Gwyliwch ein deiet i achub y Ddaear ...

Caru cymydog - rheswm i ni fwyta llai o gig

Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell, yn gofyn beth y gall pawb ohonom wneud i helpu arafu bygythiadau cynhesu byd-eang (Bwrlwm, Tachwedd 2019). Bwyta llai o gig eidon a chig oen yw un o'r ffyrdd mwya' effeithiol, meddai ...

Mae’n braf gweld y plant sy’n byw’n bell. Ond y tro diwetha gwelon ni un o’r meibion a’i wraig nid sgwrs gawson ni, ond pregeth! Un gyfeillgar, ond pregeth.

Dydyn ni, medden nhw, ddim yn bwyta’r pethau iawn. Rhaid i ni newid. Nid er mwyn colli pwysau, ond i geisio achub y blaned.

Mae’r ddau yn llysfwytawyr. A dyna sut dylen ni fod hefyd. Peidio bwyta cig, yn enwedig cig oen a chig eidion. Ac rwy’n gwybod bod y mab a’i wraig yn llygad eu lle.

Ry’n ni wedi sôn digon am y ffaith bod ein planed yn cynhesu ac am effeithiau hyn - mwy o sychder, mwy o law, mwy o stormydd enbyd, lefel y môr yn codi. Ond sut gall peidio bwyta cig arafu’r newid yma?

Wel, nwyon fel carbon diocsid, methân a nitrous oxide sy’n dal y gwres yn yr atmosffer. Mae gwartheg a defaid yn rhyddhau 40% o’r methân yma ac 20% o’r carbon diocsid trwy dorri gwynt. Mae angen lleihau’r biliwn o wartheg a’r 1.2 biliwn o ddefaid yn y byd. Os oes rhaid bwyta cig, mae ffowlyn yn llawer llai niweidiol.

Hefyd, mae 33% o’r carbon diocsid yma’n dod o drafnidiaeth – ceir, lorïau, llongau ac awyrennau. Mae cludo cig o’r Ariannin neu orennau o’r Eidal yn cyfrannu’n sylweddol at y nwyon hyn. Prynu bwyd wedi’i gynhyrchu’n lleol yw’r ateb.

Dyma ffordd syml i ni leihau ein hôl troed carbon. Gartre, ryn ni’n bwyta llawer llai o gig nawr. Pan awn mas am ginio byddaf yn dewis y pysgod neu’r bwyd llysieuol - sy’n fwy amrywiol a blasus nag erioed.

Mae rhai’n gofyn pam dylai’r capel boeni am hyn. Doedd Iesu byth yn siarad am newid hinsawdd! Na, doedd y mater ddim yn ofid bryd hynny.

Ond siaradodd Iesu am garu ein cyd-ddyn. Ac mae’r cynhesu bydeang a’r llygredd mae gwledydd y Gorllewin yn achosi yn effeithio fwya ar y gwledydd tlawd. Cofiwch Gorwynt Irma’n chwalu ynysoedd yn y Bahamas ym mis Medi. Yn dinistrio bywydau miloedd oedd yn ddigon tlawd eisoes.

Os y’n ni’n caru ein cymydog rhaid eu hamddiffyn rhag effeithiau gwaetha newid hinsawdd. Ac amddiffyn dyfodol ein plant a’n hwyrion. Gwyliwch eich deiet!

Iaith Brexit yn ennyn tafodau’r tân

Yn Bwrlwm Hydref, mae ein harweinydd eglwysig Robat Powell yn asesu effaith yr iaith ymosodol sydd ar gynnydd gan y papurau newydd 'poblogaidd', ar gyfryngau cymdeithasol ac yn Nhy'r Cyffredin ar bwnc Brexit. Dyma'r ymgyrch, ddaeth yn bennaf o rengoedd y Blaid Geidwadol, i rwygo cenhedloedd a rhanbarthau'r Deyrnas Gyfunol allan o'r Undeb Ewropeaidd lle buom yn aelodau cyfrifol ac arweiniol ers 1973 ...

Mae Tŷ’r Cyffredin yn Llundain yn lle sy’n cadw safonau. Lle mae’r aelodau seneddol yn parchu ei gilydd. Er mwyn osgoi sylwadau personol mae’n rhaid i’r ASau sôn am ei gilydd fel, ‘The Honourable member for ...’

