn dweud rhywbeth amdanom – mae gennym yr hyder i wneud hynny. Ac mae yn agos i 30 o aelodau wedi bod wrthi!

Cyhuddwyd un ohonom o fod yn Dyst Jehofa! Beth yw’r gwahaniaeth tybed? Wel, maen nhw wrth gwrs yn curo wrth y drws. Maen nhw hefyd yn cynnig ateb pendant. Gallant egluro union ystyr rhyw adnod (ddieithr yn aml). “Dyma’r gwir i chi. Os na allwch ei dderbyn mae ar ben arnoch.”

Ry’n ninnau hefyd yn gwybod yr ateb. Iesu yw’r drws at y Tad. Rydym yn sicr o hynny.

Fynnwn ni ddim lliwio’r darlun i gyd chwaith ... Pan holodd Pedr ei frawd Andreas sut un yw’r Meseia ’ma rwyt wedi’i gyfarfod, ei ateb oedd, “Tyrd i’w weld.” Fy unig dasg i yw mynd â thi at Iesu, rhaid i ti wedyn ymateb yn bersonol iddo fe.

Mae’r daflen yn sôn taw pobl ar daith ydym ni, rhai sy’n dal i chwilio, yn dal i ddysgu, yn dal i ddarganfod.  Dewch atom i’r oedfa, a gobeithio y gwnewch chi gwrdd â Iesu. (Sul y Croeso Mawr, Hydref 7, 10.30)

Rwy’n hoff o ddarllen Hans Küng, y diwinydd Catholig sydd wedi ei wahardd rhag dysgu gan y Fatican. Meddai, “Mae gwir Gristion nid yn unig yn berson da, gyda bwriadau cywir, mae’n un y mae Iesu Grist yn air diwethaf iddo/iddi, yn un y mae Iesu – nid Cesar, nac unrhyw dduw arall, nid arian, rhyw, grym na phleser – yn Arglwydd iddo/iddi.”

Byddai llawer ohonom am ddweud mwy na hynny, ond dyna ddechrau digon da fyth.

Wedi rhannu’r daflen i bob cartre, cawn gyfle hefyd i rannu carden ‘Y Croeso Mawr,’ ei rhoi yn llaw ffrind a chydnabod ac estyn croeso personol cynnes.

Mae darnau jig-so yn rhan o’r pecyn. Mae dy angen di. Mae lle i ti. Hebot ti dyw’r darlun ddim yn gyfan.

Gweddïwn am fendith.

MYFYRDOD DEWI MYRDDIN HUGHES O 'BWRLWM' MEDI

"Pererin wyf mewn anial dir
Yn crwydro yma a thraw ..."

M AE’R darlun yn cyfleu taith unig rhywun ar ei ben ei hunan. Person unig ydy “Cristion” yng nghlasur John Bunyan, Taith y Pererin.

Mae’r pwynt yn un da. Nid yng nghysgod rhywun arall y byddwn yn sefyll o flaen Duw. Ni sy’n gyfrifol am ein bywydau ein hunain. Gallwn dderbyn cyngor neu ddilyn y dyrfa, ond ni ein hunain sy’n gyfrifol, all neb ateb trosom.

Roedd mynd ar bererindod yn bwysig iawn i Gristnogion ledled Ewrop yn yr Oesoedd Canol. Yr uchelgais fawr oedd cael mynd i Rufain. Ychydig iawn oedd yn llwyddo i gyrraedd yno wrth gwrs. Yng Nghymru bernid fod mynd i Dyddewi deirgwaith gystal â mynd i Rufain unwaith. Roedd mannau cysegredig eraill yn denu pererindotwyr hefyd. Gobaith rhai oedd marw ar Ynys Enlli: dyna pam bod sôn am ugain mil o saint wedi eu claddu yno. Gallwn ddychmygu pobl yn y dyddiau hynny yn cychwyn ar eu pererindod ar eu pennau eu hunain, ond yn cael eu bod mewn cwmni eitha niferus cyn cyrraedd pen y daith.

