MYFYRDODAU 'BWRLWM'

MYFYRDOD MAWRTH 2019

BYDD HANESWYR Y DYFODOL YN LLYM AR WLEIDYDDION AM GANIATAU I BREXIT DDIGWYDD - OS BYDD!

Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell, yn trafod y posibilrwydd y gall Prydain droi cefn ar 27 gwlad y cyfandir fel aelod o'r Undeb Ewropeaidd o ganlyniad i Brexit (Bwrlwm, rhifyn Mawrth 2019).

Mis Mawrth hanesyddol fydd y mis nesa yma.


Dyma’r mis ola y bydd pobol Cymru a Phrydain
yn ei dreulio fel aelodau o’r Undeb Ewropeaidd.


Ond efalle, na!

Dyma’r peth rhyfedda ym musnes Brecsit. Fwy na dwy flynedd a hanner ar ôl refferendwm 2016, does dim syniad gan neb beth ddigwyddiff.

Gallen ni adael yr UE ar Fawrth 29. Gyda chytundeb neu heb gytundeb.

Gallen ni ymestyn y dyddiad gadael am chwe mis neu fwy.

Gallai fod refferendwm arall, Pleidlais y Bobl. Gallen ni benderfynu aros yn yr UE o hyd.

Na, does dim syniad gan neb. Er bod dyfodol 65 miliwn o bobl Prydain yn y fantol.

Mae llawer yn meddwl taw mater economaidd yn unig yw
Brecsit. Ond mae’n llawer mwy na hynny.

Mae cannoedd o gwmnïau, prifysgolion a chymdeithasau ym Mhrydain yn perthyn i grwpiau ar draws yr UE. Daw’r cydweithio hwn i ben os byddwn yn gadael heb gytundeb, neu hyd yn oed gyda chytundeb.

Heb gytundeb, bydd awyren yn methu hedfan o Brydain i wlad yn yr UE. Byddwn yn methu anfon sbwriel i’w waredu yn yr EU, fel sy’n digwydd nawr. Methu anfon profion gwaed o’n hysbytai i’w dadansoddi yn yr UE.

Ac yn y blaen. A dim ond mis i fynd! Bydd haneswyr y dyfodol yn llym ar wleidyddion Prydain am adael i hyn ddigwydd.

Ond ym mis Mawrth hefyd rydym yn dathlu Dewi Sant. Ac, oes, mae angen cofio sant o’r chweched ganrif wrth i ni bendroni dros Brecsit.

Cymro oedd Dewi, ond roedd e hefyd yn Ewropead. Bu’n teithio ar y cyfandir yng Ngwlad y Ffranciaid a Llydaw, yn trafod gydag eglwyswyr yno. Yn sefydlu eglwysi. Mae sawl ‘Sant-Divi’ i’w gael yn Llydaw hyd heddiw.

Cristion oedd Dewi hefyd. Roedd e’n pregethu cariad Iesu at ein cymydog, y cariad sy’n cymodi rhwng gelynion.

Beth bynnag a ddigwydd yn hanes Brecsit, bydd drwgdeimlad at ‘yr ochr arall’ wedyn. Ond bydd rhaid i ni gyd-fyw o hyd. Bydd gofyn dangos cariad Cristnogol, er gwaethaf ein siom.

A Dewi Sant yw’r esiampl i ni oll.

[Gweler hefyd ddatganiad Pwyllgor Gwaith Capel y Nant am Brexit ar dudalen blaen y wefan hon.]

MYFYRDOD CHWEFROR 2019

Robert Powell - Arweinydd Capel y Nant

MAE EIN POBOL IFANC YN WERTH Y BYD!

Yn ei golofn, 'Y Gair Ola...', yn rhifyn Chwefror o 'Bwrlwm' - taflen fisol Capel y Nant - mae Arweinydd yr Eglwys, Robat Powell, yn dweud bod pobl ifanc 'yn haeddu cydymdeimlad - nid stwr!'

