OEDFAON BWRLWM YR EGLWYS Y FFRWD FACH MYFYRDODAU 2019 MAI '18 ... MAW '19 MYF '16 - '18 Fideo 'Ny Ako' Fideo Pererindod FIDEO PLYGAIN LLUNIAU 2008 - 2016 YMWELWYR CYSYLLTU Colofn Fiona Gannon Neges Diwrnod y Ddaear Go brin bod unrhyw fisoedd yn well nag Ebrill a Mai o safbwynt gweld y cread yn ei holl ogoniant, ac mae diwrnod y ddaear, sydd newydd fynd heibio ar Ebrill 22ain, yn gyfle gwych bob blwyddyn i dynnu sylw at bethau y gall pawb ohonon ni eu gwneud er lles yr amgylchedd. Fel mae Salm 24 yn datgan:              Yr ARGLWYDD piau'r ddaear a phopeth sydd ynddi; y byd, a phawb sy'n byw ynddo. ac rydyn ni’n stiwardiaid ar y greadigaeth, gyda chyfrifoldeb i ofalu amdani a’i throsglwyddo’n ddiogel i ddwylo cenedlaethau’r dyfodol. Ond fel rydyn ni’n boenus o ymwybodol, dyw’r ddynoliaeth ddim wedi bod yn stiwardiaid da, ac mae’r amgylchedd bellach mewn cyflwr argyfyngus.  Mae’r newid yn yr hinsawdd yn achosi tywydd eithafol sy’n peryglu bywyd mewn gwahanol rannau o’r byd, o’r llifogydd sy’n lladd cynifer mewn gwledydd fel Bangladesh i’r cyfnodau hir o sychder a’r tanau gwyllt sy’n dinistrio cynefin miliynau o bobl ac anifeiliaid mewn mannau fel Awstralia. Os na lwyddwn ni i haneru ein hallyriadau carbon erbyn diwedd y degawd nesaf, bydd y sefyllfa’n gwaethygu’n enbyd eto; yn wir, mae’r sefyllfa mor wael nes bod perygl i ni gael ein llethu gan euogrwydd a’n parlysu gan anobaith, fel ein bod yn methu â chyflawni’r pethau sydd o fewn ein cyrraedd, hyd yn oed.   Hanfod neges diwrnod y ddaear, felly, yw gweithredu lle gallwn ni, ac un cam pwysig i bawb ohonom yw ceisio arbed ynni lle bynnag y bo modd yn ein cartrefi. Os ydyn ni’n onest, falle byddwn ni ychydig yn fwy brwd dros wneud hynny nawr bod costau byw yn codi gymaint ...  Os nad ydych chi eisoes wedi rhoi cynnig ar hynny, beth am neilltuo awr i’r ddaear bob wythnos? Awr i’r ddaear, yn syml iawn, yw awr pan fyddwch chi’n diffodd popeth trydanol (heblaw hanfodion fel y rhewgell) ac yn difyrru eich hun heb ddefnyddio ynni. Buon ni’n gwneud hynny fel teulu ambell waith nôl yn yr hydref, a chael awr fach ddymunol dros ben yn chwarae gêmau bwrdd yng ngolau cannwyll. Mae neilltuo awr rywfaint yn haws yr adeg hon o’r flwyddyn, wrth gwrs, gan fod digon o olau naturiol. Felly beth amdani? Byddai’n braf gallu dweud ein bod ni yng Nghapel y Nant yn arloesi gyda’n gilydd yn y maes hwn, ac yn neilltuo awr yr wythnos i ofalu am y ddaear – os ewch ati, byddwn i wrth fy modd yn clywed beth rydych chi’n ei wneud, ac fe wna i rannu’r syniadau gorau yn rhifynnau nesaf Bwrlwm.                                                                                       0 Write a comment 30. Apr, 2022 Overview Share this page on Facebook

Latest comments 28.09 | 11:17 Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d... 19.09 | 09:07 Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy... 13.01 | 16:51 Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw... 08.01 | 15:43 Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!











Colofn Fiona Gannon Neges Diwrnod y Ddaear Go brin bod unrhyw fisoedd yn well nag Ebrill a Mai o safbwynt gweld y cread yn ei holl ogoniant, ac mae diwrnod y ddaear, sydd newydd fynd heibio ar Ebrill 22ain, yn gyfle gwych bob blwyddyn i dynnu sylw at bethau y gall pawb ohonon ni eu gwneud er lles yr amgylchedd. Fel mae Salm 24 yn datgan:              Yr ARGLWYDD piau'r ddaear a phopeth sydd ynddi; y byd, a phawb sy'n byw ynddo. ac rydyn ni’n stiwardiaid ar y greadigaeth, gyda chyfrifoldeb i ofalu amdani a’i throsglwyddo’n ddiogel i ddwylo cenedlaethau’r dyfodol. Ond fel rydyn ni’n boenus o ymwybodol, dyw’r ddynoliaeth ddim wedi bod yn stiwardiaid da, ac mae’r amgylchedd bellach mewn cyflwr argyfyngus.  Mae’r newid yn yr hinsawdd yn achosi tywydd eithafol sy’n peryglu bywyd mewn gwahanol rannau o’r byd, o’r llifogydd sy’n lladd cynifer mewn gwledydd fel Bangladesh i’r cyfnodau hir o sychder a’r tanau gwyllt sy’n dinistrio cynefin miliynau o bobl ac anifeiliaid mewn mannau fel Awstralia. Os na lwyddwn ni i haneru ein hallyriadau carbon erbyn diwedd y degawd nesaf, bydd y sefyllfa’n gwaethygu’n enbyd eto; yn wir, mae’r sefyllfa mor wael nes bod perygl i ni gael ein llethu gan euogrwydd a’n parlysu gan anobaith, fel ein bod yn methu â chyflawni’r pethau sydd o fewn ein cyrraedd, hyd yn oed.   Hanfod neges diwrnod y ddaear, felly, yw gweithredu lle gallwn ni, ac un cam pwysig i bawb ohonom yw ceisio arbed ynni lle bynnag y bo modd yn ein cartrefi. Os ydyn ni’n onest, falle byddwn ni ychydig yn fwy brwd dros wneud hynny nawr bod costau byw yn codi gymaint ...  Os nad ydych chi eisoes wedi rhoi cynnig ar hynny, beth am neilltuo awr i’r ddaear bob wythnos? Awr i’r ddaear, yn syml iawn, yw awr pan fyddwch chi’n diffodd popeth trydanol (heblaw hanfodion fel y rhewgell) ac yn difyrru eich hun heb ddefnyddio ynni. Buon ni’n gwneud hynny fel teulu ambell waith nôl yn yr hydref, a chael awr fach ddymunol dros ben yn chwarae gêmau bwrdd yng ngolau cannwyll. Mae neilltuo awr rywfaint yn haws yr adeg hon o’r flwyddyn, wrth gwrs, gan fod digon o olau naturiol. Felly beth amdani? Byddai’n braf gallu dweud ein bod ni yng Nghapel y Nant yn arloesi gyda’n gilydd yn y maes hwn, ac yn neilltuo awr yr wythnos i ofalu am y ddaear – os ewch ati, byddwn i wrth fy modd yn clywed beth rydych chi’n ei wneud, ac fe wna i rannu’r syniadau gorau yn rhifynnau nesaf Bwrlwm.                                                                                       0 Write a comment 30. Apr, 2022 Overview Share this page on Facebook