Mae hanes am Iesu yn mynd ar bererindod. Yn ddeuddeg oed aeth gyda’i deulu a thyrfa o bobl Nasareth i Jerusalem ar gyfer yr ŵyl. Byddai’n daith hir ac angen gwersylla ar y ffordd. Meddyliwch am y cynnwrf a’r edrych ymlaen wrth baratoi! Mae’n  rhaid bod lot o hwyl ar y teithiau hynny.

Mynd gyda’n gilydd wnaethon ninnau ar ein pererindod.

Cawsom hwyl, a lles i’n henaid.

Buom yn Llanddewi Brefi lle bu addoli Cristnogol ers mil a hanner o flynyddoedd. Buom yn Llangeitho, lle bu’r miloedd yn tyrru i wrando ar Daniel Rowland yn pregethu adeg y Diwygiad Mawr.

Da hefyd oedd ymweld ag Ystrad Fflur, a gweld yr ywen y dywedir i Dafydd ap Gwilym gael ei gladdu dani. Roedd rhyw dangnefedd arbennig i’w synhwyro yno. Roedd y tawelwch yn iachus i’r ysbryd. Roedd angen cryn ddychymyg i gamu nôl i’r Oesoedd Canol a blasu’r bwrlwm oedd yno ymhlith y mynachod a’r tywysogion.

Yn yr unigeddau y mae Ystrad Fflur heddiw, ac ar y cyrion, ond roedd am ganrifoedd yn ganolfan diwylliant a dysg a ffydd. Roedd cael cipolwg ar y byd hwnnw yn falm i’r enaid.

Diolch am gael mynd gyda’n gilydd i’r llefydd hyn, mannau sy’n gysegredig i ni, i werthfawrogi ein hetifeddiaeth a dyfnhau ein ffydd.                                                                Cofion, Dewi

MYFYRDOD DEWI O 'BWRLWM' GORFFENNAF / AWST

“Nid yw’r sawl a osododd ei law ar yr aradr, ac sy’n edrych yn ôl,

yn addas i deyrnas Dduw.”

  Mae’n anodd ein cael ni i edrych ymlaen, i freuddwydio, i wneud cynlluniau. Rydym yn ymddwyn yn aml fel petai gafael y gorffennol arnom yn ein llethu.

Oes, mae gennym bethau gwych iawn i’w cofio, yn hanes perthynas Duw â’i bobl ar hyd y canrifoedd, yn arbennig ei gariad, sydd mor glir ar Galfaria - “ gwnewch hyn i gofio amdanaf.”

Ond beth am heddiw? Heddiw mae’n cyfle ni. Dim ond heddiw y gallwn ni fod yn ffyddlon i Dduw. Mae ddoe wedi mynd, allwn ni mo’i newid, a dyn’ ni ddim yn siwr o yfory. Ond heddiw, gallwn fynd i gysgu neu gallwn weithredu.

Un ffordd syml o wneud hynny yw estyn croeso i bobl yr ardal ymuno â ni. Mae’n werth siarad â ffrindiau a chymdogion ac estyn gwahoddiad iddyn nhw. Ac mae gennym daflen i’w rhannu. Mae’n lliwgar ac yn ddeniadol.

Gan ein bod yn byw mewn ardal ddwyieithog, braf yw medru cynhyrchu taflen ar y cyd â’n partneriaid Methodistaidd. Ydych chi ar gael i fod yn rhan o’r tîm fydd yn dosbarthu’r daflen i bob cartre yng Nghlydach? Gobeithiwn wneud hynny ym mis Medi.

Pam estyn gwahoddiad i bobl ymuno â ni?

1. Cafodd pob disgybl orchymyn gan Iesu ei hunan i ledaenu’r neges. Anffyddlondeb yw peidio. Dyma un ffordd i gymryd y gorchymyn hwnnw o ddifri.

2. Am y credwn y cawn ni ein hunain ein cyfoethogi wrth i eraill ymuno â ni.

3. Mae’r efengyl mor bwysig i ni, byddai ein bywyd mor wag hebddi, rydym am i eraill gael eu cyfoethogi ganddi.

Dyw hi ddim yn hawdd i eraill ddod atom. Falle na fuon nhw mewn capel ers blynyddau, os erioed. Wyddan nhw ddim beth sy’r ochr arall i’r drws, ble mae eistedd, pryd mae sefyll.