Darllenais adroddiad brawychus yn ddiweddar. Ym Mhrifysgol Bryste, ers Hydref 2016, mae 12 o’r myfyrwyr wedi lladd eu hunain. Pobol ifanc, alluog. Pobol â bywyd llwyddiannus o’u blaen, tebyg iawn. Felly, pam yn y byd maen nhw’n ...?
Rhaid bod yn ofalus. Mae ambell gwest yn digwydd nawr i rai o’r
marwolaethau. Ond mae rhai o’r rhieni wedi sôn am y pwysau ar eu plant.
Arholiadau, asesiadau, y pwysau i berfformio.
Mae’n hawdd i bobol hŷn wfftio’r problemau a’r pwysau hyn. Mor hawdd cyfarth wrth yr ifanc, ‘Teimlo’n isel? Wel, siapa hi! Sorta dy hunan mas!’
Ond mae pwysau ar yr ifanc heddiw nad oedd byth arnon ni’r rhai hŷn.
Roedd rhaid i ni sefyll arholiadau. Ond yn yr ysgol heddiw mae arholiadau TGAU a Safon Uwch yn digwydd yn barhaus. Profion modiwl bob tymor am ryw bedair blynedd!
Problem newydd arall yw’r cyfryngau cymdeithasol - y ffôn symudol,
Snapchat, Instagram a’r lleill. Gallwch fwlio rhywun heb fynd yn agos atyn nhw! Pan oeddwn i’n ifanc gallai rhywun ddweud pethau sbeitlyd amdanaf i yn fy nghefn, a dau neu dri yn clywed. Os bydd person heddiw’n hala geiriau cas trwy ffôn symudol caiff cannoedd eu darllen nhw!
Ac yna – delwedd, yr image! Wrth gwrs, roeddwn i yn fy amser eisie edrych fel un o’r Beatles a bod mor cŵl â Dustin Hoffman. Ond mae’r pwysau heddiw ymhob man, ddydd a nos, i edrych yn berffaith, gwisgo’r dillad perffaith, a chael y cariad perffaith. Os methwch chi, bydd pawb yn chwerthin am eich pen ar y cyfryngau cymdeithasol!
Mae’r ffactorau hyn yn gallu achosi sawl math o ofid meddwl. Yn wir,
salwch meddwl yw un o ddrygau mawr ein hoes. Mae angen mwy o arian i ddeall a thrin yr afiechydon hyn.
Ond gallwn i gyd helpu i leddfu’r gofid. Trwy geisio deall pobol ifanc a’u byd, nid coethan amdanyn nhw. Trwy rannu gair â nhw i godi calon. Trwy ddangos cydymdeimlad. Oherwydd mae ein pobol ifanc yn werth y byd.

MYFYRDOD RHAGFYR 2018 / IONAWR 2019

BEIO'R LLYWODRAETH GEIDWADOL AM 'GAU LLYGAID' I DLODI

Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell, yn edrych ar adroddiad 'damniol' gan arolygwr y Cenhedloedd Unedig sy'n beio Llywodraeth Geidwadol Theresa May o 'gau eu llygaid' i gynnydd tlodi er cyfoeth y Deyrnas Gyfunol (o Bwrlwm, Rhagfyr / Ionawr, 2018 / 2019) ...

Does neb yn hoffi gweld yr arolygwyr yn cyrraedd! Arolygwyr yn yr ysgol neu yn yr ysbyty. A doedd llywodraeth Teresa May ddim yn hapus pan ddaeth arolygwr y Cenhedloedd Unedig i Brydain ym mis Tachwedd i edrych ar dlodi yma.

Bu’r Athro Philip Alston yn siarad â chynghorau lleol, staff y llywodraethau, ac unigolion ar draws Prydain. Bydd e’n rhoi adroddiad 24-tudalen i Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. Ac mae ei adroddiad yn ddamniol!