Dyw’r ASau ddim yn cael defnyddio rhai geiriau, fel ‘slimy’, ‘idiot’ a ‘coward.’ Er mwyn cadw’r safonau.

Ond mae geiriau eraill ganddyn nhw. Mae’r sosban newydd ferwi drosodd yno.

Galwodd y Prif Weinidog Jeremy Corbyn yn ‘big girl’s blouse.’ Hyfryd, yntê? Dywedodd Mr Johnson, hefyd, fod ofnau aelodau seneddol o gael eu llofruddio yn ‘humbug.’ Roedd aelodau o’r pleidiau eraill hefyd yn defnyddio iaith ddirmygus am y llywodraeth Doriaidd.

Petai plant ysgol yn siarad yn gas fel hyn heb barch at ei gilydd byddai’r athrawon yn rhoi pryd o dafod iddyn nhw!

Oherwydd mae geiriau’n gallu brifo. Mae’r bwli’n defnyddio geirau er mwyn bygwth. Roedd geiriau’r Prif Weinidog am Jo Cox, yr AS gafodd ei llofruddio yn 2016, yn dangos diffyg parch ati ac yn brifo gŵr gweddw Jo Cox ac ASau eraill.

Ond cofiwch – roedd tafod Iesu yn ddigon siarp pan oedd pobol yn haeddu hynny. Buodd e’n lladd ar y Phariseaid a gwŷr y gyfraith.

Galwodd Iesu nhw’n ‘ddauwynebog’, yn ‘arweinwyr dall,’ a hyd yn oed yn ‘nythaid o nadroedd gwenwynig!’ Fyddai fe ddim yn cael dweud hynny yn Nhŷ’r Cyffredin!

Ond gall geiriau cas agor y drws i bethau gwaeth. I drais. I ymosod a lladd. Mae eithafwyr Brexit yn defnyddio geiriau Boris Johnson i gyfiawnhau bygwth a bwlio pobol sy yn erbyn Brexit.

Cafodd un AS neges yn ei galw hi’n ‘fradwr’ ac yn addo byddai hi’n ‘dead in a ditch’ pe bai hi’n ceisio atal Brexit.

Dylai hyn godi ofn ar bawb ohonom. Mae pobol beryglus iawn yn llechu yn y cysgodion.

Mae cyfrifoldeb ar ein harweinwyr politicaidd i gyd. Cyfrifoldeb i dawelu pob tymer boeth. I drafod yn rhesymol, heb alw enwau ar ei gilydd.

Beth bynnag a ddigwydd ar ôl Hydref 31, bydd llawer o bobol yn siomedig. Bydd llawer yn grac. A bydd eisie i’n harweinwyr dawelu’r dyfroedd cyn i storm dorri.

Gallan nhw ddechrau nawr trwy ddangos parch i’w gilydd a gwylio’r iaith maen nhw’n ddefnyddio. A dylai’r Prif Weinidog osod esiampl.

Os am ei wneud - gwnewch e heddiw!

Yn ei fyfyrdod yn rhifyn mis Medi, 2019, ym misolyn yr eglwys, Bwrlwm, mae Arweinydd Capel y Nant, y Prifardd Robat Powell, yn ystyried cerdd gan y diweddar fardd Gwynfor ap Ifor o'i gyfrol 'Gwaddol' ...

Gawsoch chi flas ar yr Eisteddfod Genedlaethol eleni?

Efalle trwy luniau’r teledu. Neu, os oeddech chi’n ffodus, ar y Maes yn Llanrwst? Bues i yno, a mwynhau yr un wefr â fy ymweliad cynta erioed - 1967 yn Y Bala!

Mae rhywun yn gwneud yr un pethau ym mhob Eisteddfod. Eto i gyd, maen nhw’n wahanol bob tro. Fel meddai un bardd, yr Eisteddfod yw ‘Y ffrwyth sydd yn fythol ffres.’ Gwylio’r un seremonïau, ond bardd a llenor gwahanol i’r llynedd sy’n ennill. Cwrdd â’r un ffrindiau, ond mae blwyddyn o brofiadau newydd i sôn amdanyn nhw.