Mae rhagfarn yn atal rhai. Mae ganddynt ddarlun ohonom nad yw’n un braf. Mae’r cwbl yn ddiarth iddyn nhw, ac o bosib yn amherthnasol.

Ac eto, mae peth tystiolaeth fod mwy o barodrwydd i ystyried mynd i’r cwrdd heddiw nag ers llawer dydd. Cofiwn hefyd bod yr elfen ysbrydol yn rhan o bawb ohonom. Does neb yn gyflawn heb berthynas â Duw.

Dewch i ni weddïo am lwyddiant i’r ymgyrch, ac ymroi i ddosbarthu’r daflen yn frwd.

Cofion, Dewi

NEWYDDION DA YW'R EFENGYL! EIN BRAINT YW DATHLU - IE, YMA!

MYFYRDOD GAN Y PARCH DEWI MYRDDIN HUGHES, ARWEINYDD CAPEL Y NANT - O 'BWRLWM', CYLGHRAWN MISOL YR EGLWYS, RHIFYN MEHEFIN

MAE nifer o’n haelodau ymhlith dilynwyr mwya brwd yr Elyrch. Tybed faint ohonynt oedd wedi’u gwisgo fel Elvis ar gyfer gêm ola’r tymor?

Awgrymwyd bod cefnogwyr yn gwneud hynny er mwyn gwneud sbort am ben newyddiadurwyr oedd wedi proffwydo cyn y dechre bod gan Abertawe gystal  siawns i aros yn yr Uwchgynghrair ddiwedd y tymor ag oedd ganddynt i gael hyd i Elvis.

Llwyddwyd yn gyfforddus i oroesi. Cyflawnwyd campau drwy guro rhai o’r clybiau mwyaf, Arsenal, Lerpwl, a hyd yn oed y pencampwyr, Manchester City. Timau yw’r rhain bob un mae un o’u chwaraewyr wedi costio mwy na holl garfan Abertawe a’r stadiwm ei hun gyda’i gilydd.

Gall Dafydd guro Goliath o hyd!

Beth yw’r gyfrinach a beth sydd gennym ni yng Nghapel y Nant i’w ddysgu?

Mae pawb yn pentyrru clod ar Brendon Rodgers. Dyma seren o reolwr. Mae pobl arbennig  o ymroddgar yn arwain yng Nghapel y Nant. Gobeithio ein bod yn gwerthfawrogi’r tîm a’i waith.

Ddaw dim llwyddiant ar y cae nac yn y capel heb ymarfer a pharatoi a threfnu. Mae’r gwaith sy’n digwydd o’r golwg mor bwysig.

Mae’r chwaraewyr ym ymddwyn fel tîm, ac yn cynnal ei gilydd. Does dim pennau bach fan hyn, meddai Ashley Williams.

Dyna fel mae hi i fod yn yr eglwysi,  meddai’r Apostol: pob un yn rhan o gorff Crist, a neb yn bwysicach na’i gilydd.

Roedd brwdfrydedd amlwg wedi gafael ym mhawb. Credai Brendan yn y chwaraewyr. Credent hwythau yn ei gilydd a’u hunain. A chredai’r dilynwyr yn y tîm. Yn y gemau oddi cartre, fe’u clywid dro ar ô l tro yn canu yn uwch na’r dyrfa anferth o gefnogwyr cartre.

Mae brwdfrydedd a bwrlwm yn gwbl angenrheidiol yn yr eglwys hefyd.

Darllenais yn ddiweddar, “aeth ein crefydda yn fewnblyg ac amddiffynnol ac mae gennym obsesiwn afiach gyda methiant ac euogrwydd.”

 Mae hi ar ben arnom os na chofiwn mai newydd da yw’r efengyl. Ein braint yw dathlu’r efengyl yn frwd.

Dewi Myrddin Hughes

CRIST A GYFODODD YN WIR

MYFYRDOD GAN Y PARCH DEWI MYRDDIN HUGHES O  BWRLWM, CYLCHGRAWN CAPEL Y NANT, RHIFYN EBRILL 2012

Crist a gyfododd!