Mae un o bob pump o’r boblogaeth yn byw mewn tlodi, 14 miliwn ohonon ni. Mae 1.4 miliwn yn ‘destitute’, h.y., yn methu fforddio hyd yn oed pethau angenrheidiol fel bwyd syml a gwres yn y cartref. Mae Alston yn barnu y bydd 40% o blant Prydain yn byw mewn tlodi erbyn 2022.


Mae hyn yn digwydd, medd Alston, yn y wlad sydd â’r bumed economi fwyaf yn y byd! Y broblem yw bod cyfoeth Prydain yn cael ei rannu mor annheg. Mae rhai’n ennill miliynau bob blwyddyn tra mae eraill heb waith a heb damed o fwyd yn y cwpwrdd.


Yn ddiddorol, mae’r Athro Alston yn meddwl taw ‘penderfyniadau politicaidd’ sy’n achosi’r cyni mawr. Penderfyniadau Llywodraeth Llundain ers 2010 i dorri gwario cyhoeddus ac i gyflwyno’r budd-dal cymhwysol (universal benefit) yw’r prif resymau.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn atal budd-daliadau pobol sâl ac anabl sy’n
methu gweithio. Ac mae Alston yn drist bod y Llywodraeth ‘yn cau eu llygaid’ i’r problemau maen nhw’n achosi.


Yn sicr, dyw’r 14 miliwn o dlodion ddim yn edrych ymlaen at y Nadolig. Bydd eu plant yn gofyn am anrhegion na all eu rhieni mo’u fforddio.


Eto i gyd, mae’r Nadolig yn dod â gobaith i bawb, y cyfoethog a’r tlawd.
Oherwydd mae’r Ŵyl yn dod â chariad a thrugaredd i’r byd trwy eni Iesu Grist.

Yn y Nadolig mae’r grym i agor llygaid pobol i’r cyni o’n cwmpas. Y grym i ddeffro pobol ddideimlad i weld angen rhai difreintiedig fel y Bugeiliaid. I weld angen y rhai sy’n ffoi yma rhag gormes, neu sy’n ddigartref.

Oherwydd ffoaduriaid digartref oedd Joseph, Mair ac Iesu hefyd wedi’r Nadolig cyntaf hwnnw.

Trwy’n Nadolig daw’r cariad nerthol sy’n gallu newid y byd. Dathlwn yr Ŵyl gyda’n gilydd eto yn yr ysbryd hwn!

Nadolig Llawen i chi i gyd, Robat

MYFYRDOD TACHWEDD 2018

ANGEN I WLEDYDD GYD-YMDRECHU I GADW'R HEDDWCH

Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell, yn edrych yn ol ar y Rhyfel Mawr yn rhifyn Tachwedd 'Bwrlwm', wrth i ni gofio am y chwalfa erchyll effeithiodd ar gymaint o deuluoedd a gwledydd ...

Dydd y Cofio yw 11 Tachwedd. Cofio am y miliynau a gafodd eu lladd a’u clwyfo mewn dau ryfel byd a sawl rhyfel arall.

Ond mae pobol yn cofio mewn gwahanol ffyrdd. Mae Prydain bob amser yn gwneud sbloet fawr o’r Cofio gyda seremonïau a gorymdeithiau. Dyw rhai gwledydd ddim yn trafferthu i gofio 11 Tachwedd o gwbl. Gwell ganddyn nhw anghofio.


I rai, dyma gyfle i gofio ein bod ‘ni’ wedi ennill y ddau Ryfel Byd. Cyfle i frolio am beth wnaeth ein lluoedd arfog – a gofyn am gefnogaeth iddyn nhw heddiw. Maen nhw’n dewis anghofio bod gwledydd eraill wedi ymladd ar ochr Prydain yn y rhyfeloedd hyn.


Eleni mae 100 mlynedd oddi ar diwedd y Rhyfel Mawr yn 1918. Mae’n naturiol y bydd mwy o’r cofio eleni. Bydd llawer o siarad am y Fuddugoliaeth Fawr yn 1918. Ond y gwir yw nad oes neb yn ennill mewn rhyfel.

