Colofn Fiona Gannon

Oedfa Bum-munud            Sul, Mai 17, 2020

‘Dagrau daionus’ - gan Robat Powell

Mewn dau fan yn unig mae’r Testament Newydd yn dweud bod Iesu’n llefain. Yn Efengyl Luc, pennod 19, darllenwn fod Iesu’n gweld Jerwsalem ac yn llefain am fod y ddinas a’i phobl wedi gwrthod ei neges o dangnefedd a chariad, ac am fod dinistr o’i blaen hi.

Mae’r digwyddiad arall yn y darn isod. Mae Lasarus, ffrind Iesu, newydd farw, ac mae ei chwiorydd Mair a Martha’n anfon am Iesu.  

Ioan, 11:31-36

31 Roedd pobl o Jwdea wedi bod gyda Mair yn y tŷ yn cydymdeimlo gyda hi. Pan welon nhw hi'n codi mor sydyn i fynd allan, dyma nhw'n mynd ar ei hôl gan feddwl ei bod hi'n mynd at y bedd i alaru.

32 Pan gyrhaeddodd Mair lle roedd Iesu, a'i weld, syrthiodd wrth ei draed a dweud, “Arglwydd, taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw.”

33 Wrth ei gweld hi'n wylofain yn uchel, a'r bobl o Jwdea oedd yno yn wylofain gyda hi, cynhyrfodd Iesu drwyddo ac roedd yn ddig. 34 Gofynnodd, “Ble dych chi wedi'i gladdu?”

“Tyrd i weld, Arglwydd,” medden nhw.

35 Roedd Iesu yn ei ddagrau.

36 “Edrychwch gymaint roedd yn ei garu e!” meddai'r bobl oedd yno ...

Mae’r hen ddelwedd o ‘Iesu tirion’ yn dwyllodrus. Yn y darn yma, er enghraifft, gwelwn Iesu’n dangos emosiynau cryf. Ond pam dylai fe deimlo ‘yn ddig’ wedi marwolaeth Lasarus? Un esboniad yw achos mai ‘wylofain’ mae’r bobl yno, hynny yw, yn galaru’n uchel, yn galaru’n ffurfiol yn ôl yr arfer Iddewig. Cred Iesu fod y ffydd Iddewig yn methu cyffwrdd go iawn â’r teulu yn eu dioddefaint.

Ond wedyn gwelwn fod Iesu ‘yn ei ddagrau.’ Ac mae’r teimlad dwys yma’n tarddu o’r gwir gariad sydd yn Iesu. Cariad naturiol at ffrind sy wedi marw, ond hefyd y cariad mawr at y ddynoliaeth, aton ni i gyd, y bydd Iesu’n ei ddangos hyd at farw ar y groes.

Yn ystod cyfnod Covid-19 ry’n ni i gyd yn clywed am bethau sy’n gwneud i rywun ‘gynhyrfu drwyddo.’ Pobol ddiniwed yn marw cyn eu hamser a fu’n llawn egni ac yn gymwynasgar yn eu cymunedau. Os bydd hyn yn peri i ni golli dagrau ddylen ni ddim teimlo cywilydd am hynny. Mae ein dagrau’n brawf o’n cydymdeimlad â phob un sy’n dioddef y dyddiau hyn.

Ond clywn am bethau hefyd a ddylai ein gwneud ‘yn ddig’, fel Iesu. Yn ddig am fod ein harweinwyr wedi methu paratoi ein hysbytai a’n cartrefi gofal ar gyfer Covid-19 er iddyn nhw weld pa mor ofnadwy roedd pethau’n dechrau mynd yn Tseina a’r Eidal. Darllenais fod 8,000 o gwmnioedd ym Mhrydain sy’n gallu cynhyrchu eitemau PPE, y gwisgoedd amddiffynnol, ac eto doedd neb yn gallu trefnu’r broses yn iawn!

Gallwn deimlo’n ddig hefyd am ymddygiad rhai pobl unigol. Fel y dyn â’r firws a boerodd ar Mrs Belly Mujinga, un o staff gorsaf Victoria yn Llundain. Bu hi farw o Covid-19 yn fuan wedyn. 

Er hyn oll, yng nghanol dagrau Iesu am Lasarus mae ei gariad. Ac yn yr hanes hwn daw bywyd yn ôl i Lasarus a’i deulu trwy rym y cariad hwnnw.

Yn yr argyfwng presennol hefyd mae ein dagrau ninnau yn brawf bod ein cariad yn fyw. Yng ngeiriau’r prifardd Dic Jones: ‘Ei dawn i wylo yw gwerth dynoliaeth.’ Ac fel Iesu, gallwn droi ein cariad yn weithred trwy gynnal ein gilydd - ar y ffôn a’r sgrin fach - a gallwn roi arian neu fwyd i gefnogi pawb sydd wrthi yn y rheng flaen.

Gweddïwn. Bydd gyda ni, O Dduw cariadus, ym mhob gofid ac amheuaeth. Na foed i ni fod yn swil o ddangos teimladau pan ddaw gofid i ni, gan fod rhyddhad i’w gael trwy ddagrau. A gwyddom trwy’r cyfan dy fod di yn gefn i ni, a bod cynhaliaeth o’n cwmpas yn y gwasanaethau proffesiynol a’r gymdogaeth. I ti bo ein diolch, O Dduw, am y cariad a’n gynhaliaeth hon. I ti bo’r diolch am ein gallu i wylo. Amen.

17. May, 2020

0

Latest comments

28.09 | 11:17

Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d...

19.09 | 09:07

Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy...

13.01 | 16:51

Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw...

08.01 | 15:43

Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!