Pleser bythol arall ar y Maes yw prynu’r llyfrau. Ac eleni rwy wedi dwlu ar gyfrol o farddoniaeth Gwynfor ab Ifor, ‘Gwaddol.’

Mae peth tristwch o amgylch y gyfrol hon. Bu farw Gwynfor yn 2015, yn 61 oed. Dyma’r casgliad cynta o’i waith, yn rhy hwyr iddo ei weld yn ymddangos. Ond fe enillodd y Gadair yn Eisteddfod Abertawe yn 2006, a bydd yr awdl honno, ‘Tonnau’, a llawer o’i gerddi eraill yn byw am byth. Cerddi telynegol. Cerddi ysbrydol, yn cynnwys emynau.

Mae nifer o’i gerddi yn trafod amser. Beth yw ystyr amser. Sut mae ein hamser ni yn diflannu. Mae un cwpled trawiadol gydag e yn y gerdd ‘Ar hanner brawddeg’:

  ‘Yn nhreiglad y cread crwn

  Heddiw yw’r oll a feddwn ..’

Beth mae hyn yn ei feddwl? Yng nghanol cread mawr Duw, yng nghanol yr holl amser sy’n mynd heibio yn y cread, dim ond un peth gallwn ni’i reoli: y foment yma. Yr awr hon.

Gallwn hel atgofion am y gorffennol, cofio am bleserau ac am sawl siom. Ond ry’n ni’n methu newid dim ohono.

Hefyd, gallwn baratoi at y dyfodol, gwneud cynlluniau, ond does dim sicrwydd y bydd ein cynlluniau’n llwyddo neu’n digwydd hyd yn oed. Yr unig beth mae gyda ni afael arno yw ... heddiw. Gallwn wneud rhywbeth neu beidio â’i wneud – heddiwyn unig!

Mae’n hynny’n werth ei gofio yn ein bywydau ni.

Mae’n bwysig hefyd i Gapel y Nant ar drothwy blwyddyn arall ar ôl gwyliau’r haf. Gwnawn bopeth a allwn – yr awr hon: addoli mewn oedfa â’n holl galon, cefnogi ein gilydd, cynnig syniadau.

Gadewch i ni achub pob cyfle – nid yfory, ond heddiw!

PERERINDOD I FRO'R BARDD A'R GWELEDYDD WALDO

Yn rhifyn Gorffennaf / Awst 2019, mae Arweinydd Capel y Nant, y Prifardd Robat Powell yn edrych ymlaen at Bererindod Flynyddol yr eglwys ar Ddydd Sul, Gorffennaf 14.

Pryd fuoch chi yn Sir Benfro ddiwetha’?


Dyma un o siroedd harddaf Cymru, os nad Ynysoedd Prydain i gyd. Yn ôl cylchgrawn y National Geographic, Sir Benfro sydd â’r arfordir ail orau yn y byd cyfan - 186 milltir o arfordir, a 50 milltir o draethau! Mae mynyddoedd moel y Preselau yn drawiadol iawn hefyd.


Mae diwylliant dynol yn hen yn y sir. Mae cromlechi yma fel Pentre Ifan, lle claddwyd pobl 5,500 o flynyddoedd yn ôl. O fan hyn daeth y cerrig glas i godi Côr y Cewri – Stonehenge.


Dyma leoliad rhai o straeon y Mabinogi. Roedd llys Pwyll a Rhiannon yn Arberth. Gerllaw mae’r twnel lle aeth Pwyll i lawr i Annwn i gymryd lle Arawn, brenin yr is-fyd, am flwyddyn.


Ac i Sir Benfro byddwn yn cychwyn o Gapel y Nant ar ddydd Sul, Gorffennaf 14 – ein Pererindod!

Dw i ddim yn addo y byddwn yn cyrraedd glan y môr a’r traethau. Ond byddwn yn ymweld â nifer o lefydd sy’n bwysig yn hanes y bardd a’r heddychwr Waldo Williams.