Yn ystod 1914-18 lladdwyd ychydig dros filiwn o bobol gwledydd Prydain a’r Gymanwlad. Roedd yn rhaid i ddwy filiwn yn rhagor ddioddef eu clwyfau am weddill eu hoes. Tair miliwn o gartrefi’n galaru.

Lladdwyd mwy byth o bobl mewn gwledydd eraill fel Rwsia, yr Almaen,
Awstria-Hwngari a Ffrainc.

Oedd, roedd buddugoliaeth i rai pobol. Yn 1919 roedd y Brenin Siôr V ar ei orsedd o hyd tra oedd y Kaiser ac Ymerawdwr Awstria-Hwngari wedi colli eu swyddi.

Ond y fuddugoliaeth go iawn i bawb fuasai osgoi ymladd o gwbl.


Mae cofio dioddefaint pobol gyffredin mewn rhyfel yn bwysig. Mae’n bwysig astudio pam fod ymladd yn digwydd. Ond dyw hynny ddim yn ddigon. Rhaid i’r cofio gynnwys penderfyniad i weithio dros heddwch. Heb hynny bydd trais ac ymladd yn parhau.


Un ffordd ymlaen yw cael gwledydd ac arweinwyr y byd i gydweithio mwy. Mae newid hinsawdd, er enghraifft, yn bygwth pob gwlad. Dyma un maes i greu mwy o gydweithio. Trueni mawr, felly, fod America Donald Trump yn tynnu mas o gytundebau rhyngwladol o bob math. Ond rhaid dal i ymdrechu.


Ond yn y pen draw mae’n rhaid newid meddyliau pobol y byd. Nid bod yn gryfach na’ch cymdogion sy’n bwysig, ond cydweithio gyda nhw. Nid casáu y rhai sy’n wahanol i chi, ond ceisio eu deall a’u caru nhw. Nid ecsbloetio’r rhai gwan, ond cael cyfiawnder iddyn nhw.


Onid dyna oedd neges Iesu Grist?

ROBOTIAID YN HER AT Y DYFODOL - OND DAW SWYDDI NEWYDD

Yn rhifyn mis Medi Bwrlwm, trodd Robat Powel, Arweinydd Capel y Nant, ei sylw at ddatblygiad cyflym robotiaid a systemau otomatig a'r effaith maen nhw'n debyg i gael ar ddynolryw. Ond er y rhybuddion, mae gobaith ...

Bues i yn siop Tesco wythnos yn ôl. Pan oeddwn i am dalu gwelais bawb yn sefyll wrth y peiriannau talu.

Roedd un ferch yn eistedd wrth y til – heb gwsmer. Tales i am y nwyddau wrth y til a chael sgwrs gyda’r ferch. ‘Fydd dim gwaith o gwbl gyda fi cyn hir,’ meddai hi. ‘Bydd rhaid i bawb dalu wrth y peiriannau.’


Dyna’r byd sy’ o’n blaen. Y peiriant a’r robot yn gwneud gwaith roedd pobol yn arfer ei wneud. Mae’n digwydd nawr. Yn Tesco, yn y banc, yn y ffatri. Mae disgwyl i ni wneud mwy a mwy o bethau ar-lein, heb siarad â neb.

Yn ddiweddar dywedodd Andy Haldane, prif economegydd Banc Lloegr, y gallai 15 miliwn o swyddi ym Mhrydain ddiflannu oherwydd awtomeiddio. Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, gall 800 miliwn o swyddi drwy’r byd ddiflannu erbyn 2030. Bydd y robot yn frenin. A fydd gwaith i’n hwyrion ni?


Ond mae pobol wedi ofni technoleg newydd erioed. Yn y 1780au a’r 1790au roedd gweithwyr mewn ffatrïoedd nyddu gwlân yn torri’r peiriannau newydd oedd yn dod i’r ffatrïoedd. Dyna’r Luddites, yn ofni byddai’r peiriant yn dwgyd eu gwaith. Ond roedd digon o waith i bobol ar ôl hynny hefyd.


