OEDFAON BWRLWM YR EGLWYS Y FFRWD FACH MYFYRDODAU 2019 MAI '18 ... MAW '19 MYF '16 - '18 Fideo 'Ny Ako' Fideo Pererindod FIDEO PLYGAIN LLUNIAU 2008 - 2016 YMWELWYR CYSYLLTU Colofn Fiona Gannon Wylwch gyda’r rhai sy’n wylo (Rhufeiniaid 12:15) Ydych chi’n rhywun sy’n llefen yn hawdd, ac yn cael eich hun yn teimlo’n ddagreuol mewn unrhyw sefyllfa emosiynol? Rhaid cyfaddef fy mod i! Mae hyd yn oed darllen am sefyllfa drist, heb sôn am ei gweld, yn ddigon i ddod â dagrau i’m llygaid. Ond serch hynny, fe wnaeth y galar cyhoeddus eithafol a welwyd yn dilyn marwolaeth y frenhines Elizabeth i mi deimlo braidd yn anesmwyth. Nid y ffaith bod pobl yn galaru fel y cyfryw oedd yn fy mhoeni – mae’n ddigon naturiol teimlo awydd i gydymdeimlo ag unrhyw deulu sydd wedi colli un o’u plith. Efallai hefyd bod rhai yn gweld marwolaeth y frenhines fel diwedd cyfnod, ac mae’n ddigon posib bod eraill yn teimlo fel petaen nhw’n ei hadnabod, fel sy’n aml yn digwydd gydag enwogion. Posibilrwydd arall yw eu bod, trwy fynegi eu galar yn gyhoeddus, yn llwyddo i ryddhau teimladau oedd wedi cronni yn dilyn profedigaeth bersonol, yn enwedig os collwyd rhywun annwyl yn ystod y cyfnod clo, pan nad oedd modd dilyn y patrymau galaru arferol. Mae galaru cyhoeddus, felly, yn ddigon naturiol, ac yn gallu bod yn therapiwtig mewn rhai achosion. Ond, os oedd y fath deimladau dwys yn cael eu mynegi ynghylch gwraig a oedd, wedi’r cyfan, wedi marw’n dawel gartref yn 96 oed, oni ddylen ni fod yn disgwyl gweld mynegiant o gydymdeimlad ac empathi sydd yr un mor ddwys yng nghyswllt ein brodyr a’n chwiorydd sydd mewn trallod ar draws y byd? Oni ddylai ein cariad a’n cydymdeimlad fod yn gorlifo at rai fel y trueiniaid ym Mhacistan sydd wedi colli popeth yn y llifogydd, y ffermwyr sydd wedi cyrraedd pen eu tennyn yn Affrica oherwydd y sychder mawr, a’r ffoaduriaid sy’n croesi’r môr mewn cychod bychain, yn barod i fentro popeth i geisio cyrraedd tir diogel? Os nad yw hynny i’w weld, ai cyflawni’r hyn ‘a ddisgwylir’ yn unig sy’n digwydd, a dilyn y dorf, gan fynegi emosiwn mwy arwynebol, yn hytrach nag o’r galon? Holed pawb ohonom ein hunain... “Rhaid i’ch cariad chi fod yn gariad go iawn – dim rhyw gariad arwynebol.” Rhufeiniaid 12:9 Fiona      0 Write a comment 30. Sep, 2022 Overview Share this page on Facebook

Latest comments 28.09 | 11:17 Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d... 19.09 | 09:07 Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy... 13.01 | 16:51 Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw... 08.01 | 15:43 Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!











Colofn Fiona Gannon Wylwch gyda’r rhai sy’n wylo (Rhufeiniaid 12:15) Ydych chi’n rhywun sy’n llefen yn hawdd, ac yn cael eich hun yn teimlo’n ddagreuol mewn unrhyw sefyllfa emosiynol? Rhaid cyfaddef fy mod i! Mae hyd yn oed darllen am sefyllfa drist, heb sôn am ei gweld, yn ddigon i ddod â dagrau i’m llygaid. Ond serch hynny, fe wnaeth y galar cyhoeddus eithafol a welwyd yn dilyn marwolaeth y frenhines Elizabeth i mi deimlo braidd yn anesmwyth. Nid y ffaith bod pobl yn galaru fel y cyfryw oedd yn fy mhoeni – mae’n ddigon naturiol teimlo awydd i gydymdeimlo ag unrhyw deulu sydd wedi colli un o’u plith. Efallai hefyd bod rhai yn gweld marwolaeth y frenhines fel diwedd cyfnod, ac mae’n ddigon posib bod eraill yn teimlo fel petaen nhw’n ei hadnabod, fel sy’n aml yn digwydd gydag enwogion. Posibilrwydd arall yw eu bod, trwy fynegi eu galar yn gyhoeddus, yn llwyddo i ryddhau teimladau oedd wedi cronni yn dilyn profedigaeth bersonol, yn enwedig os collwyd rhywun annwyl yn ystod y cyfnod clo, pan nad oedd modd dilyn y patrymau galaru arferol. Mae galaru cyhoeddus, felly, yn ddigon naturiol, ac yn gallu bod yn therapiwtig mewn rhai achosion. Ond, os oedd y fath deimladau dwys yn cael eu mynegi ynghylch gwraig a oedd, wedi’r cyfan, wedi marw’n dawel gartref yn 96 oed, oni ddylen ni fod yn disgwyl gweld mynegiant o gydymdeimlad ac empathi sydd yr un mor ddwys yng nghyswllt ein brodyr a’n chwiorydd sydd mewn trallod ar draws y byd? Oni ddylai ein cariad a’n cydymdeimlad fod yn gorlifo at rai fel y trueiniaid ym Mhacistan sydd wedi colli popeth yn y llifogydd, y ffermwyr sydd wedi cyrraedd pen eu tennyn yn Affrica oherwydd y sychder mawr, a’r ffoaduriaid sy’n croesi’r môr mewn cychod bychain, yn barod i fentro popeth i geisio cyrraedd tir diogel? Os nad yw hynny i’w weld, ai cyflawni’r hyn ‘a ddisgwylir’ yn unig sy’n digwydd, a dilyn y dorf, gan fynegi emosiwn mwy arwynebol, yn hytrach nag o’r galon? Holed pawb ohonom ein hunain... “Rhaid i’ch cariad chi fod yn gariad go iawn – dim rhyw gariad arwynebol.” Rhufeiniaid 12:9 Fiona      0 Write a comment 30. Sep, 2022 Overview Share this page on Facebook