Yn ardal Llandysilio, Mynachlog-ddu a Chas-mael, dan gysgod mynyddoedd y Preselau, cawn weld lle bu Waldo’n byw, yn addoli, yn gweithio, ac yn cyfansoddi rhai o’i gerddi enwog.


Dim ond un gyfrol o farddoniaeth gyhoeddodd Waldo, ‘Dail Pren.’ Ond yn hon mae rhai o gerddi mwya cofiadwy’r Gymraeg; lle mae’r bardd yn galw ar fynyddoedd y Preselau ...


‘Mur fy mebyd, Foel Drigarn, Carn Gyfrwy, Tal Mynydd,
Wrth fy nghefn ym mhob annibyniaeth barn ..’


a lle mae’n creu darluniau hudolus fel ‘Cofio’:


‘Un funud fach cyn elo’r haul o’r wybren,
Un funud fwyn cyn delo’r hwyr i’w hynt ..’


Yn rhyfedd, doedd Waldo ei hun ddim mor hoff o’r gerdd hon. Meddyliai fod pobl yn rhoi gormod o sylw iddi. Ysgrifennodd Waldo rai o’i gerddi gorau pan oedd yn gweithio dros Glawdd Offa mewn ysgolion yn Lloegr. Ond Sir Benfro oedd yr ysbrydoliaeth iddo o hyd.


Mae naws ysbrydol iawn yn Sir Benfro. Teimlai Waldo ei fod yn rhan o’r
ysbrydolrwydd hwn, fel mae’n dweud yn ei gerdd ‘Brawdoliaeth’:


‘Mae rhwydwaith dirgel Duw
Yn cydio pob dyn byw ..’


Cwmni braf, hanes, barddoniaeth a’r ysbrydol. A phryd o fwyd blasus tua chwech o’r gloch. Fe gewch y cyfan ar y Bererindod eleni. A chyfle i gwrdd â Pwyll, Rhiannon – a Waldo. Cofiwch ddod gyda ni!

EWROP - GWEITHIWN DROS UNO A CHYDWEITHIO YN LLE CREU OFN A RHANIADAU

Ynghanol yr helbulon rhyfeddol cyfoes ynglyn a'r cais i chwalu aelodaeth y Deyrnas Gyfunol yn yr Undeb Ewropeaidd, dyma sylwadau Eurig Davies - Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Capel y Nant - ar ein perthynas fel Cristnogion gyda gwledydd y cyfandir.

Mae Eurig yn gyfrannwr newydd i golofn 'Y Gair Ola' yn Bwrlwm, negesydd misol Capel y Nant (rhifyn Mehefin 2019). Fe'i croesawn i wefan yr Eglwys.

Mae’r drafodaeth am le gwledydd Prydain yn Ewrop dipyn hŷn na’r
Undeb Ewropeaidd.


Ynghanol yr Ail Ryfel Byd bu tri unigolyn o weledigaeth yn
gweithio tuag at sefydlu Ewrop heddychlon heb na thrais na gormes.


Oherwydd bod Robert Schuman (Prif Weinidog Ffrainc), Konrad Adenaur (Canghellor Gorllewin yr Almaen) ac Alcide de Gaspieri (Prif Weinidog yr Eidal) yn rhannu’r un ffydd Gristnogol, mi lwyddon nhw i ennill ymddiriedaeth a pharch eu pobl a chreu heddwch ystyrlon drwy Ewrop.


Dyna ddechrau’r Undeb Ewropeaidd.


Yn ystod eu trafodaethau pwysig, aeth y tri ar encil gweddigar i fynachlog Fenedictaidd ar lan y Rhein cyn llofnodi Cytundeb Paris ym
1951, cytundeb a osododd seiliau economaidd Ewrop wedi’r Rhyfel.


Credai’r tri y byddai ailadeiladu Ewrop ar sail heddwch a chymod ond yn
bosibl pe bai’r Gymuned Ewropeaidd wedi’i gwreiddio’n ddwfn mewn
egwyddorion Cristnogol.


Mae maddeuant a chymod wrth galon efengyl Crist. Addolwn Dduw a
anfonodd ei fab i’r Groes er mwyn i ni dderbyn maddeuant a chael ein
cymodi iddo. Felly, yn ein tro, mae disgwyl i ni faddau i eraill.