Mae pob technoleg newydd yn dileu rhai mathau o waith. Ond mae hi hefyd yn creu mathau newydd o waith. Roedd ofn y byddai’r cyfrifiadur yn cael gwared o swyddi. Digwyddodd hynny, ond mae miliynau nawr yn gweithio yn y diwydiant IT newydd.


Mae rhai gwyddonwyr yn brolio y byddan nhw’n gallu creu robotiaid fydd yn siarad, yn meddwl ac yn rhesymu fel pobol. Maen nhw’n credu byddan nhw’n creu math newydd o fywyd! Dyn yn greawdwr ochr-yn-ochr â Duw.


Ond bydd un fantais gan bobol bob amser. Mae gan bobol emosiynau a
theimladau. Gallwn gydymdeimlo â rhywun sy’ mewn gofid, llawenhau gyda rhywun sy’n llwyddo. Pwy hoffech chi weld yn rhoi bwyd i chi pan fyddwch yn sâl mewn ysbyty – robot, neu nyrs â gwên?


Dyna beth yw cyfrinach bywyd. Y gallu i gysylltu’n emosiynol â rhywun arall. Teimlo’r angen i helpu a chynnal.

A dyna hanfod ein Ffydd Gristnogol hefyd. Rwy’n amau a fydd robot byth yn gweinyddu’r Cymun i ni yng Nghapel y Nant!

Pob hwyl, Robat

Ditectif teledu yn codi problem foesol i ni gyd

Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell, yn canmol cyfres dditectif Swedaidd 'The Bridge' ar BBC4 - sy'n rhybuddio nad yw dweud y gwir yn ddoeth bob amser (o Bwrlwm mis Mehefin) ...

'Dylech chi ddweud y gwir bob amser.’ Dyna beth mae athrawon a rhieni yn dweud wrth ein plant. Ond weithiau – efallai – ddylech chi ddim dweud y gwir!


Dyna’r dilemma sy’n rhan o’r gyfres dditectif ‘The Bridge’ sydd newydd orffen ar sianel BBC4.

Mae’r gyfres yn Swedeg a Daneg gydag is-deitlau Saesneg. Ac mae’n un o’r cyfresi gorau dw i erioed wedi’i gweld!


Mae’r broblem gyda dweud y gwir yn codi yn un o’r prif gymeriadau, y ditectif Saga Noren o Sweden. Mae gan Saga Syndrôm Asperger. Mae hi’n gallu canolbwyntio ar ei gwaith yn fanwl, yn meddwl yn rhesymegol ac yn dreiddgar. Mae hi’n dditectif ardderchog.

Yn anffodus, mae Saga’n methu creu perthynas gyda phobol eraill. Oherwydd ei meddwl rhesymegol, mae’n rhaid iddi ddweud y gwir bob tro! Mae hi’n deall popeth a ddywedir fel y gwir hefyd. Mae eironi a sylwadau ‘tafod-mewn-boch’ tu hwnt iddi.


Ar adegau, mae hyn yn ddoniol. Pan fydd heddwas arall yn gofyn sut mae hi’n hoffi ei siaced newydd mae Saga’n ateb ‘Mae’n ofnadwy!’, ac yn pechu ffrind.

Pan mae dyn yn gofyn iddi beth yw ei barn am faban bach y teulu, mae hi’n ateb: ‘Mae’n bert. Ond nid chi yw tad y babi!’ Dyna’r gwirionedd. Ond mae’r sylw yn chwalu perthynas y tad a’r fam. Mae rhai pobol yn ceisio helpu Saga. I fod yn garedig wrth bobol, meddan nhw, rhaid dweud celwydd ambell waith.

Prif blot ‘The Bridge’ yw dod o hyd i’r llofrudd. Ond mae brwydr bersonol Saga i ddatblygu fel person ‘normal’ yn is-blot pwysig hefyd. Mae perfformiad yr actores Sofia Helin yn bwerus iawn.


Mae’r ‘Bridge’ ar gael ar I-Player y BBC. Os cewch gyfle, edrychwch arni!