Rhown ddiolch am rodd y Pasg

      Na allwn ei hegluro’n llawn,

                 Sydd tu draw i’n deall, y tu hwnt i’n hymresymu.

Gwyddom am bwerau marwolaeth,

      Pwerau sy’n glynu wrthym,

      Pwerau sy’n ein gyrru oddi wrthyt ti, ac

Oddi wrth ein cymydog, ac

Oddi wrth ein hunan gorau.

Gwyddom am bwerau ofn a thrachwant a phryder,

A chreulondeb a phendantrwydd sicr.

Pwerau sy’n feistr corn arnom, ac yn ein difa.

Ac wedyn ... Ti ... ti yn y tywyllwch,

Ti ddydd Sadwrn,

Ti gyda’r wawr, heb dy ddiffodd,

Ti sy’n troi’r byd yn g â n.

Ti piau’r deyrnas ... nid marwolaeth sy’n teyrnasu,

Ti piau’r gallu ... collodd marwolaeth ei grym,

Ti piau’r gogoniant ... collodd marwolaeth y dydd.

Ti ... ti ... a rhown ddiolch

Am y newydd-deb na wnaethom ddim i’w greu,

Sy’n rhodd gras, sy’n fwy na’n gobeithion gorau.

Crist a gyfododd!

[Mae’r weddi hon yn tarddu o weddi gan Walter Brueggemann]

Myfyrdod Chwefror 2012 o Bwrlwm

Dathlu Gwyl Ddewi o ddifrif - trwy fynnu siarad Cymraeg

  AETH hanner canrif heibio ers i Saunders Lewis draddodi ei ddarlith enwog ‘Tynged yr Iaith’. Rhybuddiodd y byddai’r Gymraeg yn marw fel iaith lafar yn gynnar yn y ganrif hon oni bai bod chwyldro yn digwydd.

 O’r ddarlith y deilliodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a thrwy ei phrocio hi enillwyd statws swyddogol i’r iaith, a daeth mwy o bobl i fod yn browd ohoni.

Gwelwyd llawer o ennill tir. Mae cynnydd yn nifer y rhai sy’n medru siarad yr iath.  Sefydlwyd ysgolion Cymraeg drwy Gymru, a’r twf yn y de-ddwyrain yn syfrdanol, tair yng Nghasnewydd er enghraifft.

Mae hynny i gyd yn galonogol. Ond mae ochr arall i bethau, gwaetha’r modd.  Soniai’r Athro Hywel Teifi am yr iaith yn teneuo — gafael pobl ar yr iaith a’i geirfa yn llacio. Y gofid arall yw bod llawer sy’n medru’r iaith ddim yn ei defnyddio.

Mae pob math o resymau am hynny.  Rhai yn hanesyddol: ceisiwyd lladd y Gymraeg, a’i chysylltu â methiant. Rhai cyfoes hefyd: prin y gallwch agor eich llygaid na’ch clustiau heb fod Saesneg o’ch blaen, mae’n hollbresennol. Mae sefyllfaoedd lle byddech yn siarad Cymraeg yn brin i laweroedd.

O ran ei safle a’r agweddau sydd ati, mae’r iaith yn ddiogelach nag yr oedd hanner canrif yn ôl.  Y gofyn mawr erbyn hyn yw ei bod yn ennill ei lle yn ein calonnau fel ein bod yn ei defnyddio bob cyfle posib.

Y  gwir ydyw, gyda holl bwysau’r canrifoedd, dylai fod wedi hen farw.  Mae’n wyrth ei bod yn fyw.

Yr her i ni i gyd yw penderfynu a ydym am ei chadw.  A fyddai ei marwolaeth yn golled?

Mae iaith yn fwy na ffordd i gyfathrebu; mae’n rhan ohonoch. Un enghraifft o hynny yw ein bod ni yng Nghapel y Nant, er yn medru Saesneg, am siarad â Duw yn iaith ein calon.

Daeth y ffydd Gristnogol a’r iaith Gymraeg i fod yr un pryd yng Nghymru. O’r dechrau’n deg, dilladwyd y ffydd mewn gweddiau ac emynau a storiau Cymraeg. Mae’r cwpan ei hun, yn ogystal a’i gynnwys yn drysor.