Sylweddolodd Schuman mai’r prif reswm dros ryfeloedd Ewrop oedd
anallu i faddau a chymodi, a bod y cosbau llym a orfodwyd ar yr Almaen
wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf wedi rhoi cyfle perffaith i Natsïaeth dyfu a
llewyrchu. Er mwyn heddwch parhaol yn Ewrop byddai’n rhaid croesawu’r Almaen at y bwrdd ar sail cyfartal.


Pwyslais y Beibl ar gydraddoldeb pob enaid byw fyddai sail Hawliau
Dynol yn yr Ewrop newydd, ond sylweddolodd Schuman fod cenhedloedd hefyd yn gyfartal, a bod undeb cenhedloedd o dan awdurdod Duw yn ganolog.


Er bod sefyllfa Ewrop a’i gwleidyddion presennol yn wahanol i’r 1940au
a’r 50au, ni allwn wadu llwyddiant y tadau cynnar i ddod â heddwch i
Orllewin Ewrop.

Yn union fel hwythau, oni ddylem fod yn driw i’n ffydd a
gweithio tuag at uno, cytuno a chydweithio yn hytrach nag ynysu a chreu
ofn a rhaniadau - ymhob agwedd o’n bywyd?

Oes angen tatŵ i ddangos ein bod yn Gristnogion?

Myfyrdod Robat Powell, Arweinydd Capel y Nant, o gylchgrawn misol yr eglwys, 'Bwrlwm', am fis Mai 2019.

Oes tatŵ gyda chi? Byddwch yn onest!
Yn ddiweddar, lledodd tatŵs trwy ein pobol ifanc fel pla - ar eu breichiau, eu gyddfau, a sawl man cudd arall. Anodd adnabod pêl-droedwyr heddiw oherwydd y llu o datŵs sy’n cuddio eu croen.
Sut ry’ch chi’n ymateb i hyn? Un peth sy’n sicr, nid peth newydd yw e. Mae’r tatŵ wedi perthyn i bron pob diwylliant ar y ddaear ym mhob oes. Mae archeolegwyr wedi darganfod cerfluniau bach pren yn Romania a’r Almaen sy’n 40,000 mlwydd oed, ac ar gyrff y rhain mae marciau wedi’u torri. Ie, tatŵs!
Mae’r tatŵs hynaf sy gyda ni ar groen go iawn yw’r rhai ar gorff Ötzi, y Dyn Iâ a gafwyd wedi’i rewi yn yr Alpau. Mae Ötzi yn 3,400 mlwydd oed.
Yn amser yr Hen Destament roedd yr arfer i’w gael, mae’n amlwg, am fod Llyfr Lefiticus (Pen 19) yn gorchymyn: ‘Peidiwch â thorri unrhyw farciau arnoch eich hunain ..’
Pan aeth Marco Polo o Fenis i Tseina yn 1271, cafodd fod canolfannau tatŵo yno. ‘Daw pobl yma o’r India,’ ysgrifennodd wedyn, ‘i gael peintio eu croen gyda’r nodwydd ..’
Daw’r gair ‘tatŵ’ o iaith Tahiti. Pan hwyliodd Capten Cook i’r ynys yn 1769 gwelodd fod yr arfer yn gyffredin yno, a daeth â’r gair a’r ffasiwn yn ôl. Synnodd pobl Lloegr i weld fod llawer o forwyr Cook wedi cael tatŵ eu hunain pan oedden nhw ymhlith ynyswyr Môr y De. Yn ystod y 19fed ganrif daeth y tatŵ yn fathodyn ar fraich pob llongwr, ac ymhlith troseddwyr hefyd.
Er syndod, daeth yn ffasiynol yng nghanol aristocratiaeth Lloegr yn ogystal. Yn 1890 nododd yr Harmsworth Magazine fod un o bob pump o’r aristocratiaeth wedi talu am datŵ! Mae’n ffaith bod tatŵs gan y brenhinoedd Edward y Seithfed a Siôr y Pumed.
Erbyn heddiw, wrth gwrs – heb datŵ, heb ddim! Ond pam, O pam?
Yn fy marn i, mae’n ffordd i bobl ddweud pwy ydyn nhw. Rhan bwysig o’u hunaniaeth. Ffordd o weiddi ‘Edrychwch – dyma fi! Yn unigryw!’ A gwêl pawb eu bod yn wahanol.
Tybed a yw pobl eraill yn gallu gweld ein bod ni’n Gristnogion? Nid yn ôl ein tatŵs, ond yn ôl ein ffordd o fyw, a’n ffordd o drin pobl eraill. Byddai hynny’n brawf diddorol iawn.

'Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy'n fyw ...?

Myfyrdod Arweinydd Capel y Nant, Robat Powell, o Bwrlwm, cylchgrawn bach misol yr eglwys am fis Ebrill.

Mae’n rhyfedd beth gewch chi mewn bedd.

Yn 1922 roedd yr archaeolegydd Howard Carter yn chwilio am feddau brenhinoedd yr Hen Aifft. Daeth o hyd i un o’r beddau mwya gwerthfawr erioed – un y Ffaro Twtankhamwn a fu farw yn 1323 Cyn Crist!

Roedd pedair ystafell yno. Roedd lladron wedi dwyn llawer o’r gemau oddi yno eisoes. Er hynny, cafodd Carter 3,500 o eitemau hardd a drudfawr yno. Heddiw mae’r rhain yn amhrisiadwy.

Cafodd y proffwyd Mohammad ei gladdu yn 632 yn ei dŷ yn ninas Medina. Yn yr Oesoedd Canol codwyd cromen (dome) dros y fan, a bellach dyma adeilad prydferth y Gromen Werdd, man sanctaidd i bob Mwslim. Cewch fynd i’r adeilad, ond mae ffens aur a llenni du o amgylch bedd y proffwyd i’w gadw o olwg pobl.

Weithiau bydd esgyrn neu lwch pobl enwog iawn mewn bedd. Yn Abaty San Steffan (Westminster) claddwyd brenin Lloegr Edward Gyffeswr yn 1066.

Wedi hynny claddwyd y rhan fwya o frenhinoedd Lloegr yno tan Sior II yn 1760.

Mewn rhan o’r Abaty, yng Nghornel y Beirdd, mae olion llawer o lenorion a gwyddonwyr Prydain dan ddwsinau o gerrig beddau. Yno gorwedd olion Wordsworth, Keats a Kipling, a hyd yn oed Rabbie Burns.

Gallwn feddwl taw troi yn ei fedd mae’r Albanwr a’r gwerinwr hwn wrth weld sut mae’r Saeson wedi ei fachu!

Mae beddau eraill yno yn cadw llwch gwyddonwyr fel Newton, Darwin a Hawking, ac actorion fel Laurence Olivier.

Mae gyda ni fedd cenedlaethol yng Nghymru hefyd. Rhwng adfeilion Abaty Cwm Hir gellwch weld bedd Llywelyn ap Gruffydd, ein Llyw Olaf, a laddwyd yn 1282.

A’r mis yma, adeg y Pasg, mae Cristnogion yn troi at fedd. Nid bedd llawn o drysor, neu un yn dal esgyrn un enwog. Ond bedd gwag.

Pan aeth y gwragedd at fedd Iesu i eneinio ei gorff marw dwedodd y ‘ddau ddyn’ wrthyn nhw: ‘Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy’n fyw ..?’

A dyna baradocs bedd gwag y Pasg i ni. Mae’r gwacter yn llawn o ystyr.

Mae marwolaeth yn troi’n fywyd. Mae anobaith yn troi’n obaith. Mae un bedd oer, tywyll, gwag, yn werth llawer mwy na’r holl drysorau ym medd Twtankhamwn. Pasg Hapus i chi i gyd!

Latest comments

28.09 | 11:17

Hoffem llongyfarch Dr Fiona Gammon ar ei swydd newydd . Pob d...

19.09 | 09:07

Methu ymuno borema, 19 Medi am 10am. Ydi'r amser neu'r ddolen gy...

13.01 | 16:51

Diolch yn fawr, Melda. Roedd criw Capel y Nant wedi gwerthfaw...

08.01 | 15:43

Braf oedd cael eich cwmni yn Llwynrhydowen. Galwch eto!