Mae problem Saga Noren yn broblem foesol i ni hefyd. Beth sy’n bwysicach – bod yn garedig wrth rywun trwy ddweud celwydd, neu ddweud y gwir cas wrthyn nhw, a’u brifo?


Does dim rheol syml. Weithiau, tebyg iawn, mae angen bod yn garedig - ac yn ddiplomataidd. Weithiau mae angen siarad yn blaen – ac ypseto rhywun. Y gamp yw deall pryd i ddweud beth.


A dyna rywbeth i ni feddwl amdano dros yr haf!
Gwyliau braf i chi i gyd!

Pob hwyl - Robat

Profiad newydd, a gorfod meddwl o'r newydd!

Roedd cwrdd a chefnogwyr mawr i Donald Trump yn brofiad oedd wedi gwneud daioni iddo, medd Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell pan oedd ar ei wyliau ym Mhortiwgal. Yn mwynhau ymweld a'r wlad honno gyda chriw o Abertawe oedd Robat pan gafodd ei syfrdannu un amser brecwast pan holodd teithwyr o America beth oedd barn am eu harlywydd.

‘Mae teithio’n ehangu’r meddwl.’ Dyna’r hen ddywediad. Gweld llefydd newydd, cael profiadau newydd. Dysgu deall pethau o berspectif arall.

Dyna ein profiad ni ar ein gwyliau ym Mhortiwgal ym mis Mai. Adnabod gwlad wahanol a gweld sut mae hi’n datblygu. Ond cawson ni un profiad heb gysylltiad â Phortiwgal o gwbl.

Amser brecwast yn y gwesty yn Porto oedd hi. Eistedd wrth ochr gŵr a gwraig o America a dechrau sgwrsio’n gyfeillgar. Yna gofynnon ni beth oedd eu barn am Donald Trump. Os do fe!

Yn eu barn nhw, Trump oedd y peth gorau sydd erioed wedi digwydd i America! Mae e’n rhoi gwaith i bawb. Mae e’n rhoi stop ar y bobl sy’n sleifio i’r wlad o Fecsico.

‘Mae e wedi gwneud ei hun yn gyfoethog iawn,’ medden ni. ‘Wrth gwrs,’ medden nhw. ‘Achos mae e wedi gweithio. Mae pobl yn gyfoethog achos maen nhw’n gweithio’n galed. Mae pobl yn aros yn dlawd achos maen nhw’n ddiog a dydyn nhw ddim eisie gweithio.’

Wrth i ni godi ein hunain o’r llawr, daeth esboniad o fath am eu hagwedd. Rhai o’r Wcrain oedden nhw yn wreiddiol, wedi dianc o’r hen Undeb Sofietaidd.

Roedden nhw’n casáu’r system Sofietaidd lle 'doedd dim byd yn gweithio a rhaid ciwio am bopeth.’ Ond nawr roedd yr Arlywydd Trump yn rhyddhau America o afael Comiwnyddiaeth.

Beth? Wel, roedd Obama’n Sosialydd, yn Gomiwnydd, on’d oedd e? Roedd Obama am gymryd arian oddi wrth y cyfoethog, gweithgar, a’i roi i’r rhai tlawd, sy’n ddiog.

‘Roedd Obama eisie troi America yn wlad ofnadwy fel Ciwba,’ meddai’r gŵr. A sori, dim amser i ddadlau mwy, rhaid iddyn nhw ddal eu bws. A ta-ta, guys.

Roeddwn yn hollol syn, ac yn siomedig bod pobol yn gallu meddwl fel y ddau yna.

Ond erbyn hyn, rwy’n credu bod y sgwrs wedi gwneud daioni i mi! Mae clywed barn wahanol yn gwneud i ni feddwl. Meddwl am bethau o’r newydd, a hynny’n llesol.

Mae digon o bobol yn dadlau yn erbyn ein crefydd ni. Gallen ni anwybyddu’r rhain. Ond na, mae’n werth gwrando a cheisio eu hateb nhw. Gan feddwl o’r newydd am y pethau ry’n ni’n credu ynddyn nhw. Mae hynny’n cryfhau ein cred.