Ydyn ni’n mynd i drosglwyddo’r trysor, neu ei chwalu’n deilchion fel na chaiff ein plant ei fwynhau? “Os lleddir y Gymraeg, fe’i lleddir yn nhŷ ei chyfeillion,” meddai Emrys ap Iwan.

A beth wnewch chi o ergyd ei gwestiwn? “Os byddwch anffyddlon i’ch gwlad a’ch iaith a’ch cenedl, pa fodd y gellir disgwyl i chwi fod yn ffyddlon i Dduw ac i’r ddynoliaeth?”

Mae’n werth dathlu G ŵ yl Ddewi, mewn ffordd sy’n para ac sy’n fwy na sentiment.

Dewi Myrddin Hughes

MYFYRDOD CHWEFROR 2012DEWCH I'R CWRS GRAWYS ELENI!

D

Y’N ni ddim wedi cymryd llawer o sylw o’r Grawys tan yn ddiweddar. Eglwyswyr a Chatholigion oedd yn ei gymryd o ddifri.  A ninnau falle yn falch nad oedd gofyn i ni ddiodde drwy beidio â bwyta siocled neu daffis neu ryw ddanteithion eraill am wythnosau cyn y Pasg, a diolch taw pobl capel oeddem!

Mae’r Grawys yn para  am chwe wythnos cyn y Pasg. Yn ystod y tymor, cofir am Iesu yn ymprydio yn yr anialwch adeg cael ei demtio gan Satan cyn dechre ar ei waith.

Dydd Mercher Lludw yw ei ddiwrnod cyntaf. Dyna pryd mae’r ymprydio i ddechre.  Er mwyn torri’r garw ceir Dydd Mawrth Ynyd yn syth o’i flaen, a gwledd o grempog/ffrois cyn yr hirlwm.

Buom ninnau yn ddigon ciwt i fanteisio ar y crempog ­­-  mwynhau’r siwgr ond gadael y moddion i eraill!!

Daeth y Grawys yn rhan o’n calendr ninnau gapelwyr erbyn hyn. Yma yng Nghlydach, fel mewn llawer ardal arall drwy Gymru, cawn fudd o ddilyn cwrs pump wythnos gyda’n gilydd, cyd-Gristnogion o wahanol enwadau.

‘Trosglwyddo’r Ffagl/ Handing on the Torch ydy’r penawd eleni.  Bydd cynnal  y Gemau Olympaidd yn Llundain yn esgor ar lu o themâu mewn llawer maes!.

Bydd pump o Gristnogion amlwg yn trafod y pwnc, ar bapur ac ar ddisg, a hynny yn ennyn trafodaeth  ymhlith y rhai ddaw ynghyd.

Cristnogaeth ydy’r mudiad mwyaf welodd y byd erioed. Mae’n dal i dyfu ar garlam, yn arbennig yn Asia (gan gynnwys Tsieina), Affrica a De America.

Ar yr un pryd mae Cristnogaeth ar drai yn y Gorllewin. Beth yw’r rhesymau am y gwahaniaeth? Beth mae’r dirywiad yn ei olygu i Gristnogion unigol, i eglwysi, ac i’n diwylliant a’n bywyd? A hynny mewn oes pan fod cymaint o grefyddau ac agweddau at fywyd ar gael.

Penawdau’r pum sesiwn eleni yw:

Gwlad Gristnogol? Cymdeithas seciwlar? Eglwys dan bwysau?

Credoau cystadleuol? Trosglwyddo’r ffagl.

Dau gyfeiriad o’r deunydd i roi tamed o flas i chi. Sonir am:

·   Woodbine Willie , caplan a enillodd y Groes Filitaraidd am ei ddewrder yn achub dynion yn Nhir  Neb yn 1917.  Byddai’n helpu’r milwyr ar faterion ysbrydol, ond nid geiriau yn unig oedd ganddo, byddai  hefyd yn rhannu Woodbines yn eu plith,

·   Eglwysi Mynegiant Newydd . Mae’r eglwysi newydd hyn yn cael eu ffurfio ar sail gwrando, gwasanaethu, gwneud disgyblion. Anelir at  helpu pobl nad ydynt yn aelodau o unrhyw eglwys.