Gobeithio cewch chithe brofiadau llesol ar eich gwyliau chi!

Pob hwyl, Robat

Lansio paratoadau pasiant 'Cerrig Milltir' Cristnogaeth Cymru

Myfyrdod arweinydd Capel y Nant, Robat Powell, o rifyn mis Mai o'n cylchgrawn misol 'Bwrlwm'. Apel sydd gan Robat ar i aelodau ymuno i gyflwyno pasiant lliwgar a bywiog gan y Parch Dewi Myrddin Hughes fydd yn portreadu hanes Cristnogaeth yng Nghymru  ...

Roedd hi’n noson gofiadwy yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin. Bu rhai ohonon ni yno ar ddiwedd Ebrill yn gwylio’r ddrama gerdd newydd ‘Dau Hanner Brawd.’ Cyfansoddwr y gerddoriaeth rymus oedd Eric Jones ac awdur y sgript oedd Nan Lewis.

Mae’r ddrama’n adrodd hanes o Lyfr Genesis. Abraham yn dod yn dad i ddau fab, Ishmael ac Isaac, trwy ddwy ddynes wahanol. Sarai, gwraig Abraham, yw mam Isaac, a’r gaethferch Hagar yw mam Ishmael.

Mae’r ddrama’n dod â’r hen hanes yn fyw iawn ; llawenydd y werin bobl wrth i’r meibion gael eu geni, ond wedyn y drwgdeimlad a’r genfigen rhwng y ddwy fam a’r meibion. Mae slant Nan Lewis ar y stori hefyd yn rhagweld y gwrthdaro presennol rhwng Iddewon Israel a’r Palestiniaid.

Gall geiriau’r Beibl fod yn sych neu’n anodd weithiau. Ond mae rhoi cymeriadau’r hen storïau ar y llwyfan yn eu gwneud yn bobol o gnawd a gwaed – gwmws fel ni!

Mae ffilmiau am hanesion y Beibl hefyd yn gallu bod yn effeithiol iawn. Pwy all anghofio Charlton Heston yn dangos ei gyhyrau yn ‘The Ten Commandments’, neu berfformiad Robert Powell – dyna i chi enw da ar actor – fel ‘Jesus of Nazareth’? Roedd gweld croeshoelio Iesu yn ffilm Mel Gibson ‘The Passion of the Christ’ yn ormod i rai pobol ei stumogi.

A nawr daeth cyfle i ni yng Nghapel y Nant! Fel rhan o’n rhaglen i ddathlu Dengmlwyddiant Capel y Nant, mae’r Parchg Dewi Myrddin yn ysgrifennu pasiant o’r enw ‘Cerrig Milltir.’ Bydd hwn yn dangos golygfeydd o hanes y Ffydd Gristnogol yng Nghymru. Golygfeydd cyffrous, llawn tyndra, a rhai mwy ysgafn. Byddwn yn cyflwyno’r cynhyrchiad ar nos Iau, Medi 20.

Ond pwy fydd ein Mel Gibson a’n Charlton Heston ni? Byddwn yn cyfarfod am y tro cynta ar nos Fawrth, Mai 1af, i gael ein rhannau yn y cynhyrchiad. Bydd angen help hefyd gyda’r gwisgoedd, y coluro a’r llwyfan. Nid gwaith amaturaidd fydd hwn!

Bydd yr ymarferion yn para drwy’r haf. Digon o gyfle i chi ymuno â’r cwmni!

Golygfeydd tua 5-6 munud yr un fydd y rhain. Felly, fydd dim cannoedd o linellau i’w dysgu gan neb. Allwch chi gyfrannu rhywbeth i’r gwaith? Dewch i gael hwyl yn y ddrama!

Pob hwyl, Robat

Latest comments

28.09 | 11:17

Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d...

19.09 | 09:07

Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy...

13.01 | 16:51

Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw...

08.01 | 15:43

Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!