Cynhelir y Cwrs ar y pum nos Fawrth, Chwefror 28, hyd y  Pasg, rhwng 7 a 8.30 o’r gloch.  Dyw’r lleoliadau ddim wedi eu trefnu eto.

Ymprydio neu beidio dros y Grawys, dewch i flasu gwledd Cwrs Efrog !                                            DEWI MYRDDIN HUGHES

MYFYRDOD RHAGFYR 2011

MAE amser i eni, ac amser i farw.

Amser i eni yw hwn.

Trown atat ti: Dduw ein bywyd,

Dduw ein tymhorau, Dduw ein gwyliau,

Dduw ein hamserau, Dduw ein dechreuadau.

Gwrando’n gweddi:

Dros y rheini ohonom sy’n rhy ddwfn mewn ufudd-dod,

gad inni gael ein geni i ryddid yr efengyl.

Dros y rheini ohonom sydd â’n bryd ar blesio’n hunain,

gad i ni gael ein geni i fod yn ddisgyblion gwell.

Dros y rheini ohonom sy’n rhy ddwfn mewn siniciaeth,

gad i ni gael ein geni i ddiniweidrwydd y Baban.

Dros y rheini ohonom sy’n rhy ddwfn mewn llwfrdra,

gad inni gael ein geni i herio grym ac awdurdod.

Dros y rheini ohonom sy’n glwm wrth euogrwydd,

gad i ni gael ein geni i faddeuant y Meseia.

Dros y rheini ohonom sy’n boddi mewn anobaith,

gad i ni gael ein geni i oleuni dy addewidion.

Dros y rheini ohonom sy’n rhy barod i reoli eraill,

gad i ni gael ein geni i her y groes.

Dros y rheini ohonom sy’n rhy flinedig

gad i ni gael ein geni i’r dechrau newydd sydd ynot ti.

Mentrwn weddïo y gallwn dderbyn y peth newydd sydd gennyt.

Nertha ni i dderbyn y newydd-deb rwyt yn ei gynnig,

I symud o’r groth gynnes i fwrlwm byw.

Mae amser i eni, mae yma nawr,

Clywn wewyr ac ochenaid dy fywyd newydd,

a gwybod bod y rhyfeddod i gyd, yn gyfangwbl, drosom ni,

Amen.                                                                                                  Dewi Myrddin Hughes

[Seiliedig ar waith Walter Bruggemann]

MYFYRDOD TACHWEDD 2011

Gwrandawn ar gri’r ceiswyr lloches

a’r plant sy’n gaeth

Gan y Parch Dewi Myrddin Hughes

Arweinydd Capel y Nant

“MAE rhywbeth bach yn poeni pawb” meddai’r gân. Daw pethau mawr hefyd ar ein traws o bryd i’w gilydd. Ond gwyddon ni yn y rhan hon o’r byd ein bod yn freintiedig iawn. Mae gennym ddigonedd o le i ddiolch.

Roeddem wedi edrych ymlaen at groesawu Ceiswyr Lloches i’n plith ddechrau’r mis yma. Ond am nad oedd drymwyr Affricanaidd a pherfformwyr eraill ar gael bu’n rhaid gohirio am y tro.

Bydd cyfle i gwrdd â rhai ceiswyr lloches am bryd o fwyd yn y neuadd Tachwedd 24. Os hoffech ddod, cysylltwch â Sheila.

Pobl sydd wedi gorfod ffoi o’u gwlad am nad yw’n ddiogel iddynt aros yno yw Ceiswyr Lloches. Maent wedi gadael popeth bron ar ôl, popeth ond eu hatgofion, a’r rheini yn aml yn rhy boenus i sôn amdanynt wrth neb.

Ffoi yma aton ni a gobeithio am gysgod a noddfa. I ganol tlodi y dônt, a’r croeso yn aml yn brin. Cânt eu gwawdio a’u herlid yn fynych.

  CEFAIS fy ysgwyd mewn darlith a thrafodaeth wythnos diwethaf. Jean-Robert Cadet oedd yn ymweld ag Abertawe.

Roedd yn blentyn o gaethwas yn Haiti rhwng 4 ac 16 oed. Bu’n ffodus iawn i gael ychydig bach bach o addysg.

Mae miloedd lawer o blant bach yn gaethweision yn y wlad. Maent yn byw gyda theulu, ond heb fod yn rhan ohono. Cysgant dan y ford, codi o flaen pawb a gwneud y gwaith brwnt i gyd. Cânt eu hanfon i gario dwr mewn caniau anferth. Danfonant blant y teulu i’r ysgol, a’u cario os taw dyna ddymuniad y rheini. Cânt eu cosbi yn aml gyda’r un math o chwip oedd gan feistri caethweision yn yr hen ddyddiau.

Pan oedd Jean-Robert tua 16 oed ymfudodd y teulu yr oedd yn gaeth iddynt i’r Unol Daleithiau, a mynd ag yntau i’w canlyn. Doedd ganddo ddim papurau, dim tystysgrif geni, dim enw ond Bobby, dim dyddiad penblwydd. Lluniwyd papurau ffug ar ei gyfer.

“Rwy’n cysegru fy mywyd,” meddai Jean-Robert, “i ymgyrchu am ryddid a pharch i’r plant hyn, dros 300,000 ohonynt, nes bod pob plentyn yn y wlad yn cael cyfle i fwynhau addysg a rhyddid.”

  DYCHMYGWCH fod yn geisiwr lloches yn Abertawe, a dim arian gennych, a phryder mawr am eich teulu, a’ch iechyd a’ch diogelwch eich hun. Dychmygwch fod yn Haiti yn ferch o gaethwas, 14 oed ddwedwn ni, heb neb, ac yn anllythrennog.

“O na bai fy mhen yn ddyfroedd, a’m llygaid yn ffynnon o ddagrau” (Jeremeia 9)

I wybod mwy, ewch at:  www.sharetawe.org.uk  a www.JeanRCadet.org                                      

                                         Dewi Myrddin Hughes

MYFYRDOD HYDREF 2011

Cri o'r galon wedi 9/11, y crwt bach a'r glowyr

Gan y Parch Dewi Myrddin Hughes

Arweinydd Capel y Nant

“ O’r dyfnderau y gwaeddais arnat, o Arglwydd.

Arglwydd clyw fy llef.”

Bu Medi eleni yn fis tywyll i ni, Arglwydd.

Gwelsom dyrau Efrog Newydd yn chwalfa unwaith eto,

a’r hen luniau yn ôl yn hunllef.

Ac o’n golwg ni, ddagrau chwerw’r miloedd yn eu galar.

Ac i beth? I ddim ond cynddeiriogi’r cryf a’r arfog;

a thywallt gwaed a dagrau yn Irac.

Cywilyddiwn, Dduw  tyner, o achos y trais a’r casineb yn ein calon,

a hwnnw’n achosi  cymaint o boen i gymaint o bobl.

Rydym yn stryglan i ddeall creulondeb  mor fawr.

Rydym ar goll hefyd wyneb yn wyneb â damweiniau ein Cwm.

Bachgen bach yn yr Alltwen,

dynion cryfion y lofa.

Pan waeddwn “Pam?”, ddaw dim yn ôl ond eco.

Fel  mamau a thadau’r  canrifoedd

holwn ninnau yr un hen gwestiwn, “Oes balm yn Gilead?”

Sut mae lleihau’r boen? Sut mae dechrau deall?

Dwyt ti’n dweud dim.  Does dim eglurhad , dim ond nos.

Ac yna, gweld y groes yn y gwyll,

a gweld  Iesu “wedi ei ddirmygu a’i wrthod,

yn wr clwyfedig a chyfarwydd â dolur.”

Allet ti, Dduw tosturi, ddim dod atom, atom yn iawn

heb rannu ein poen a’n tywyllwch.

Cyfarchwn di, Imanuel, y Duw sydd gyda ni,

“Y mae fy enaid yn disgwyl  wrth yr Arglwydd

Yn fwy nag y mae’r gwylwyr am y bore.”

Dewi Myrddin Hughes

Latest comments

28.09 | 11:17

Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d...